1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 27 Ebrill 2022.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y seddi lle nad oes ond un ymgeisydd yn etholiadau llywodraeth leol Cymru? OQ57910
Er nad ydym yn casglu gwybodaeth yn ganolog am nifer y seddi diymgeisydd yn etholiadau llywodraeth leol Cymru, rwy'n ymwybodol fod y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn nodi bod 74 o seddi diymgeisydd ledled Cymru.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n bryderus iawn wrth weld y nifer hwnnw o seddi diymgeisydd, gyda 28 ohonynt yng Ngwynedd a 19 yn sir Benfro. Mae'n wirioneddol siomedig fod hynny'n digwydd, gan rwystro'r hyn y byddwn yn ei ystyried yn ddemocratiaeth briodol rhag digwydd drwy bleidlais. Rwy’n siŵr, Weinidog, eich bod wedi gweld erthygl newyddion y BBC yn gynharach y mis hwn a nodai, yn anffodus, fod camdriniaeth ar-lein wedi gorfodi llawer o gynghorwyr i roi’r gorau iddi neu golli'r awydd i sefyll, ynghyd ag ymgeiswyr posibl nad ydynt yn dymuno cael eu bwlio. Enghraifft o hyn oedd Huw George, sy’n weinidog gyda’r Bedyddwyr yn sir Benfro, a ddywedodd ei fod bob amser wedi croesawu’r craffu ar benderfyniadau gwleidyddol ond bod ymosodiadau personol ar ei ddefnydd o’r Gymraeg ac ar ei ffydd, wrth gwrs, yn gwbl annerbyniol. Felly, Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi fod angen mynd i’r afael â hyn? Ni ddylai ein cynghorwyr a'n hymgeiswyr orfod wynebu'r gamdriniaeth bersonol erchyll honno. A fyddech hefyd, yn yr un gwynt, yn ymuno â mi i ddiolch i’r bobl sy’n sefyll etholiadau yr wythnos nesaf a dymuno’r gorau iddynt wrth iddynt sefyll yn yr etholiadau hynny?
Yn sicr. Credaf fod unrhyw un sy’n cynnig eu henwau ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus drwy etholiad yn gwneud rhywbeth hynod o ddewr, ac mae’n bwysig fod pobl yn cael y cyfle i wneud y cyfraniad hwnnw i’w cymunedau a’u bod yn gallu gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n eu gwneud yn agored i gamdriniaeth. Mae’r gamdriniaeth y mae pobl mewn bywyd cyhoeddus yn ei hwynebu yn warthus. Credaf eich bod yn unigolyn lwcus iawn yn y Siambr hon, mae’n debyg, os nad ydych wedi dod ar draws rhyw driniaeth ofnadwy, fel arfer drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ond hefyd mewn ffyrdd eraill. Felly, mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn i sicrhau nad yw pobl sy'n sefyll etholiad a phobl sy'n cael eu hethol yn wynebu'r gamdriniaeth honno. Mae'n ymwneud yn rhannol â dod at ein gilydd ar draws y pleidiau i dynnu sylw at gamdriniaeth pan fyddwn yn ei gweld a sefyll gyda'n gilydd yn yr ystyr honno, ond mae hefyd yn ymwneud â gwneud pethau fel defnyddio ein deddfwriaeth yn y ffordd a wnaethom i sicrhau yn awr nad oes raid cyhoeddi cyfeiriadau cartrefi'r ymgeiswyr ac ati. Felly, mae rhai mesurau diogelu pwysig y gallwn eu rhoi ar waith, ond yn y drafodaeth hon, rwy'n awyddus iawn i sicrhau nad ydym yn annog pobl i beidio ag ymgymryd â gwasanaeth cyhoeddus hefyd. Mae pob un ohonom yn wynebu'r gamdriniaeth hon, ond mewn gwirionedd, mae’n fraint anhygoel cael gwneud y swyddi hyn, a chredaf fod angen inni gadw ein llygad ar hynny bob amser hefyd pan fyddwn yn sôn am ochr negyddol ac ochr dywyllach y profiadau mae pobl yn eu cael.
Hoffai pob un ohonom weld mwy o seddi'n cael eu hymladd. Yn sicr, hoffwn i weld hynny. Nid oes gennyf etholiad gartref yn sir Benfro chwaith, lle mae 19 o seddi diymgeisydd. Ac mae Sam Rowlands yn llygad ei le wrth nodi bod yr ymosodiadau, yr ymosodiadau cyhoeddus, ar unigolion sydd eisoes yn eu swyddi yn atal pobol rhag sefyll. Ac rydym newydd weld, dros y penwythnos, yr hyn a ddioddefodd Angela Rayner dan ddwylo AS Torïaidd a’r adroddiadau yn y Sunday Mirror. Felly, fy nghwestiwn, Weinidog—. Rwy'n gobeithio bod pob plaid, ni waeth pa blaid ydynt, pan fyddant yn cyhoeddi datganiadau am ymgeiswyr neu bobl etholedig, yn ymwybodol o’r niwed y gallant fod yn ei wneud. Gwelwyd achosion eraill o’r fath, wrth gwrs, gan Blaid Cymru yn ddiweddar iawn yn Grangetown. Felly, wyddoch chi, ni allwn ofyn ar y naill law i bobl sefyll ac yna ymosod ar y llaw arall ar y rheini sy'n sefyll. Mae gennym gyfrifoldeb personol, a gofynnaf i chi wneud hynny'n hollol glir, Weinidog.
Yn sicr. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol i ddangos arweiniad yn y maes hwn ac i gynnal dadl adeiladol a chadarn. Gallwch gael dadl gadarn heb ildio i ymosod yn bersonol, a chredaf fod gweld y mathau hyn o bethau'n digwydd yn gwneud gwleidyddiaeth yn annymunol i bobl. Dyna un o'r rhesymau pam fy mod mor falch o weld bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dangos arweiniad go iawn yn yr etholiadau hyn gyda'u haddewid ymgyrch etholiadol deg a pharchus. Maent wedi hwyluso hynny, a chredaf y dylai roi hwb pwysig i’r cynghorwyr newydd a fydd yn dechrau eu gwaith ar ôl yr etholiad. A chredaf fod gwaith pwysig i’w wneud yn y cyfnodau cynnar, pan fydd pobl yn ymgynefino â'u swyddogaeth fel cynghorwyr, er mwyn iddynt ddeall y cod ymddygiad, yr hyn a ddisgwylir ganddynt o ran y ffordd y maent yn ymddwyn mewn dadleuon ac ati. Felly, mae llawer o waith i ni ei wneud mewn perthynas â hyn, a sicrhau hefyd fod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fyddant, yn anffodus, yn wynebu ymddygiad annymunol.
Prynhawn da, Weinidog. Rwy'n adleisio ac yn ategu’r sylwadau a wnaeth Sam Rowlands, ac yn diolch iddo am godi’r mater hwn, a'r sylwadau gan Joyce Watson hefyd. Mae’r un peth yn wir am ein cynghorau tref a chymuned ledled Cymru hefyd. Mae 735 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru, sy’n gweithredu dros oddeutu 94 y cant o arwynebedd tir a 70 y cant o boblogaeth Cymru. Mae potensial enfawr heb ei gyffwrdd yma, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, i lunio a darparu gwasanaethau seiliedig ar leoedd yn well mewn deialog â chymunedau. Tybed a gaf fi ofyn i chi beth yw eich gweledigaeth, yn hirdymor, ac yn y tymor byr, ar gyfer y cynghorau tref a chymuned hynny a'r camau yr ydych yn eu cymryd i sicrhau eu llwyddiant? Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ymuno â Jane Dodds i gydnabod rôl bwysig cynghorwyr tref a chymuned yn gwasanaethu a llunio eu cymunedau lleol, ac rwyf wedi cael rhai cyfarfodydd da iawn gydag Un Llais Cymru i ddeall beth y mae’r sector yn credu yw ei botensial. A gwn fod gennym gynghorau tref a chymuned o bob lliw a llun a phob math o brofiad a lefel o uchelgais, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi sylw i'r cynghorau tref a chymuned hynny sy’n gwneud dewisiadau gwirioneddol effeithiol yn eu cymunedau ac archwilio sut y gallwn ddefnyddio Un Llais Cymru ac eraill i helpu cynghorau tref a chymuned eraill i ystyried y lefel honno o uchelgais. Credaf fod gennym astudiaethau achos anhygoel y gallwn edrych arnynt ledled Cymru.
Ond unwaith eto, mae bod yn gynghorydd tref a chymuned yn ffordd arall y gallwch wneud cyfraniad anhygoel i’ch cymuned. Unwaith eto, rydych yn hygyrch iawn, felly dyma un o'r pethau y mae angen inni eu sicrhau, nad yw pobl yn teimlo bod y ffaith eich bod fel arfer yn adnabyddus yn eich cymuned yn rhywbeth a ddylai fod yn rhwystr o reidrwydd. Oherwydd un arall o’r pethau a grybwyllwyd yn yr erthygl y cyfeiriodd Sam Rowlands ati oedd yr ymdeimlad fod cynghorwyr a chynghorwyr tref a chymuned yn teimlo bod angen iddynt fod ar ddyletswydd 24/7, fod angen iddynt roi'r gorau i bopeth am 10 o’r gloch nos Wener i fynd i ymdrin â'r mater uniongyrchol y cawsant alwad ffôn yn ei gylch. Felly, credaf fod y math hwnnw o gymorth ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith i'r cynghorwyr hynny, yn enwedig ar lefel tref a chymuned, yn wirioneddol bwysig hefyd.