Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am statws apêl Llywodraeth Cymru i Oruchaf Lys y DU ar ei her gyfreithiol i Ddeddf marchnad fewnol y DU? OQ57956

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:55, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Cafodd cais am ganiatâd i apelio yn erbyn gorchymyn y Llys Apêl, ynghyd â chais am ystyriaeth gyflym, ei gyflwyno i'r Goruchaf Lys ar 7 Mawrth. Nid yw'r cais wedi'i ystyried hyd yma. Felly, rydym yn aros am benderfyniad gan y Goruchaf Lys.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Cytunaf yn llwyr â'r sylwadau rydych wedi'u gwneud o'r blaen fod y Ddeddf hon yn tanseilio pwerau hirsefydlog y Senedd a Gweinidogion Cymru mewn perthynas â materion lle mae cymhwysedd wedi'i ddatganoli. Ceir uwchfwyafrif clir yn y Senedd hon sydd eisiau ymestyn a gwella ein pwerau. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth San Steffan i wneud iddynt sylweddoli o'r diwedd mai ewyllys pobl Cymru a Senedd Cymru yw cael mwy o bwerau ac nad ydynt yn gwadu'r mwyafrif hwnnw a'r mandad a roddwyd i ni gan bobl Cymru?

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:56, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaethoch. Credaf fod y Ddeddf marchnad fewnol, os caiff ei dehongli fel y mae Llywodraeth y DU eisiau iddi gael ei dehongli, yn tanseilio rhan o'n setliad cyfansoddiadol. Wrth gwrs, rydym yn anghytuno â'r ddeddfwriaeth honno; credwn ei bod yn anghyfansoddiadol, ac mae camau cyfreithiol wedi'u cymryd o'r herwydd. Mae'n werth dweud ar y cam hwn, wrth gwrs, nad ymdriniwyd â rhinweddau ein dadleuon mewn gwirionedd. Y cwestiwn yw, beth yw'r mecanwaith gorau ar gyfer gwneud hynny, boed hynny drwy ddehongli deddfwriaeth y Ddeddf ei hun, neu a yw'n well gwneud hynny drwy gyfrwng deddfwriaeth a gaiff ei phrofi drwy ei chyfeirio at y Goruchaf Lys. Felly, fel y dywedais, rydym wedi gwneud y cais am ganiatâd i apelio. Ni chafodd ei ystyried gan banel o ustusiaid eto, ond byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd maes o law pan fyddwn yn gwybod y canlyniad.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.