1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Mai 2022.
1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gynorthwyo aelwydydd ym Mlaenau Gwent gyda'r argyfwng costau byw presennol? OQ57949
Llywydd, mae ein pecyn costau byw gwerth £380 miliwn yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi aelwydydd ym Mlaenau Gwent ac yn helpu teuluoedd yno sydd mewn trafferthion oherwydd prisiau sy'n cynyddu yn gyflym. Rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau brys, gan gynnwys cynyddu budd-daliadau a chymryd camau i leihau biliau tanwydd aelwydydd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Prif Weinidog, fe wnaethom ni ddeffro i'r newyddion y bore yma fod BP yn gwneud elw o £1 biliwn bob mis, elw o £1 biliwn ar adeg pan fo gormod o'r bobl yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli yn y lle hwn yn arswydo o weld eu bil tanwydd nesaf ac nad oes ganddyn nhw syniad sut y byddan nhw'n talu'r biliau hynny. Ond, ar yr un pryd, rydym ni hefyd yn gwybod, Prif Weinidog, fod biliau bwyd 6 y cant yn uwch o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac, rwy'n meddwl, mewn achos anarferol ac annodweddiadol o hunanymwybyddiaeth, fod Jacob Rees-Mogg wedi disgrifio'r rheolaethau ar y ffin, y galwodd ef amdanyn nhw, yn weithred o hunan-niweidio.
Nawr, Prif Weinidog, ynghyd â biliau tanwydd sy'n cynyddu, biliau bwyd sy'n cynyddu, mae gennym ni Lywodraeth y DU nad yw wir yn poeni am realiti'r argyfwng hwn sy'n wynebu pobl, a gwelsom hynny gan Brif Weinidog y DU y bore yma. A ydych chi'n cytuno â mi fod pobl ym Mlaenau Gwent, ac mewn mannau eraill yng Nghymru, yn wynebu storm berffaith o Lywodraeth y DU nad yw'n poeni amdanyn nhw, ac elw a gwerth cyfranddalwyr yn cael eu blaenoriaethu dros fywydau'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli?
Wel, Llywydd, mae Alun Davies yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn yn y fan yna. Mae elw BP wedi mwy na dyblu yn ystod y tri mis diwethaf. Oherwydd effaith prisiau nwy ac olew cynyddol, mae cwmnïau cyflenwi ynni yn gwneud elw ychwanegol o £745 bob eiliad. Dychmygwch hynny. Mae Prif Weinidog y DU yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw gadw'r holl arian hwnnw gan fod angen iddyn nhw fuddsoddi yn nyfodol y diwydiant. Ond beth mae BP yn ei wneud mewn gwirionedd? Fel y dywedodd Alun Davies, mae'n prynu cyfranddaliadau yn ôl ac mae'n talu dyledion. Nid yw'n gwneud dim o'r pethau y mae Prif Weinidog y DU yn dweud y mae angen iddo eu gwneud, a gellid defnyddio'r arian hwnnw i helpu'r teuluoedd hynny sy'n wynebu anawsterau bob un dydd. Yn yr amser yr wyf i wedi ei gymryd i ateb y cwestiwn hyd yn hyn, Llywydd, byddai hynny yn ddegau o deuluoedd yng Nghymru a fyddai'n cael cymorth gyda'u biliau.
Ac o ran y pwyntiau eraill a wnaeth yr Aelod, fe wnaeth arweinydd yr wrthblaid gamddeall yn llwyr y pwynt yr oedd yn ei wneud—mae'r cynnydd o 6 y cant i filiau bwyd yn y wlad hon yn deillio'n llwyr o effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nid codi prisiau yn Ewrop 12 y cant yw effaith ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n hurt ei awgrymu hyd yn oed. Mae'r adroddiad yr oedd fy nghyfaill yn cyfeirio ato yn adroddiad sy'n dweud bod prisiau yn y wlad hon wedi codi 6 y cant oherwydd y costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Efallai nad yw'n gyfforddus i'r Aelod ddeall hynny, ond dyna wnaeth yr adroddiad yr wythnos diwethaf ei ddangos.
Ac o ran safleoedd rheoli ffiniau—y trydydd pwynt a gododd yr Aelod—siawns nad dyna un o'r penderfyniadau mwyaf brawychus. Nawr, mae'r diwydiant amaeth—pwnc y dywedodd arweinydd yr wrthblaid wrthym ni yr wythnos diwethaf a oedd yn bwnc yr oedd yn gwybod am beth yr oedd yn sôn—yn un lle mae cynhyrchwyr yma yng Nghymru bellach yn wynebu cystadleuaeth gan gynhyrchwyr y tu allan heb unrhyw wiriadau o gwbl ar y nwyddau hynny sy'n dod i mewn i'r Undeb Ewropeaidd, tra bod yn rhaid i ffermwr yng Nghymru sy'n ceisio allforio i'r Undeb Ewropeaidd wynebu'r holl rwystrau ychwanegol sy'n dod o adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n beth rhyfeddol i Lywodraeth y DU ei wneud: honni eu bod nhw'n cymryd rheolaeth yn ôl dim ond i ganfod nad ydyn nhw'n cymryd rheolaeth yn ôl o gwbl.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr y gallwch chi gytuno â mi y gall effaith ariannol diagnosis canser fod yn ddinistriol hyd yn oed mewn cyfnodau arferol, wrth i bobl wynebu incwm is a chostau byw uwch. Mae'r pandemig a'r costau byw cynyddol wedi gwaethygu'r sefyllfa, wrth i lawer o bobl orfod ymdopi â biliau ynni cynyddol, yn ogystal ag effaith ariannol eu diagnosis canser. Datgelodd gwaith ymchwil a wnaed gan Cymorth Canser Macmillan ddiwedd y llynedd fod 87 y cant o bobl â chanser yng Nghymru wedi dioddef rhyw fath o effaith ariannol o'u diagnosis, a bod 38 y cant wedi eu heffeithio'n ddifrifol yn ariannol. Prif Weinidog, pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i wella camau cyfeirio a mynediad cyson at gyngor a chymorth ariannol i ddioddefwyr canser yng Nghymru? A pha ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i'r dioddefwyr mwyaf agored i niwed i helpu'r rhai sydd mewn trafferthion oherwydd costau byw yma yng Nghymru? Diolch.
Wel, mae wedi bod yn barth di-eironi ers tro byd ar feinciau'r Ceidwadwyr yn y Senedd hon—[Chwerthin.] Llywydd, ni chlywais y geiriau 'Blaenau Gwent' unwaith yn y cwestiwn sydd newydd ei ofyn i mi, ac eto, hyd y gwelaf i, mae'r cwestiwn ar y papur trefn yn ymwneud â chostau byw ym Mlaenau Gwent. Bydd trigolion yno yn canfod bod 5,500 ohonyn nhw wedi cael £200 gan Lywodraeth Cymru bellach o ganlyniad i gynllun tanwydd y gaeaf, ac, ym mis Mawrth, cawsom 1,849 o geisiadau i'r gronfa cymorth dewisol, nad yw ar gael, wrth gwrs, dros y ffin, lle mae ei phlaid hi yn rheoli, ond wedi ei hategu gan £15 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod y bobl hynny ym Mlaenau Gwent—a gallai rhai ohonyn nhw fod yn bobl sy'n wynebu diagnosis o ganser ac a fydd yn canfod nad yw'r system fudd-daliadau, a gododd 3.1 y cant yn unig, lle mae pobl yn wynebu codiadau chwyddiant o 7 y cant, yn eu trin nhw â'r cydymdeimlad a'r ddealltwriaeth y maen nhw'n eu haeddu—. Yng Nghymru, o leiaf, gallan nhw droi at y gronfa cymorth dewisol i'w cynorthwyo gyda'r rhwystrau ychwanegol y maen nhw'n eu hwynebu yn awr o ran rheoli canlyniad diagnosis o'r fath.