Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 4 Mai 2022.
Cytunaf yn llwyr â'r sylwadau rydych wedi'u gwneud o'r blaen fod y Ddeddf hon yn tanseilio pwerau hirsefydlog y Senedd a Gweinidogion Cymru mewn perthynas â materion lle mae cymhwysedd wedi'i ddatganoli. Ceir uwchfwyafrif clir yn y Senedd hon sydd eisiau ymestyn a gwella ein pwerau. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth San Steffan i wneud iddynt sylweddoli o'r diwedd mai ewyllys pobl Cymru a Senedd Cymru yw cael mwy o bwerau ac nad ydynt yn gwadu'r mwyafrif hwnnw a'r mandad a roddwyd i ni gan bobl Cymru?