Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 10 Mai 2022.
Diolch, Prif Weinidog. Gofynnodd preswylydd o fflatiau Spillers a Bakers i fyny'r ffordd i mi godi'r cwestiwn hwn heddiw. Yn y fan honno, mae llawer o lesddeiliaid wedi cael hysbysiad adran 20. Maen nhw'n wynebu colli eu cartrefi oherwydd methiannau rheoleiddio costus yn y gorffennol. Pryd byddan nhw'n cael y cymorth ymarferol sydd ei angen arnyn nhw i ddod â'r hunllef hon i ben? Diolch yn fawr.