2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 27 Ebrill 2022.
7. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith y rhyfel yn Wcráin ar y sector amaethyddiaeth yng ngorllewin a chanolbarth Cymru? OQ57931
Diolch. Rydym yn monitro'n agos effeithiau'r rhyfel yn Wcráin ar yr holl sectorau amaethyddol, yn enwedig cyfradd chwyddiant costau mewnbwn. Mae grŵp monitro marchnad amaethyddol y DU yn cyfarfod yn rheolaidd i asesu’r sefyllfa, a byddaf yn parhau i drafod gyda’n holl randdeiliaid wrth i’r sefyllfa ddatblygu.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Wel, fel rŷch chi'n gwybod, does dim dwywaith fod y cyfnod hwn yn gyfnod difrifol iawn ac anodd i ffermwyr, gyda phrisiau ynni, tanwydd a nwyddau ar gynnydd, a hyn ynghyd â'r toriadau i gyllideb y sector amaeth gan y Torïaid yn Llundain a hefyd y cytundebau masnach sy'n mynd i wneud niwed mawr iawn i'r sector yn ogystal. Ac mae'r golygfeydd trychinebus yn Wcráin yn rhoi pwysau pellach ar ein ffermwyr ni. Rŷn ni'n gyfarwydd â statws hanesyddol Wcráin fel basged fara Ewrop, gydag Wcráin a Rwsia yn gyfrifol am 30 y cant o wenith y byd a rhyw 30 y cant o india-corn Prydain—dau gynnyrch sy'n hanfodol, wrth gwrs, mewn bwyd anifeiliaid. Ac fel y clywon ni ddoe, mae pris gwrtaith—fertiliser—wedi codi rhyw bedair gwaith i ryw £1,000 y dunnell, ac mae goblygiadau hyn i gost cynhyrchu bwyd yn sylweddol iawn, a'r realiti yw y bydd pob owns o fwyd nad ŷm ni yn medru ei gynhyrchu yn y gwledydd hyn yn debygol o ddod allan o geg y bobl dlotaf yn y byd. Felly, Weinidog, wrth i ffermwyr wynebu'r anawsterau yma, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud ar effaith y rhyfel ar y sector amaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru?
Diolch. Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedwch ynghylch y sefyllfa ddifrifol iawn mewn perthynas â’r rhyfel yn Wcráin, a heno rwy’n cyfarfod â fy nghymheiriaid o Lywodraeth y DU a’r Alban i drafod prisiau tanwydd yn arbennig, oherwydd gwyddom fod cynnydd sylweddol yn y costau mewnbwn hynny a wynebwyd gan ein cynhyrchwyr amaethyddol yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae hynny wedi’i waethygu gan y gwrthdaro yn Wcráin. Fe sonioch chi fod 30 y cant o wenith yn dod yma o Wcráin; mewn rhai o wledydd Affrica mae'n 100 y cant. A'r mater a godais gyda Llywodraeth y DU oedd ein bod yn wlad gyfrifol iawn yn fyd-eang yma yng Nghymru a dylem fod yn meddwl sut y gallwn helpu gwledydd sydd â 100 y cant o rai cynhwysion yn dod o Wcráin.
Rydym yn gweithio’n agos iawn i fonitro’r sefyllfa. Soniais am y grŵp sy’n gwneud hynny. Mae hwnnw’n grŵp technegol mewnol rhwng y pedair Llywodraeth sy’n ein cynghori fel Gweinidogion ar y materion hyn, ac rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â llawer o’n rhanddeiliaid, sy’n sicr yn dweud wrthyf fod prisiau’r nwyddau y cyfeiriwch atynt yn cael effaith ddifrifol. Ymwelais â fferm yn ystod wythnos gyntaf toriad y Pasg, ac roedd y ffermwr wedi prynu llwyth mawr o wrtaith—dwy neu dair wythnos cyn hynny rwy’n meddwl—a dywedodd, 'Ni wn a ddylwn ei werthu neu ei wasgaru,' am fod ei gost wedi codi cymaint. Felly, rwy’n meddwl ei fod yn faes sy’n peri pryder ac sy’n mynd i gael effaith ymhellach ymlaen. Ond bydd y trafodaethau hynny'n parhau. Fel y dywedaf, mae gennyf gyfarfod heno, oherwydd rwy’n credu bod angen inni gadw llygad barcud ar y mater.
Weinidog, mae’r rhyfel yn Wcráin wedi tynnu sylw at ba mor fregus yw’r cadwyni cyflenwi byd-eang ledled y byd, ac fel y soniodd fy nghyd-Aelod ac arweinydd yr wrthblaid ddoe, mae ffermwyr yn wynebu pwysau enfawr o ran costau cynyddol disel coch, prisiau gwrtaith, a phorthiant i fwydo eu hanifeiliaid. Weinidog, mae hon yn broblem enfawr. Gwaith cyntaf unrhyw Lywodraeth dda yw bwydo ei phoblogaeth. Felly, a wnewch chi fy sicrhau, Weinidog, mai cynhyrchiant bwyd fydd prif gymhelliad eich Bil amaethyddol a’r cymorth i ffermwyr yn y dyfodol, fel y gallwn oroesi’r holl ddigwyddiadau byd-eang sy'n effeithio arnom i sicrhau bod pobl Cymru'n cael eu bwydo? Diolch, Lywydd.
Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Samuel Kurtz fod cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn sicr yn rhan o’r cynllun ffermio cynaliadwy a’r Bil amaethyddiaeth. Rwy’n ymwybodol iawn o’r holl faterion yr ydych wedi’u codi a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda’n gilydd fel gwahanol Lywodraethau ledled y DU, oherwydd yn amlwg, mae diogelwch y cyflenwad bwyd yn gwbl allweddol ledled y DU. Felly, fel y dywedaf, mae gennyf gyfarfod yn ddiweddarach heno.
Nid yw Laura Anne Jones yma i ofyn ei chwestiwn 8.
Felly cwestiwn 9, Rhun ap Iorwerth.