– Senedd Cymru am 5:08 pm ar 27 Ebrill 2022.
Symudwn yn awr i ddadl fer heddiw, a galwaf ar Peredur Owen Griffiths i siarad am y pwnc a ddewisiwyd ganddo.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a dwi wedi wedi cael cais gan Mabon i siarad yn ystod y ddadl hefyd, a dwi'n hapus i wneud hynny.
Dim ond Mabon?
Dim ond Mabon.
Un o nodweddion allweddol marchnad dai Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf yw chwyddo graddol y sector rhentu preifat. Mae'r newidiadau ym mhroffil stoc dai Cymru a'i ganlyniadau yn hysbys iawn, ac maent wedi cael eu trafod droeon yn y Siambr hon. Fodd bynnag, is-sector nad yw'n ansylweddol yn y sector rhentu preifat a'r sector rhent cymdeithasol yng Nghymru yw tai amlfeddiannaeth. Ymddengys mai ychydig iawn o ddealltwriaeth a gafwyd o brofiad byw'r trigolion sy'n byw mewn tai amlfeddiannaeth a'r cymunedau y mae tai amlfeddiannaeth yn effeithio arnynt. Mae'r Llywodraeth wedi canolbwyntio ar broffesiynoli'r sector, ac er bod hyn wedi dod â datblygiadau deddfwriaethol sydd i'w croesawu yn ei sgil yn ymwneud â safonau ansawdd gofynnol, nid oes unrhyw gamau sylweddol yn ymwneud ag effaith ar y gymuned wedi'u rhoi ar waith o ddifrif eto.
Gyda byw ar y cyd ar gynnydd, mae angen mynd ati ar frys i adolygu polisi tai mewn perthynas â thai amlfeddiannaeth er lles cymunedau a thenantiaid. Mae tai amlfeddiannaeth yn ne Cymru yn aml wedi'u lleoli mewn cymunedau sydd eisoes wedi'u sefydlu, gyda fawr iawn o ystyriaeth i anghenion y gymuned a'r bobl sy'n byw yn y tai amlfeddiannaeth.
Mae pobl yn fy rhanbarth yn aml yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn byw mewn cymuned ranedig, nad oes neb yn gwrando arnynt, ac nad oes neb yn ymgynghori â hwy, ac eithrio llythyr drwy'r drws, cyn y caiff tŷ amlfeddiannaeth ei ganiatáu'n ddifeddwl ar eu stryd. Ceir pryderon difrifol ynghylch straen ar seilwaith, erydu cydlyniant cymunedol a'r landlordiaid diegwyddor manteisgar sy'n teimlo bod yr enillion ariannol yn gorbwyso'r risg i'w busnes o reoli eu llety'n wael.
Hefyd, mae'r crynodiadau cynyddol o dai amlfeddiannaeth yn ne Cymru mewn cymunedau sy'n heneiddio, lle mae pobl yn teimlo'n gryf eu bod wedi'u difreinio. Dylai pobl hŷn deimlo bod eu cymuned yn fan diogel lle y gallant arfer eu rhyddid, nid lle sydd wedi'i lethu gan ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r ymdeimlad o ofn a all ddeillio o dai amlfeddiannaeth. Yr ymateb i wrthwynebiad gan drigolion a chynghorwyr yn aml yw, 'Nid yw'r rhain yn bryderon cynllunio perthnasol.' Mae angen mecanwaith digonol ar ein cymunedau i sicrhau y gallant benderfynu, gyda'i gilydd, sut y mae eu cymuned yn tyfu ac yn datblygu.
Mae angen cydnabod hefyd fod y corff ymchwil sy'n tyfu'n barhaus yn dangos bod tai amlfeddiannaeth yn gartref i rai o'r tenantiaid mwyaf agored i niwed yn ein gwlad. Yn 2020, dangosodd astudiaethau a gyflawnwyd gan yr Athro Steve Iafrati fod gan yr unigolion hyn anghenion lluosog a chymhleth yn aml, gan fod ganddynt brofiad o ofal sefydliadol, y system cyfiawnder troseddol, pryderon iechyd meddwl a chorfforol a digartrefedd. Fel arfer, prin yw'r opsiynau tai eraill sy'n agored iddynt ac maent wedi'u cyfyngu i dai amlfeddiannaeth fel ateb tai olaf un.
Gall y rhai sy'n syrthio i'r bylchau yn y ddarpariaeth les gael eu targedu'n agored gan landlordiaid diegwyddor, a chyfyngedig yw opsiynau awdurdodau lleol ar gyfer rhoi cartref iddynt mewn mannau eraill. Oherwydd hyn, mae awdurdodau lleol yn dod yn fwyfwy dibynnol ar dai amlfeddiannaeth fel ateb cyflym i'r angen am dai. Yn y pen draw, ymgais i drin y symptomau yw hyn yn hytrach na mynd i'r afael ag achosion sylfaenol.
Mae diffyg atebolrwydd sylweddol a bylchau risg yn draul ar y system bresennol. Ceir diffyg goruchwyliaeth gadarn a monitro y tu hwnt i'r ychydig iawn o reoleiddio tai, ychydig iawn o reoleiddio gofal, cymorth neu oruchwyliaeth i bobl ag anghenion cymhleth, ac ni cheir unrhyw lais cymunedol ystyrlon. Nid yw'n iawn gosod cymuned yn erbyn y tenant. Mae'r ddau fel ei gilydd yn dioddef o dan y trefniadau presennol, tra bod landlordiaid ac awdurdodau lleol ar eu hennill.
Ar y mater hwn, codwyd pryderon gan gyd-Aelod o Blaid Cymru yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â thŷ amlfeddiannaeth yn fy rhanbarth. Mae wedi cael clywed am broblemau'n ymwneud â chymorth i bobl sy'n agored i niwed, hyd arhosiadau yn yr hyn sydd i fod yn llety dros dro, ceisiadau cynllunio a phryderon y gymuned. Yn anffodus, bu farw dyn ifanc agored i niwed mewn tŷ amlfeddiannaeth yn fy rhanbarth. Mae'r mater yn dal i fod yn destun ymchwiliad, ond mae'r achos wedi codi nifer o gwestiynau.
Rhaid inni ddod o hyd i gydbwysedd wrth gefnogi cymunedau a digartrefedd a phobl sy'n agored i niwed. Dim ond rhan o'r ffordd ymlaen yw tai amlfeddiannaeth. Mae angen gwneud llawer mwy. Ychydig cyn toriad y Pasg, siaradodd fy nghyd-Aelod, Mabon ap Gwynfor, yn angerddol am yr angen nid yn unig i adeiladu mwy o gartrefi, ond hefyd am yr angen i nodi anghenion pobl. Rwy'n cytuno'n llwyr, a hoffwn ychwanegu mai rhan o'r her yw sicrhau bod y cartrefi iawn yn cael eu hadeiladu yn y mannau iawn.
Rhaid cymhwyso'r un rhesymeg i dai amlfeddiannaeth. Mae gwir angen cyflwyno polisïau sy'n cynnwys mwy o fewnbwn cymunedol democrataidd, er mwyn gallu asesu ceisiadau cynllunio yn ei erbyn. Byddai dull o'r gwaelod i fyny a arweinir gan y gymuned o weithredu system gynllunio yn ystyried sut y gall tai amlfeddiannaeth ddarparu gwerth cymdeithasol, nid gwerth ariannol yn unig, i'w perchnogion.
Byddai fframwaith ar gyfer ystyried cydlyniant cymdeithasol yn cynnwys cymunedau o'r pwynt cyn ymgeisio, gan sicrhau bod datblygiadau'n ymateb i anghenion a llesiant lleol, gyda grwpiau cymunedol ac unigolion yn rhan o'r broses ar bob cam. Byddai hefyd yn sicrhau bod mwy o dai amlfeddiannaeth â chymorth yn cael eu creu, a bod tai amlfeddiannaeth preifat yn mabwysiadu modelau o weithio'n agos gyda sefydliadau, awdurdodau lleol a chymunedau. Byddai tai amlfeddiannaeth mewn lleoliadau addas, gyda chylchoedd gwaith cymorth penodol, yn gwella cysylltiadau rhwng y gymuned a thai amlfeddiannaeth yn sylweddol.
Ochr yn ochr â mewnbwn cymunedol, rhaid i ymyriadau polisi ystyried cyflwr tai amlfeddiannaeth yn fewnol. Mae tai amlfeddiannaeth yn tueddu i gael eu rheoli gan landlordiaid unigol a busnesau bach sy'n darparu cartref i bobl ag anghenion lluosog a chymhleth heb fawr ddim cymorth. Ni ddylid gadael natur ddi-elw allweddol y gwaith o ddarparu gofal a chymorth i landlordiaid a busnesau preifat. Mae cyfle yng Nghymru i dreialu cynlluniau rhannu ar gyfer pobl sy'n agored i niwed gydag anghenion tai. Profodd y rhaglen Sharing Solutions, a dreialwyd yn Lloegr gan Crisis yn 2015, sawl model newydd ar gyfer sefydlu trefniadau rhannu llwyddiannus a chynaliadwy. Nododd y cynlluniau hyn fod lliniaru cymysgedd peryglus o denantiaid drwy baru'n briodol yn elfen hanfodol o sicrhau bod profiadau tenantiaid yn gadarnhaol. Roedd y cynlluniau'n cynnig cymorth tenantiaeth gyda hyfforddiant cyn iddynt ddod yn denantiaid, mentora cyfoedion ac ymweliadau rheolaidd gan weithwyr cymorth dynodedig. Mae i hyn oblygiadau ar gyfer efelychu cynlluniau o'r fath yng Nghymru.
Byddai cyfuno cymorth i denantiaid a chymunedau mewn dull o ymdrin â thai amlfeddiannaeth y tu allan i gynlluniau trwyddedu presennol yn gam tuag at drefnu ein cymunedau o amgylch gwerthoedd cydweithredu, cynhwysiant, gofal a chymorth. Byddai'n hwyluso gallu unigolion i greu, i gyfeirio eu bywydau eu hunain o fewn eu cymunedau, gan adeiladu perchnogaeth ddemocrataidd nid yn unig ar ble'r ydym yn byw, ond hefyd, ar sut yr ydym yn byw. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn i Peredur am ddod â'r ddadl yma ger ein bron, achos mae e'n un hynod o bwysig, yn enwedig o ystyried yn nifer o'r HMOs sydd gennym ni, os ydych chi'n meddwl am lefydd fath â Bangor, Aberystwyth, Abertawe, Wrecsam, Caerdydd—yr ardaloedd yna lle mae yna brifysgolion—myfyrwyr ydy nifer o'r bobl yma sydd yn byw mewn rhai o'r HMOs yma yn enwedig. Dwi eisiau eich cyfeirio chi at adroddiad gwych ddaru Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru a Shelter ei ryddhau tua adeg y Nadolig a oedd yn edrych ar safon tai myfyrwyr ac a oedd yn dweud bod dros hanner myfyrwyr Cymru yn byw mewn eiddo a oedd yn damp neu efo tyfiant mould ynddo fo; bod 65 y cant o fyfyrwyr yn adrodd eu bod nhw'n byw mewn tai a oedd yn effeithio ar eu hiechyd meddwl nhw; a bod treian o fyfyrwyr yn ei chael hi'n anodd talu'r rhent, gyda 60 y cant ohonyn nhw yn meddwl nad oedd yr eiddo roedden nhw'n byw ynddo yn safonol ac yn haeddu cael y math yna o lefel o rent. Felly, mae hyn yn tynnu sylw at hynny'n benodol, a buaswn i wrth fy mod yn clywed beth sydd gan y Dirprwy Weinidog i ddweud pan fo'n dod i eiddo myfyrwyr.
Hefyd, dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig—yr hyn a oedd Peredur wedi'i ddweud yn y cyfraniad yna—sôn am yr angen i adeiladu tai i ateb y galw ac anghenion lleol, er mwyn sicrhau bod tai sydd yn addas i bwrpas, yn hytrach na'r hyn rydyn ni'n ei weld ar hyn o bryd, efo nifer o landlordiaid yn trio hwffio gymaint o bobl â phosib i mewn i dai er mwyn cyfoethogi eu hunain heb feddwl am anghenion yr unigolion yna sydd wedyn yn mynd ymlaen i ddioddef o bethau fath ag afiechydon meddwl. Felly, dwi'n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am ba gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau bod tai yn cael eu hadeiladu i ateb galw ac anghenion cymunedol. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl.
Wel, diolch yn fawr iawn i Peredur Griffiths am ei gyfraniad, a oedd, yn fy marn i, yn feddylgar iawn ac yn codi nifer o faterion pwysig y mae angen eu hystyried, ac rwy'n falch iawn fod gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru ddull radical ar y cyd o ymdrin â nifer o feysydd tai, a mecanwaith inni allu trafod hyn a dod o hyd i atebion a rennir i broblemau cymhleth a heriol.
Nawr, wrth gwrs, ein huchelgais i Gymru yw gwerthfawrogi'r sector rhentu, a hefyd i werthfawrogi cymunedau lle mae tai a deiliadaethau cymysg yn diwallu anghenion yr holl bobl sy'n byw o fewn y cymunedau hynny. Codwyd nifer o bwyntiau yn y cyfraniad ac fe geisiaf fynd i'r afael â chymaint ohonynt ag y gallaf.
Ar y pwynt am hawliau a rolau tenantiaid, rwy'n llwyr ddeall y pwyntiau a wnaed, ac yn wir dyna pam ein bod yn parhau i ariannu'r Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid, TPAS Cymru, i annog cyfranogiad a chynrychioli llais tenantiaid yng Nghymru. Mae'n hanfodol fod tenantiaid yn cael eu diogelu, yn enwedig y rheini y gellir eu hystyried yn agored i niwed, a chredaf fod y pwyntiau a wnaeth Mabon ap Gwynfor a Peredur Griffiths yn rhai cadarn.
Wrth gwrs, mae gennym Rhentu Doeth Cymru hefyd. Sylwais fod Peredur Griffiths wedi defnyddio ymadrodd am ein math o fframwaith statudol, ac nid wyf yn credu y dylem ddiystyru na thanamcangyfrif hynny; credaf fod hwnnw'n fudd pwysig y gweithiwyd yn galed amdano ac sy'n rhoi mantais inni. Rhaid i unrhyw landlord eiddo a rentir yn breifat gofrestru ei hun a'i eiddo, ac mae Rhentu Doeth Cymru yn sicrhau bod landlordiaid yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau, a bod tenantiaid yn elwa o gael landlord neu asiant sy'n ymwybodol o'u cyfrifoldebau cyfreithiol ac yn gweithredu'n unol â hwy. Nid yw hynny'n rhywbeth sy'n digwydd yn Lloegr ac mae'n rhywbeth sy'n digwydd yng Nghymru oherwydd y camau y mae'r Senedd wedi'u cymryd. Nid wyf yn credu y dylem ddiystyru hynny'n rhy hawdd.
Rydym yn gweithio gyda phobl sydd wedi profi gwahaniaethu i ddatblygu cynigion i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bodoli yn y sector rhentu preifat, ac mae mynd i'r afael â hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol bob amser wedi bod yn flaenoriaethau pwysig i'r Llywodraeth hon, ac mae ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu yn cydnabod yr angen am weithredu parhaus i ddileu gwahaniaethu ar sail hil a throseddau casineb drwy sicrhau bod landlordiaid yn ymateb yn gyflym i gwynion am hiliaeth a throseddau casineb ac yn cynnig cymorth priodol. Rydym yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru, Tai Pawb a Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i ddatblygu hyfforddiant i bob landlord ac asiant rheoli er mwyn codi ymwybyddiaeth o hiliaeth a throseddau casineb, ac mae angen i bawb sefyll gyda'i gilydd i gefnogi dioddefwyr a sicrhau bod yr heddlu neu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn cael gwybod am achosion.
Mae tlodi, wrth gwrs, yn effeithio'n anghymesur ar bobl benodol a chymunedau penodol, ac felly rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i Cyngor ar Bopeth Cymru er mwyn sefydlu llinell gymorth dyledion y sector rhentu preifat, er mwyn i denantiaid allu siarad â chynghorwyr hyfforddedig annibynnol a all eu helpu i gynyddu eu hincwm i'r eithaf, eu cynorthwyo i hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt a chynnal asesiad o fforddiadwyedd i helpu gydag ôl-ddyledion rhent neu fathau eraill o ddyledion aelwydydd.
Bydd gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn trawsnewid y dirwedd i denantiaid ac yn cryfhau eu hawliau'n sylweddol. Bydd yn gwella ansawdd cartrefi rhent, yn hollbwysig—dyna yw ei diben—ac ar yr amod nad yw tenantiaid yn torri eu contract, bydd ganddynt hawl i chwe mis o rybudd os bydd eu landlord yn dymuno dod â'r contract i ben. Ac ymhellach, gan na ellir cyflwyno'r rhybudd hwnnw yn ystod y chwe mis cyntaf, bydd ganddynt sicrwydd o flwyddyn fan lleiaf ar ôl symud i'w cartref.
Ac yn olaf, mae gennym ymrwymiad i gyhoeddi Papur Gwyn ar renti teg, a dulliau newydd o wneud cartrefi'n fforddiadwy i'r rheini ar incwm lleol yn unol â'r cytundeb cydweithio, a bydd hynny'n cynnwys cynigion ar reoli rhenti. Felly, er mwyn sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at gartref gweddus, fforddiadwy a diogel a helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw sy'n wynebu cynifer o bobl yng Nghymru, rydym eisoes wedi rhoi llu o fesurau ar waith, fel y trafodwyd gennym yn y ddadl flaenorol, gan gynnwys yr ymrwymiad i 20,000 o gartrefi carbon isel i'w gosod ar rent.
Mae'r cyfraniad y mae tai amlfeddiannaeth yn ei wneud yn gymhleth. Mae'r pwyntiau a wna Peredur Griffiths yn rhai teg a dilys, ac mae hwn yn sector nad yw heb ei heriau, yn sicr, ond maent hefyd yn darparu gwerth, nad wyf yn credu y dylem ei anwybyddu, yn enwedig ar gyfer darparu cartrefi i lawer o bobl sy'n agored i niwed, gan gynnwys pobl ifanc, ac i'r rheini sy'n cael budd-daliadau'n gysylltiedig â thai, dim ond budd-daliadau ar gyfer byw mewn llety a rennir y mae ganddynt hawl iddynt os ydynt o dan 35 oed ac yn y sector rhentu preifat. Hefyd, mae tai amlfeddiannaeth yn darparu llety hanfodol i fyfyrwyr yn ein trefi a'n dinasoedd prifysgol. Ond er eu bod yn chwarae rhan bwysig yn diwallu rhai o'n hanghenion tai, mae'n bwysig, wrth gwrs, yn hanfodol, fod amodau cynllunio a thrwyddedu priodol ar waith.
Fel y dywedodd Peredur Griffiths yn gywir, gall crynodiadau anghymesur o uchel o dai amlfeddiannaeth arwain at broblemau i gymunedau lleol. Yn hanesyddol, mae problemau tai amlfeddiannaeth wedi ymwneud â rheolaeth wael a landlordiaid absennol, ond mae mesurau a gyflwynwyd drwy Ddeddf Tai 2004 a'n Deddf Tai (Cymru) 2014 ein hunain wedi helpu i fynd i'r afael â'r rhain: roedd Deddf 2004 yn cyflwyno trwyddedu gorfodol ac ychwanegol ar gyfer tai amlfeddiannaeth yn ogystal ag ymdrin â rheolaeth a chyflwr tai amlfeddiannaeth. Nid yw'n rheoli nifer y tai amlfeddiannaeth mewn unrhyw ardal benodol, a dim ond tai amlfeddiannaeth mwy o faint sy'n ddarostyngedig i drwyddedu gorfodol, ond mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i ehangu proses drwyddedu tai amlfeddiannaeth drwy gyflwyno cynlluniau trwyddedu ychwanegol. Yn aml, defnyddir trwyddedu ychwanegol mewn ardaloedd sydd â chrynodiad uchel o dai amlfeddiannaeth i fyfyrwyr er mwyn trwyddedu tai amlfeddiannaeth nad ydynt eisoes yn ddarostyngedig i drwyddedu gorfodol. Ac mae trwyddedu dethol yn canolbwyntio ar ardaloedd lle mae llai o alw am dai, ac ardaloedd sy'n dioddef yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yn olaf hefyd, yng Nghymru, fe wnaethom gyflwyno newidiadau yn 2016 a gynyddodd nifer y tai amlfeddiannaeth newydd y gallai fod angen caniatâd cynllunio arnynt, gan roi mwy o bŵer i awdurdodau cynllunio lleol wrth ystyried y defnydd o dai amlfeddiannaeth. Ar y pryd hefyd, fe'i gwnaethom yn haws i newid tŷ amlfeddiannaeth ar raddfa fach i'w ddefnyddio fel cartref teuluol heb fod angen caniatâd cynllunio.
Lle y ceir problemau gyda'r modd y mae landlordiaid yn rheoli tai amlfeddiannaeth, mae Rhentu Doeth Cymru wedi cyflwyno mecanwaith rheoli a rheoleiddio pellach i fynd i'r afael â'r materion hyn. Ac o dan Ddeddf 2004, cyn dynodi ardal ar gyfer trwyddedu ychwanegol, rhaid i'r awdurdod lleol ymgysylltu â'r gymuned leol. Rhaid iddynt roi camau rhesymol ar waith i ymgynghori â phawb y mae'r newid hwn yn debygol o effeithio arnynt ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir. Lle nad yw hynny'n digwydd, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Aelod yn ei ddwyn i'n sylw.
Gall nifer anghymesur o fawr o dai amlfeddiannaeth greu newidiadau a heriau i gymuned, ac rydym wedi ceisio eu lliniaru. Maent yn darparu llety defnyddiol ac rydym wedi sicrhau bod cynlluniau ar waith i reoli rhai o'r problemau sy'n codi o'r amodau cymhleth a drafodwyd gennym.
Felly, credaf ei bod yn deg cydnabod ei fod yn gymhleth, fod pethau ar y gweill a bod gwerth i dai amlfeddiannaeth fel rhan o ddarlun deiliadaeth gymysg. Ond rwy'n cydnabod bod llawer o'r pwyntiau a wnaed yn rhai dilys, a byddwn yn gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd i weithio drwy rai o'r problemau hynny a nodi atebion ymarferol. A chredaf fod y cytundeb partneriaeth o leiaf yn darparu mecanwaith ffurfiol i'n dwy blaid ar gyfer trafod nifer o faterion, ac mae hyn yn agored i bob Aelod, wrth gwrs, i weithio drwy hyn gyda'n gilydd. Byddwn yn sicr yn croesawu cyfle i siarad ymhellach â'r Aelod i ystyried rhai o'r pwyntiau pwysig y mae wedi'u codi y prynhawn yma. Diolch.
Diolch, Dirprwy Weinidog, a diolch, pawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.