Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 27 Ebrill 2022.
Roedd yr RSPCA yn un o nifer o sefydliadau lles anifeiliaid a oedd yn dathlu pan gafodd Bil Lles Anifeiliaid (Ymdeimladoldeb) Llywodraeth Geidwadol y DU ei gymeradwyo yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 7 Ebrill. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn awr yn ei gwneud yn ofynnol i holl bolisïau Llywodraeth y DU gael eu craffu gan y pwyllgor newydd a ffurfiwyd ar ymdeimladoldeb anifeiliaid. Er ei bod yn amlwg bod Llywodraeth y DU unwaith eto'n arwain y ffordd ar gydnabod ymdeimladoldeb anifeiliaid mewn cyfraith, nid yw Llywodraeth Cymru yn sôn am y mater hwn yn eu cynllun lles anifeiliaid i Gymru nac unrhyw ddogfennau eraill a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae hyn yn codi pryderon difrifol ymhlith sefydliadau fel RSPCA Cymru, sydd wedi dweud y gallai arwain at ddiffyg craffu ar les anifeiliaid yng Nghymru os na weithredir ar hyn. O ystyried hynny, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddilyn Llywodraeth y DU a sefydlu pwyllgor ymdeimladoldeb anifeiliaid i sicrhau na fydd diffyg craffu'n digwydd a bod anifeiliaid yng Nghymru yn cael eu diogelu yn yr un modd â'r rhai yn Lloegr? Diolch.