Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 4 Mai 2022.
Diolch ichi, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaethoch. Credaf fod y Ddeddf marchnad fewnol, os caiff ei dehongli fel y mae Llywodraeth y DU eisiau iddi gael ei dehongli, yn tanseilio rhan o'n setliad cyfansoddiadol. Wrth gwrs, rydym yn anghytuno â'r ddeddfwriaeth honno; credwn ei bod yn anghyfansoddiadol, ac mae camau cyfreithiol wedi'u cymryd o'r herwydd. Mae'n werth dweud ar y cam hwn, wrth gwrs, nad ymdriniwyd â rhinweddau ein dadleuon mewn gwirionedd. Y cwestiwn yw, beth yw'r mecanwaith gorau ar gyfer gwneud hynny, boed hynny drwy ddehongli deddfwriaeth y Ddeddf ei hun, neu a yw'n well gwneud hynny drwy gyfrwng deddfwriaeth a gaiff ei phrofi drwy ei chyfeirio at y Goruchaf Lys. Felly, fel y dywedais, rydym wedi gwneud y cais am ganiatâd i apelio. Ni chafodd ei ystyried gan banel o ustusiaid eto, ond byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd maes o law pan fyddwn yn gwybod y canlyniad.