– Senedd Cymru am 2:27 pm ar 10 Mai 2022.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes heddiw. Bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad ar etholiadau llywodraeth leol. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i alw, Trefnydd, am ddatganiad gan y Prif Weinidog ar ddiwygio'r Senedd? Bydd Aelodau'r Senedd yn ymwybodol, o'r drafodaeth yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog ac, yn wir, o ddatganiad i'r wasg a gyhoeddwyd y bore yma am chwarter wedi naw, fod y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, i bob pwrpas, wedi rhwystro gwaith y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd a sefydlwyd gan holl Aelodau'r Senedd hon er mwyn ystyried diwygio'r Senedd hon yn y dyfodol.
Nawr, mae fy mhlaid i, wrth gwrs, bob amser wedi gwrthwynebu cynnydd yn nifer Aelodau'r Senedd, ond rydym ni wedi dweud yn gyson ein bod yn cydnabod bod mwyafrif o Aelodau'r Senedd yn dymuno gweld diwygio a bod mandad i gyflawni rhywfaint, ac ar y sail honno, gwnaethom ymuno â phwyllgor diwygio'r Senedd yn ddidwyll, er mwyn chwarae rhan adeiladol yn swyddogaeth a gwaith y pwyllgor hwnnw, er mwyn iddo allu gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru eu cyflawni. Mae hynny wedi ei danseilio heddiw. Mae gwaith y Senedd wedi ei danseilio heddiw, ac mae wedi bod yn amharchus o ran y ffordd y cyhoeddodd y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru y datganiad penodol hwnnw i'r wasg. Rwy'n credu bod arnom ni reidrwydd i roi datganiad yn y Siambr hon i bobl Cymru, lle y gellir croesholi'r Prif Weinidog ac, yn wir, arweinydd Plaid Cymru ynghylch eu cynigion ar gyfer diwygio er mwyn i ni allu dangos i bobl Cymru ein bod yn eu hystyried nhw yn briodol ac yn llawn. Mae'n amhriodol i'r pwyllgor hwnnw gael ei orfodi i sefyllfa ar sail trafodaethau clyd, a dweud y gwir, mewn swyddfeydd gweinidogol.
Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad ar fynediad at brofion diagnostig yng Nghymru? Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar sydd, yn anffodus, newydd gael diagnosis o ganser y brostad. Mae'n aros am sgan MRI; yn anffodus, ni all gael y sgan MRI hwnnw yn y gogledd, ac mae wedi cael ei atgyfeirio i Ysbyty Broadgreen yn Lerpwl oherwydd bod ganddo reolydd calon. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gapasiti o gwbl i unrhyw un yn y gogledd sydd â rheolydd calon gael sgan MRI, ac, o ganlyniad, ni all y dyn hwn, sy'n gwybod bod ganddo ganser, sy'n gwybod bod arno angen y sgan hwn er mwyn penderfynu ar y driniaeth sydd o'i flaen, gael y sgan hwnnw tan ddiwedd mis Mehefin. Mae hynny'n annerbyniol; mae'n gyfnod pryderus iawn i'r dyn hwn a'i deulu. A gaf i ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r angen am brofion diagnostig o'r math hwnnw, ac a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd er mwyn mynd i'r afael â'r mater? Diolch.
Rwy'n credu fy mod i'n anghytuno â phopeth a ddywedodd Darren Millar ynghylch diwygio'r Senedd. Nid oes dim wedi ei rwystro, nid oes dim wedi ei danseilio ac nid oes dim wedi ei amharchu.
O ran eich cwestiwn ynglŷn â diagnosteg, rwy'n credu bod hwnnw yn bwynt da iawn. Yn amlwg, ni allwn gael pob darn o bob offer ar gael ym mhob ysbyty yng Nghymru, ac mae'n gwbl briodol bod eich etholwr yn mynd i'r lle gorau ar gyfer y sgan hwnnw. Byddaf yn siarad â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd yn ei lle, i weld a oes unrhyw beth yn yr arfaeth i gyflwyno offer o'r fath.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar bwysigrwydd ymgysylltu democrataidd. Rydym newydd ddod allan o etholiad, ac er y gallan nhw fod yn anodd, ar eu gorau mae etholiadau yn ddathliad o gymuned, cysylltiadau rhwng pobl, ac yn gyfle i newid pethau. Trefnydd, rwy'n siŵr y byddech yn ymuno â mi i dalu teyrnged i bawb a safodd i gael eu hethol yr wythnos diwethaf, gan longyfarch y bobl a enillodd, ond hefyd i ddiolch i'r holl bobl hynny na chawson nhw eu hethol, oherwydd gall peidio ag ennill etholiadau fod yn boenus, ond mae sefyll dros yr hyn yr ydych yn ei gredu yn bwysig. Dylid canmol pobl am wneud hynny, ac, fel cenedl, rwy'n credu y dylem ni ddiolch iddyn nhw. Ond, Trefnydd, mae nifer isel o bobl yn pleidleisio yn dal i fod yn broblem ystyfnig. Mae gormod o bobl yn meddwl nad yw eu llais yn cyfrif, yn enwedig oherwydd y system y cyntaf i'r felin. Felly, a gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu pwysigrwydd ymgysylltu democrataidd, a sut y gellir cyfleu hynny i blant yn yr ysgol, i oedolion hefyd, fel y bydd pawb yn teimlo cymhelliant i fynd allan a phleidleisio pan ddaw'r etholiad nesaf?
Diolch. Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn. Dylid dathlu democratiaeth yn llwyr, ac rwy'n ymuno â chi wrth ddiolch i bawb, o ba blaid wleidyddol bynnag, am gyflwyno eu hunain. Yn bersonol, roeddwn i yn y cyfrif yn fy etholaeth i ddydd Gwener, ac roedd yn bwysig iawn dweud diolch i bobl am gyflwyno eu hunain. Fel arall, yn wir, ni fyddem yn cael etholiadau. Mae'n amlwg bod y nifer isel o bobl sy'n pleidleisio yn fater yr ydym wedi gorfod ei wynebu mewn llawer o etholiadau. Rwy'n credu bod etholiad y Senedd hefyd yn faes lle yr ydym ni wedi gwneud ein gorau glas i geisio cynyddu nifer y bobl sy'n pleidleisio. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom ni yn y Siambr hon i wneud popeth o fewn ein gallu i ymgysylltu ag ysgolion, i ymgysylltu â phobl ifanc. Wrth gwrs, un ffordd o gynyddu hynny oedd cael pobl ifanc 16 a 17 oed, a byddai gen i ddiddordeb yn bersonol mewn gweld faint o bobl ifanc 16 a 17 oed a bleidleisiodd yr wythnos diwethaf.
Hoffwn i Lywodraeth Cymru wneud datganiad yn y Siambr ar gytundeb gweithredol Rhentu Doeth Cymru. Rwyf wedi bod yn ymdrin â nhw ar faterion yn ymwneud â gwaith achos etholaethol, ac mae wedi bod yn brofiad rhwystredig iawn i mi. Fel sefydliad, rydym wedi canfod bod diffyg cyfathrebu, tryloywder ac unrhyw ymdeimlad o frys ganddyn nhw wrth geisio cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad darn diweddar o waith achos ynghylch etholwr sydd dan fygythiad o gael ei droi allan yn anghyfreithlon o eiddo a rentir yn breifat. Dywedwyd wrthym na allai Rhentu Doeth Cymru ddatgelu canlyniad yr ymchwiliad i ni, ac ni allai ychwaith gymryd unrhyw gamau cyfreithiol yn erbyn landlord y canfuwyd ei fod yn torri ei gyfrifoldebau. Ers hynny, nid ydym wedi gallu cael unrhyw wybodaeth er budd yr etholwr, er gwaethaf y ffaith ein bod ni wneud ein gorau glas a chynghori'r sefydliad y gallai'r etholwr fod ar fin cael ei droi allan. Nid yw'n dderbyniol, ac nid yw'n ymddangos bod llwybr ar gael y gallwn ei ddefnyddio i graffu ar weithgarwch Rhentu Doeth Cymru, a dyna pam yr wyf yn gofyn am ddatganiad yn y Siambr hon ar eu cylch gwaith.
Diolch. Rwy'n bryderus o glywed am y profiad yr ydych chi wedi ei gael gyda Rhentu Doeth Cymru. Cyngor Caerdydd sy'n eu cynnal, felly dylid mynd i'r afael â chwynion amdanyn nhw, yn y lle cyntaf, drwy eu gweithdrefn gwyno nhw, ac mae hynny ar gael yn rhwydd, fel y gwyddoch eich hun, ar wefan Rhentu Doeth Cymru. Gall Aelodau Etholedig y Senedd, ac, yn amlwg, y staff sy'n gweithio i ni, anfon neges e-bost at Rhentu Doeth Cymru os ydyn nhw'n dymuno trafod unrhyw achos gyda nhw. Y llwybr nesaf wedyn, yn amlwg, fyddai'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n gwerthfawrogi na fyddai'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn gallu ymyrryd mewn achos unigol penodol, ond rwyf i yn credu bod eich profiad yn cyfiawnhau ysgrifennu ati, i weld pa ganllawiau y mae angen iddi edrych arnyn nhw. Os yw'n credu ei bod yn briodol cyflwyno datganiad ysgrifenedig, byddaf yn gofyn iddi wneud hynny.
Rwy'n galw am ddatganiad ar ddarpariaeth feddygol i bobl yng Nghymru sy'n dioddef o ME/CFS—enseffalomyelitis myalgig/syndrom blinder cronig—a all gael effaith ddinistriol ar y gallu i weithredu ac ar ansawdd bywyd. Mae hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth ME, 9 i 15 Mai. Gan fod canllawiau newydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar gyfer ME wedi eu cyhoeddi bellach, mae'n hanfodol yn awr symud ymlaen gyda llwybr clir ar gyfer pobl sy'n byw ag ME yng Nghymru. Mae ymgyrchwyr yng Nghymru yn dweud wrthyf y gallai fod gwasanaeth ME mewn rhai byrddau iechyd, ond, os oes, nid ydyn nhw'n gwybod ble mae'r gwasanaethau hyn, pwy sy'n eu rhedeg, na pha driniaethau y maen nhw'n eu defnyddio. Mae ganddyn nhw bellach gymorth cynghorydd meddygol y Gymdeithas ME, sy'n barod i weithio gyda nhw i alluogi pobl ag ME ledled Cymru i gael y ddealltwriaeth a'r gefnogaeth feddygol gywir ar gyfer eu cyflwr, ac i fynd i gyfarfod â Llywodraeth Cymru. Maen nhw'n ychwanegu ei bod yn aneglur iawn ar hyn o bryd ble neu sut y gall pobl ag ME gael triniaeth ar gyfer ME yng Nghymru. Mater o lwc yw hi os daw rhywun o hyd i feddyg teulu sydd â dealltwriaeth a hyfforddiant da o ran y cyflwr, ac nid oes ganddyn nhw unman i anfon cleifion ymlaen ato. Galwaf am ddatganiad yn unol â hynny, gan gynnwys, gobeithio, ymateb i'r cynnig o gyfarfod gan gynghorydd meddygol y Gymdeithas ME.
Diolch. Doeddwn i ddim yn ymwybodol ei bod hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth ME. Mae gennym ni sawl 'wythnos' a 'mis', ond doeddwn i wir ddim yn ymwybodol ei bod yn wythnos ymwybyddiaeth o bobl sy'n dioddef o'r cyflwr hwnnw. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y dyddiau, wythnosau, misoedd ymwybyddiaeth hyn, er mwyn sicrhau bod pobl yn adnabod y symptomau a hefyd yn gwybod i le y gallan nhw fynd am driniaeth. Yn amlwg, mater i fyrddau iechyd yw sicrhau bod ganddyn nhw'r gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer eu poblogaeth leol, pa gyflwr bynnag ydyw.
Dim ond dau ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdanyn nhw heddiw. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r ymgyrch gan Glwb Pêl-droed Wrecsam i sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer ailddatblygu Kop y Cae Ras, a hefyd ar gyfer dychwelyd gemau rhyngwladol i'r gogledd. A wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi'r ymgyrch dros stadiwm i'r gogledd, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am brosiect Porth Wrecsam a'r miliynau lawer o bunnoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo?
A fyddai modd cael ail ddatganiad, o ran cais Wrecsam am statws dinas diwylliant? A wnaiff Llywodraeth Cymru, unwaith eto, ailddatgan ei chefnogaeth ddiwyro i'r cais, a fydd yn drawsnewidiol i'r fwrdeistref sirol os bydd yn llwyddiannus?
Diolch. O ran cais Dinas Diwylliant Wrecsam 2025, fel y gwyddoch, mae Wrecsam ar y rhestr fer, ynghyd â thri lle arall yn Lloegr, i fod yn ddinas diwylliant. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig ei chefnogaeth lwyr i gais Wrecsam, sy'n dod i ben yn gyflym. Rwy'n credu y byddai'n wirioneddol drawsnewidiol i Wrecsam—rwy'n credu y byddai'n hwb gwirioneddol, wrth i ni edrych ymlaen. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog yn llwyr gefnogi'r cais.
O ran y ddeiseb a lansiwyd ddoe, roeddwn i'n meddwl ei bod yn ddiddorol iawn gweld y pwysau hwnnw'n cael ei ddwyn ymlaen ar Lywodraeth y DU mewn cysylltiad â'r gronfa ffyniant bro. Rydym wedi bod yn aros yn hir i weld a fydd y cyllid hwnnw yn cael ei gynnig. Mae'n ddeiseb anwleidyddol. Mae'n dda gweld cyn bêl-droedwyr fel Mickey Thomas a John Hartson yn llwyr gefnogi'r ddeiseb, ac rwy'n siŵr, pan fydd y Dirprwy Weinidog wedi cael cyfle i edrych arni, y bydd yn gallu cynnig ei chefnogaeth. Mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, ein bod ni'n cael pêl-droed rhyngwladol yn ôl ar y Cae Ras. Ac os caf i fodloni mympwy, roedd yn wych gweld Wrecsam yn mynd i frig y gynghrair ddydd Sul.
Ie, da iawn, Wrecsam.
A dyna ddiwedd y cwestiynau busnes.