Y Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 10 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 10 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Gweinidogion yn parhau i ymgysylltu yn uniongyrchol â Llywodraeth y DU ac eraill i greu cyfundrefn gadarn o ddiogelwch adeiladau i Gymru. Mae hynny yn cynnwys defnyddio agweddau ar Ddeddf Diogelwch Adeiladu'r DU. Parhaodd y trafodaethau hynny ar lefel weinidogol yr wythnos diwethaf.