1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Ebrill 2022.
4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin? OQ57938
Llywydd, cyhoeddwyd y gronfa ffyniant gyffredin yn 2017, ond dim ond ddechrau'r mis hwn y dechreuodd trafodaethau ystyrlon gyda Llywodraeth y DU. Safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd yw na allwn ni gymeradwyo dull sy'n cymryd cyllid a phenderfyniadau oddi wrth Cymru.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn amlwg, rydych chi eisoes wedi dweud y gallai Cymru fod ar ei cholled o dros £1 biliwn o ganlyniad i weithredu'r gronfa ffyniant gyffredin. Mae hynny'n £1 biliwn y gellid bod wedi ei ddefnyddio i dyfu economi Cymru ac i gynorthwyo rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gan gynnwys yn fy etholaeth i. Nid yw'n teimlo fel codi'r gwastad. A yw hyn, felly, yn enghraifft arall o beidio â disodli cyllid yr UE yn llawn, ac yn enghraifft arall eto o Lywodraeth y DU yn torri ei haddewid na fydd Cymru geiniog yn waeth ei byd ar ôl Brexit?
Llywydd, addewais yn gynharach y byddwn yn cynorthwyo Paul Davies ymhellach gyda ffigurau sy'n dangos i ba raddau y mae Cymru ar ei cholled o ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaed gan ei Lywodraeth. Rhoddaf ragolwg iddo nawr. Y llynedd, £328 miliwn oedd y diffyg rhwng yr hyn y byddem ni wedi ei gael pe baem ni wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd a'r hyn a gawsom gan Lywodraeth y DU. £286 miliwn yw'r ffigur yn y flwyddyn ariannol gyfredol, bydd yn £222 miliwn yn y flwyddyn ariannol ganlynol, a bydd yn £32 miliwn yn 2024-25 pan fo Llywodraeth y DU yn honni y bydd wedi cael y gronfa ffyniant gyffredin i'w huchafswm. Nid yw hynny yn cynnwys, wrth gwrs, brigdorri'r arian hwnnw, y £101 miliwn a fydd yn cael ei gymryd ar gyfer cynllun Multiply Llywodraeth y DU, ac nid yw'n cynnwys y £243 miliwn y byddwn ni'n ei golli o ran cyllid gwledig. Ac nid yw'n cynnwys chwaith, Llywydd, yr holl gynlluniau eraill yr oedd dinasyddion Cymru yn gallu cymryd rhan ynddyn nhw yn y gorffennol ac y byddan nhw'n eu colli yn y dyfodol. Felly, nid yw'n cynnwys yr hyn y byddwn ni'n ei golli gan na ddisodlwyd rhaglen Erasmus+ gan Lywodraeth y DU i'r graddau yr oedd Erasmus+ yn gweithredu yng Nghymru; nid yw'n cynnwys yr arian a fydd yn cael ei golli i sefydliadau addysg uwch Cymru, gan na sicrhawyd cyfranogiad yn rhaglen Horizon; ac nid yw'n cynnwys y ffaith y byddwn ni'n colli'r €100 miliwn a oedd ar gael i Gymru pan oedd gennym ni raglen gydweithredu ryngdiriogaethol gyda Gweriniaeth Iwerddon, rhaglen a oedd yn arbennig o ddefnyddiol yn etholaeth Paul Davies ei hun. Ni fydd honno gennym ni chwaith, rhan arall eto yr addawyd i ni y byddai'n cael ei disodli. Ni fyddem ni, cofiwch, geiniog yn waeth ein byd. Wel, dyna €100 miliwn ar y rhaglen honno yn unig na fydd ar gael i bobl yng Nghymru, sy'n dangos yn union y gwir am yr hyn a ddywedodd Ken Skates yn ei gwestiwn atodol.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae llywodraeth leol wedi dangos arweinyddiaeth eithriadol yng Nghymru fel ysgogwr economaidd allweddol, sy'n gallu nodi anghenion a meithrin perthynas â phartneriaid. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag awdurdodau lleol ar wario eu dyraniadau o dan y gronfa ffyniant gyffredin? Ac a yw'n rhannu fy nghyffro ein bod ni'n cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran arwain adnewyddu'r economi yn seiliedig ar anghenion lleol? Diolch.
Wel, Llywydd, rwy'n bendant yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd awdurdodau lleol. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu sicrhau, yn ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, yn hwyr fel yr oedden nhw, gydnabyddiaeth mai'r ffordd orau o wario'r swm llai hwn o arian yng Nghymru lle mae awdurdodau lleol yn cydweithredu ar sail ranbarthol ac ar yr ôl troed yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw yn flaenorol gyda Llywodraeth y DU. Felly, rwy'n credu bod hynny yn gam ymlaen hefyd.
Rwy'n falch o ddweud, drwy ein trafodaethau, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a thrwy'r gwaith y mae fy nghyd-Weinidog Huw Irranca-Davies yn ei wneud wrth arwain pwyllgorau yn y maes hwn, ein bod ni'n sicrhau cytundebau gyda'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol na fydd y dull gweithredu yng Nghymru yn arwain at gael gwared ar y lleisiau a oedd wedi bod o gwmpas y bwrdd yn y pwyllgor monitro rhaglenni o'r blaen o'r broses o wneud penderfyniadau. Felly, busnesau, sefydliadau'r trydydd sector a phrifysgolion. Yn y gorffennol, byddai'r arian y dywedir ei fod yn cael ei ddisodli gan y gronfa ffyniant gyffredin wedi bod ar gael i'r sectorau hynny hefyd: mae cynllun Busnes Cymru yn cael ei ariannu yn y modd hwnnw ac mae'n bwysig iawn i fusnesau yng Nghymru; sicrhawyd £103 miliwn yn flaenorol ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru, a defnyddiwyd dros £400 miliwn gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru o'r union gronfeydd hynny.
Nawr, mae pwysigrwydd llywodraeth leol yn bwynt da, ond mae'r sectorau eraill hynny hefyd yn bwysig iawn o ran gwneud yn siŵr bod yr arian a ddaw i Gymru yn cael ei wario yn y ffordd orau bosibl, ac rwy'n falch, o ganlyniad i'r trafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, bod sicrwydd y bydd y lleisiau hynny yn parhau i fod yn ddylanwadol yn y ffordd y mae ceisiadau ac yna cynigion ariannu ar gyfer gronfa ffyniant gyffredin yng Nghymru yn cael eu datblygu.