2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 30 Mawrth 2022.
5. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith amser chwarae yn ystod y diwrnod ysgol ar iechyd meddwl plant? OQ57883
Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddwyd canllawiau statudol gennym ar gyfer ysgolion ar gefnogi anghenion llesiant poblogaeth yr ysgol gyfan. Mae'r canllawiau'n hyrwyddo ac yn cydnabod yr effaith y mae chwarae hunangyfeiriedig a ddewisir yn rhydd yn ei chael ar iechyd a llesiant plant, a bydd ein gwaith yn cael ei werthuso'n llawn yn y blynyddoedd i ddod.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae chwarae'n hanfodol i iechyd a llesiant plant, ac yn rhan angenrheidiol o'u datblygiad cymdeithasol gan ei fod yn helpu i ddatblygu sgiliau i ymdopi â heriau, wynebu ansicrwydd, a sut i fod yn hyblyg ac addasu i amgylchiadau gwahanol. Ers 1995, mae ymchwil wedi dangos bod amseroedd egwyl yn y diwrnod ysgol wedi gostwng hyd at 45 munud yr wythnos i blant rhwng pump a saith oed, ac wedi gostwng 65 munud i rai rhwng 11 ac 16 oed. Mae hyn wedi golygu bod wyth o bob 10 plentyn bellach yn cael llai nag awr o weithgarwch corfforol y dydd. Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod plant y tu allan i'r ysgol 50 y cant yn llai tebygol o gyfarfod â ffrindiau wyneb yn wyneb, gyda 31 y cant o blant yn dweud nad ydynt yn aml yn cwrdd â chyfoedion a ffrindiau, o'i gymharu â 15 y cant yn 2006. Rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau yn cytuno bod tueddiadau fel hyn yn peri pryder gan eu bod yn newid y ffordd y mae plant yn datblygu'n oedolion ac yn gallu arwain at ganlyniadau annisgwyl, yn enwedig o ran iechyd meddwl. Weinidog, yn gyntaf, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r goblygiadau i iechyd plant ysgol o ganlyniad i golli amser chwarae, a pha gynlluniau sydd gennych ar waith i gynyddu amser chwarae i blant ledled Cymru? Diolch.
Mae'r Aelod yn codi pwyntiau pwysig iawn yn ei gwestiwn atodol. Bydd yn gwybod, fel rhan o'u dyletswyddau yn ymwneud â digonolrwydd cyfleoedd chwarae, o dan Fesur 2010, y bydd pob awdurdod lleol yn cyflwyno eu hasesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae eleni i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a fydd yn ein galluogi i gynnal adolygiad o'r rheini. Mae Chwarae Cymru eisoes yn gweithio gydag awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer yr asesiadau hynny a'r cynllun gweithredu cynnar. Er mwyn cydnabod y baich ychwanegol ar awdurdodau, rydym wedi ymestyn y dyddiad cau er mwyn caniatáu i'r asesiadau hynny gael eu cyflwyno ychydig yn hwyrach nag y byddent wedi cael eu cyflwyno fel arall, i adlewyrchu'r effaith yn yr ysgol. Rydym wedi gofyn i Chwarae Cymru gwmpasu ymyriadau amser chwarae mewn ysgolion, a byddant yn datblygu rhaglen gymorth i helpu ysgolion i fabwysiadu dull ysgol gyfan i ddarparu hawl y plant i chwarae. Fe fydd yn gwybod hefyd wrth gwrs am y gwaith y mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn ei ariannu mewn perthynas â'r prosiect gwyliau Gwaith Chwarae, Haf o Hwyl, a Gaeaf Llawn Lles, sy'n dod i ben yfory.
Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Ruby, sy'n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ac yn aelod ifanc o'r Senedd dros y Rhondda. Gwn y bydd y Gweinidog yn ymweld â'r ysgol yn fuan, yn dilyn y cynlluniau cyffrous i adeiladu ysgol newydd sbon ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac rwy'n siŵr y byddai Ruby wrth ei bodd yn rhoi taith o'r ysgol ichi. Buom yn trafod amrywiaeth o faterion yn ymwneud â bywyd ysgol o ddydd i ddydd, ond yr un neges glir drwyddi draw oedd yr effaith sylweddol y mae tlodi'n ei chael ar ein pobl ifanc. Mae tlodi, yn ddi-os, yn effeithio ar fywyd y cartref a'r ysgol, o bryderon ynghylch cynhwysiant digidol i dlodi mislif. Mae hyn yn effeithio ar iechyd meddwl ein pobl ifanc. Pa gamau y mae'r Gweinidog addysg yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl y bobl ifanc fwyaf difreintiedig yn y Rhondda, yn enwedig yn awr gyda'r argyfwng costau byw?
Mae'r Aelod yn codi cwestiwn pwysig iawn. Fe fydd yn gwybod ein bod wedi cyhoeddi ein fframwaith ar gyfer dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant y llynedd. Ac eleni, rwy'n falch o ddweud bod y gyllideb ar gyfer hynny wedi cael ei hymestyn yn sylweddol er mwyn gallu darparu cwnsela ychwanegol, er mwyn gallu darparu estyniad i'r mewngymorth gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a ddarperir yn yr ysgol, yn ogystal â hyfforddi athrawon i allu nodi anghenion llesiant ac iechyd meddwl eu disgyblion, a hefyd i ddarparu cymorth i'r disgyblion hynny yn uniongyrchol. Fe fydd hefyd yn gwybod, wrth gwrs, am y gwaith a wnawn ar dreialu gweithgareddau ychwanegol mewn ysgolion ar hyn o bryd, ac mae'r adroddiadau amser real yr ydym wedi'u cael o'r treialon hynny yn dweud eu bod yn fuddiol iawn o ran llesiant ac iechyd meddwl rhai o'n disgyblion mwyaf difreintiedig, efallai, yn aml iawn. Felly, edrychwn ymlaen yn fawr at weld canlyniadau'r treialon hynny ymhen ychydig wythnosau.