Y Sector Tai Cymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 3 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:30, 3 Mai 2022

Wel, diolch yn fawr am y cwestiwn. Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda landlordiaid cymdeithasol i gefnogi'r sector. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe wnaethon ni dalu £11 miliwn o grantiau ychwanegol a £25 miliwn o fenthyciadau di-log i landlordiaid cymdeithasol i'w helpu i ymdopi â chynnydd mewn costau deunyddiau. Rydyn ni’n parhau i fonitro'r pwysau ar y gadwyn gyflenwi yn y sector adeiladu.