Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 30 Mawrth 2022.
O edrych ar yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r ddarpariaeth, fel rhan o'u cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, mae'n ofynnol ar bob awdurdod lleol ddisgrifio'r hyn maen nhw'n ei wneud er mwyn sicrhau bod adnoddau ar gael yn y Gymraeg, yn seiliedig ar y review bydd pob awdurdod wedi ei wneud o dan y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol. Felly, mae hynny'n rhan o'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Ac, yn fwy eang na hynny, mae gwaith eisoes ar y gweill i sicrhau cytundeb trwyddedu gyda chwmnïau cyhoeddi masnachol i gael fersiynau Cymraeg o adnoddau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, fel profion dyslecsia ac adnoddau therapi iaith a lleferydd. Felly, mae'r gwaith yna yn digwydd ar hyn o bryd.