– Senedd Cymru am 5:38 pm ar 26 Ebrill 2022.
Eitem 11 sydd nesaf, a'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal yw eitem 11, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y cynnig yma. Eluned Morgan.
Cynnig NDM7982 Eluned Morgan
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Iechyd a Gofal sy’n ymwneud â thrafodion masnachol mewn organau i'w trawsblannu: troseddau ailldiriogaethol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf y cynnig, ac rwyf heddiw'n argymell bod y Senedd yn cydsynio i gynnig cydsyniad deddfwriaethol Rhif 4 ar Fil Iechyd a Gofal y DU. Mae'r gwelliant hwn yn benodol iawn ei natur ac mae'n ymwneud â thrafodion masnachol mewn organau i'w trawsblannu dramor—fel y'i gelwir yn dwristiaeth organau. Bydd Aelodau'n cofio bod cydsyniad eisoes wedi'i roi ar gyfer y cymalau eraill yn y Bil sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, felly, nid yw hwn yn gyfle i ailagor unrhyw feysydd eraill y cytunwyd arnyn nhw eisoes, ond sydd wedi'u cyfyngu i ystyried y gwelliant penodol hwn.
Cafodd cymal ei gynnwys yn y Bil ar 16 Mawrth gan yr Arglwydd Hunt i fynd i'r afael â thwristiaeth organau. Mae hwn yn arfer gwarthus lle mae pobl o wledydd datblygedig yn teithio dramor i gael trawsblaniadau organau gan bobl sydd mewn sefyllfa anobeithiol, neu mewn gwledydd sydd â record hawliau dynol amheus. Mae'r Arglwydd Hunt wedi bod yn bryderus ers cryn amser am yr arfer hwn, ac mae'n dymuno ei weld yn cael ei wahardd yn y Deyrnas Unedig.
Er y credir bod nifer y bobl sy'n teithio dramor i gael trawsblaniadau fel hyn yn isel, yn enwedig yng Nghymru, cytunaf â'r Arglwydd Hunt fod yn rhaid i ni wneud ein rhan i geisio atal y fasnach wrthun hon o ddioddefaint dynol. Bydd angen gofal y GIG ar bobl sy'n cael trawsblaniadau yn y mathau hyn o amgylchiadau pan fyddant yn dychwelyd, a gellid eu gwneud yn anos oherwydd diffyg gwybodaeth am amgylchiadau'r trawsblaniad. Mae risg ychwanegol hefyd y gallent ddatblygu heintiau, gyda'r angen am ofal dilynol. Mae hyn yn rhoi beichiau ychwanegol ar y gwasanaeth. Felly, rydym yn atal y math hwn o arfer er budd pawb ac yn sicrhau bod pobl yn mynd drwy'r prosesau priodol.
Mae'r bwriad y tu ôl i welliant yr Arglwydd Hunt i atal yr arferion hyn yn rhywbeth yr wyf yn siŵr yr ydym ni i gyd yn ei gefnogi. Fodd bynnag, fel y'i drafftiwyd, teimlwyd bod y gwelliant yn rhy gymhleth ac anweithredol yn ymarferol gan ei fod yn gofyn am brawf bod cydsyniad penodol i roi organau wedi'i roi gan y rhoddwr neu ei deulu agos. Mae hefyd yn gosod beichiau sylweddol eraill ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac eraill. Felly, cyflwynodd Llywodraeth y DU welliant amgen ar 28 Mawrth, a basiwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 30 Mawrth ac a gadarnhawyd gan Dŷ'r Arglwyddi ar 5 Ebrill.
Pwrpas y gwelliant hwn, y gofynnir am gydsyniad y Senedd ar ei gyfer heddiw, yw i gael yr un effaith â’r gwelliant gwreiddiol ond mewn ffordd fwy syml drwy ei wneud yn drosedd i wladolyn o’r Deyrnas Unedig neu berson sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru neu Loegr gyflawni gweithred y tu allan i’r Deyrnas Unedig sy’n ymwneud ag organ ddynol ac sydd eisoes yn drosedd mewn perthynas â masnachu deunydd dynol i’w drawsblannu pe bai hynny’n cael ei wneud o fewn y Deyrnas Unedig. Mae hwn, i bob pwrpas, yn ymestyn y troseddau presennol yn adran 32 Deddf Meinweoedd Dynol 2004 i weithredoedd sy’n cael eu cyflawni y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Mae trawsblannu, sef prif bwnc y gwelliant, yn faes sydd wedi ei ddatganoli i’r Senedd, a dwi’n siŵr bod Aelodau’n ymwybodol iawn o hyn o ystyried ein deddfwriaeth arloesol a olygodd mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau. Serch hynny, y tro hwn, dwi’n fodlon i’r Ysgrifennydd Gwladol ddeddfu ar ran Cymru. Mae’r gwelliant sydd wedi ei gynnig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwbl synhwyrol ac yn delio â rhywbeth sydd wedi peri pryder ers peth amser. Felly, yn fy marn i, nid oes angen i Gymru geisio deddfu ar wahân ar y mater hwn, yn enwedig yn sgil y cyfleoedd amserol sy’n cael eu cynnig gan y gwelliant hwn i Fil sydd eisoes yn bodoli. Felly, dwi’n fodlon y gall y Senedd roi cydsyniad i’r gwelliant.
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Russell George.
Cyfeiriwyd LCM atodol Rhif 4 at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i graffu arno ar 29 Mawrth, er na osodwyd yr LCM ei hun tan 5 Ebrill. Fel pwyllgor, cytunwyd bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer cymal 181 gan fod y ddarpariaeth yn ymwneud ag iechyd. Gan fod yr LCM wedi'i osod yn ystod y toriad, gyda therfyn amser adrodd o dair wythnos yn unig, ychydig iawn o gyfle a gawsom, yn amlwg, i graffu ar y ddarpariaeth neu ddod i unrhyw gasgliadau fel pwyllgor. A diolch i'r Gweinidog am gyfarfod â mi yn rhithwyr yr wythnos diwethaf.
Fel y mae'r Gweinidog wedi dweud, o ganlyniad i'r gwelliant sy'n cael ei wneud yn hwyr iawn yn San Steffan, dyna'r rheswm pam yr ydym ni yma i drafod yr elfen hon heddiw. Serch hynny, yn ein hadroddiad ar yr LCM, a gyhoeddwyd ddoe, rydym wedi ailadrodd ein pryderon parhaus ynghylch y defnydd cynyddol o LCM fel dull o ddeddfu ar faterion datganoledig. Wrth gwrs, mae ceisio cytundeb y Senedd i Senedd y DU ddeddfu ar faterion datganoledig ar ein rhan yn hytrach na deddfu yma yng Nghymru yn cyfyngu ar y potensial i graffu'n fanwl ac yn ystyrlon ar unrhyw oblygiadau sy'n codi. Felly, mae'r dull nid yn unig yn peryglu tanseilio swyddogaeth y Senedd fel corff deddfu sylfaenol, mae hefyd yn cynyddu'r risg y bydd canlyniadau anfwriadol yn codi. Diolch yn fawr, Llywydd.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Rydyn ni wedi llunio tri adroddiad sy’n ymdrin â’r pedwar memoranda cydsynio a osodwyd gan y Gweinidog ar y Bil hwn. O ystyried mai dim ond ar ddechrau toriad y Pasg y gosodwyd memorandwm Rhif 4, gosodwyd ein trydydd adroddiad brynhawn ddoe, yn union ar ôl i ni ystyried y memorandwm yn ein cyfarfod cyntaf y tymor newydd hwn.
Ac rwy'n croesawu sylwadau fy nghyd-Gadeirydd yn y fan yna ar y mater o ddefnyddio'r dull hwn o gynnig LCMs ar gyfer gwneud deddfwriaeth.
Llywydd, byddaf yn datgan ar gyfer y cofnod y dylid darllen ein hadroddiad diweddaraf ar y cyd â'n hadroddiadau cynharach, rhai ohonyn nhw yn sôn am yr union faterion hyn. Yn ein hadroddiad diweddaraf a osodwyd ddoe ar femorandwm Rhif 4, rydym wedi nodi safbwynt y Gweinidog o ran y gwelliant a wnaed i'r Bil, ac rydym yn cytuno ag asesiad y Gweinidog bod y cymal newydd sy'n ymwneud â thrafodion masnachol mewn organau i'w trawsblannu yn ymwneud â phwrpas datganoledig. Rydym hefyd wedi nodi safbwynt y Gweinidog o ran ei rhesymau dros wneud darpariaeth bellach i Gymru yn y Bil.
Yn ystod y ddadl flaenorol a gawsom ar y cynnig cydsyniad cynharach ar gyfer y Bil hwn, tynnais sylw at y ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn bod risg gyfansoddiadol i fynd ar drywydd a chytuno ar ddarpariaethau i Gymru yn y Bil hwn. Mae'r risg gyfansoddiadol hon yn ymwneud â'r darpariaethau a fyddai'n galluogi Gweinidogion y DU i ddefnyddio pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Gofynnais i'r Gweinidog roi ymateb llawnach i'm pwyllgor ynglŷn â'i hasesiad o'r risg hon. Manteisiwn ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei llythyr dilynol, pan ddywedodd fod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau'n benodol nad oes ganddi gynllun i ddefnyddio'r pwerau sy'n deillio o'r Bil i ddiwygio Deddf 2006, a bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr ymrwymiadau hyn. Ond, mae'n dod â ni'n ôl at y cwestiwn pam, Gweinidog, yn wahanol i sefyllfaoedd eraill gyda Gweinidogion eraill, nad ydych chi wedi ceisio gwelliant i'r Bil fel na ellir defnyddio'r pwerau i ddiwygio Deddf 2006.
Erys y pwynt pwysig hwn o egwyddor y gallai'r modd y mae un Llywodraeth yn bwriadu defnyddio pwerau ar unrhyw un adeg fod yn wahanol iawn i'r ffordd y gallai Llywodraeth yn y dyfodol eu defnyddio yn y blynyddoedd i ddod. Codwyd y mater hwn gennym gyda'r Cwnsler Cyffredinol, felly hefyd ein pryderon ar y pwynt hwn o egwyddor. Diolchwn iddo am ei ymateb, ac mae'n dda ei weld yn y Siambr yma heddiw. Er budd holl Aelodau'r Senedd yma y prynhawn yma, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym fod peidio â bod â chonsesiynau mewn rhannau eraill o'r Bil hwn yn fwy o risg i Gymru na'r risg a gyflwynir gan y diwygiadau canlyniadol. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym hefyd, er bod dull cyson o ymdrin â chymalau tebyg ar draws Biliau'r DU wedi'i anelu, bod pob Bil yn ei gwneud yn ofynnol i faterion gwahanol gael eu cydbwyso a'u trafod. Mae'n ddadl, rydym yn caniatáu hynny, ond byddem yn dadlau'n barchus, ar faterion pwysig megis addasu ein prif statud datganoli, fod angen un llinell gyson, barhaus a chadarn.
Bydd fy mhwyllgor yn parhau i fynd ar drywydd y materion hyn gyda Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd, ond edrychaf ymlaen yn awr at ymateb y Gweinidog yma heddiw.
Diolch yn fawr iawn am y cyfle i ymateb. Eisiau gwneud hi'n glir ydw i, fel efo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol blaenorol, nad gwrthwynebu egwyddor yr hyn sydd dan sylw o'n blaenau ni yn fan hyn heddiw ydyn ni yng ngrŵp Plaid Cymru wrth wrthwynebu'r cynigion cydsyniad yma, ond gwneud pwynt unwaith eto na allwn ni anwybyddu'r ffaith bod y cynigion yma yn cael eu gwneud yng nghyd-destun nifer gynyddol o gynigion sydd yn tanseilio datganoli, sydd yn torri corneli o ran ein gallu ni fel deddfwrfa i sgrwtineiddio. Mi wnaiff Plaid Cymru wastad warchod integriti'r Senedd hon, ac unwaith eto heddiw, mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud datganiad drwy'r bleidlais yma, er ei bod hi'n amlwg pa ffordd mae'r bleidlais yn mynd i fynd, er mwyn datgan unwaith eto nad ydyn ni yn fodlon dro ar ôl tro ar ôl tro gweld ein cymhwyster ni yn cael ei danseilio mewn ffordd ffwrdd-â-hi, yn amlach na pheidio, gan Lywodraeth yn San Steffan.
Y Gweinidog iechyd nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr. Rwy'n derbyn bod yr hyn yr ydym ni'n cychwyn arno yn y fan yma yn risg gyfansoddiadol; rwyf wedi gwneud hynny'n glir drwy gydol y drafodaeth ar y Bil Iechyd a Gofal. Rwyf yn credu, er hyn, o ran llawer o adrannau o'r Bil yr ydym eisoes wedi'u trafod, fod Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi symud cryn dipyn i'n cyfeiriad ni ac wedi gwneud rhai consesiynau sylweddol iawn i'n cyfeiriad ni. Rhaid i chi lunio barn wleidyddol rywbryd. A ydych chi'n mynd i dderbyn y consesiynau a symud pethau ymlaen i'n cyfeiriad ni, neu a ydych yn mynd i sefyll yn gadarn a dweud, 'A dweud y gwir, na, peidiwch â chamu ar ein tiriogaeth ni'? Mae'n farn wleidyddol, ac mae'n anodd iawn, iawn. Rydym ni wedi llunio barn sydd ychydig yn wahanol. Fel y dywedwch chi, mae gwahanol agweddau ar y Llywodraeth yn cymryd safbwyntiau ychydig yn wahanol. Pe baem yn mynd am ddull gweithredu cyffredinol, yna weithiau efallai y byddwn ni ar ein colled o ran pwerau sy'n cael eu rhoi i ni, i bob pwrpas—nid cymaint cael eu rhoi i ni, ond pethau a fyddai'n ddefnyddiol i ni; pethau yr ydym ni eisiau eu gweld yn digwydd mewn gwirionedd. Felly, mae'n rhaid i ni fod, rwy'n credu—. Y ffordd yr ydym ni wedi ymdrin â'r Bil hwn, lle'r ydym wedi llwyddo i gael llawer o gonsesiynau mewn gwirionedd—. Maen nhw wedi dod yn bell, ar ôl llawer o drafodaethau, i'n cyfeiriad ni. Rwy'n credu ei bod yn gwneud synnwyr i ni ddal ein trwynau, mae arnaf i ofn, a derbyn mai dyma'r sefyllfa. Felly, rwy'n gobeithio y bydd pobl yn cefnogi'r cynnig, ac rwy'n diolch, yn benodol, i Aelodau'r pwyllgor cyfansoddiadol a'r pwyllgor iechyd am eu sylwadau. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem.
Eitemau 12 ac 13 sydd nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 12 ac 13, sef yr egwyddorion cyffredinol a'r penderfyniad ariannol ar y Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), yn cael eu grwpio i'w trafod ond gyda pleidleisiau ar wahân. A oes unrhyw wrthwynebiad i hynny? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad.