Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 27 Ebrill 2022.
Yn sicr, rwy'n bwriadu gwneud mwy na dilyn yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud neu wedi'i wneud. Credaf eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn—ei fod yn ymwneud â gweithredu. Os edrychwch ar y cynllun a gyflwynwyd gennym ar gyfer y tymor Llywodraeth hwn, fe welwch ei fod yn ymwneud yn llwyr â gweithredu. Nid oes diben cael strategaeth a deddfwriaeth, mae'n ymwneud â gweithredu'r rheini. Yn ein cynllun, fe welwch y pethau y byddwn yn eu cyflwyno yn ystod y pum mlynedd nesaf. Fe wnaethom ddilyn y Bil yn agos iawn, fel y gwnawn bob amser gydag unrhyw ddeddfwriaeth newydd a ddaw i mewn gan Lywodraeth y DU, ac yn amlwg, er nad oedd ei ddarpariaethau'n berthnasol i Gymru, credaf fod iechyd a lles anifeiliaid yn faes yr ydym wedi gweithio'n agos iawn arno gyda Llywodraeth y DU.