– Senedd Cymru am 2:39 pm ar 10 Mai 2022.
Y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd nesaf—diweddariad ar COVID-19. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad hwnnw. Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch am y cyfle i ddod â'r drafodaeth yma i'r Senedd.
Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd a chanlyniad yr adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws. Mae trosglwyddiad y don omicron BA.2 o COVID-19 yn y gymuned yn parhau ar lefel uchel iawn ledled Cymru. Yn ôl arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae gan un o bob 25 o bobl yng Nghymru COVID. Mae tua 1,064 o gleifion yn yr ysbyty o hyd yn gysylltiedig â COVID—mae hynny 11 y cant yn is na'r wythnos diwethaf—er mai dim ond 78 o'r rhain sy'n cael eu trin yn weithredol ar gyfer COVID, gyda 15 o bobl mewn gofal critigol gyda COVID.
Mae'r system iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i gael trafferthion oherwydd gofynion COVID-19. Mae lefelau uchel o absenoldeb staff a phwysau eraill yn parhau. Mae'n rhaid i ni barhau â'n hymdrechion i leihau trosglwyddo o fewn ysbytai. Mae cyfyngu nifer yr ymwelwyr i ysbytai, cadw pellter cymdeithasol a gweithredu gweithdrefnau rheoli heintiau yn drylwyr i gyd yn parhau i fod yn bwysig. Gan gofio hyn, ac wrth ddilyn cyngor y prif swyddog meddygol a'r gell cyngor technegol, mae'r Cabinet wedi penderfynu cadw'r cyfyngiad cyfreithiol olaf sy'n weddill, sef y gofyniad am orchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol cyhoeddus dan do, am dair wythnos arall. Rwy'n deall pa mor heriol fu'r ddwy flynedd ddiwethaf, yn enwedig i'r rhai hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac i'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. Bu llawer o waith caled ac aberth, ac rwy'n cymeradwyo'r ymdrechion parhaus, wrth i ni barhau i gymryd camau i gadw'r bobl fwyaf agored i niwed a'r staff sy'n gweithio yn y lleoliadau risg uchel hyn yn ddiogel.
Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, brechu yw'r mesur amddiffyn pwysicaf yn erbyn COVID o hyd, ac mae wedi gwanhau'n llwyddiannus y cysylltiad rhwng y feirws a salwch difrifol a mynd i'r ysbyty. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu, ac rydym yn annog pawb sy'n gymwys i ddod ymlaen. Mae camau eraill y gallwn eu cymryd i amddiffyn ein hunain ac eraill. Byddwn yn parhau i argymell bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo ym mhob man dan do gorlawn neu gaeedig, fel rhan o gyfres o ganllawiau cryfach a chyngor ar iechyd y cyhoedd. Gall y mesurau hyn a mesurau eraill gydweithio i helpu i leihau trosglwyddo'r coronafeirws a chadw pob un ohonom yn ddiogel.
Rydym yn cydnabod pa mor anodd y mae hyn wedi bod i ddysgwyr, yn enwedig wrth i ni nesáu at dymor yr arholiadau. Mae'n bleser gen i gyhoeddi ein bod ni, ynghyd â'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, wedi cytuno ar eithriad i'n canllawiau hunanynysu ar gyfer y bobl hynny sy'n sefyll arholiadau TGAU, UG, Safon Uwch a galwedigaethol. Y nod yw galluogi dysgwyr yn well i sefyll eu harholiadau'n ddiogel, a sicrhau nad ydyn nhw o dan anfantais o'u cymharu â'u cyfoedion yn Lloegr a'r Alban, pan fo'r canllawiau yn dweud y dylai plant a phobl ifanc ynysu am dri diwrnod. Os byddan nhw'n cael canlyniad negatif, yna gallan nhw sefyll yr arholiadau hynny—os byddan nhw'n cael dau brawf negatif dilynol.
Mewn cam cadarnhaol arall, cyhoeddwyd 'Cyngor Iechyd y Cyhoedd i Ysgolion: Coronafeirws' yr wythnos diwethaf, ac mae'r cyngor newydd hwn yn gosod ysgolion a lleoliadau addysg ar yr un gwastad â sectorau eraill yng Nghymru o ran cyngor iechyd y cyhoedd a COVID-19. Hefyd, fe wnaethom ni gyhoeddi, ddoe, ein bod bellach wedi dileu'r fframwaith rheoli heintiau ar gyfer sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn ffurfiol, sy'n golygu y bydd y sectorau hyn hefyd yn symud tuag at ddefnyddio'r canllawiau iechyd cyhoeddus ehangach a ddilynir gan fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau.
Ond mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod nad yw COVID-19 wedi mynd, ac y bydd yn aros gyda ni yn fyd-eang. Wrth i'r don bresennol o'r haint leddfu, fel roeddem ni'n gobeithio, rhaid inni baratoi ar gyfer tonnau newydd yn y dyfodol. Allwn ni ddim cymryd yn ganiataol y bydd amrywiolion y dyfodol yr un fath ag omicron. Fe allem ni weld amrywiolyn mwy niweidiol yn dod yn y dyfodol. Rhaid inni gofio hefyd, wrth i bobl ddechrau cymysgu unwaith eto, y bydd heintiau anadlol tymhorol eraill yn dechrau lledaenu, gan gynnwys y ffliw.
Am y tro cyntaf amlygodd y pandemig COVID-19 bod angen inni gael gwybodaeth am achosion yn y gymuned, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau mewn amser real, cyn belled â phosibl. Roedd hynny'n angenrheidiol, oherwydd defnyddiwyd y data hyn i lywio'r cyfyngiadau ar gyfer lleihau'r trosglwyddiadau yn y gymuned a'r effaith y rhagwelwyd y byddai'r haint yn ei chael ar y boblogaeth a'n system gofal iechyd.
O dan y sefyllfa COVID sefydlog bresennol, rŷm ni wedi rhoi'r gorau i adnabod pob achos trwy brofi cymunedol torfol ac olrhain cysylltiadau. Wrth gadw gwyliadwriaeth yn y dyfodol, ni fydd modd dibynnu ar lefelau mor uchel o ddata. Ac eto, bydd angen i’n trefniadau cadw gwyliadwriaeth ein helpu i benderfynu a yw Cymru wedi symud o sefyllfa COVID sefydlog i sefyllfa COVID brys. Bydd angen inni hefyd gofnodi effaith heintiau anadlol eraill, ac felly rydym ni'n gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ystyried cynigion ar gyfer strategaeth wyliadwriaeth newydd i Gymru, gyda’r bwriad o gyflwyno’r datblygiadau hyn cyn gaeaf 2022-23.
Llywydd, mae pobl Cymru wedi gweithio’n ddiflino i ddiogelu a chefnogi ei gilydd drwy’r cyfnod hynod o anodd yma. Dwi'n gwbl ffyddiog, drwy barhau i gymryd pob un o'r camau bach i'n diogelu ni ein hunain ac eraill, y byddwn ni'n symud drwy'r cyfnod pontio hwn yn llwyddiannus ac oddi wrth yr argyfwng iechyd y cyhoedd sydd wedi bod yn rhan mor amlwg o'n bywydau ni. Diolch, Llywydd.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad heddiw, a diolch i chi hefyd am eich papurau briffio i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bob tair wythnos? A gaf i groesawu llawer o'r hyn a ddywedoch chi heddiw? Fodd bynnag, ni ddylai'r rheolau ar fasgiau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol fod yn rhan o gyfraith frys, yn fy marn i; dylid diddymu hynny o ystyried y sefyllfa sefydlog yr ydym ynddi bellach. Felly, a gaf i ofyn, a fyddwch chi'n sicrhau bod hyn felly yn rhan o ganllawiau rheoli heintiau'r GIG ac ni fyddan nhw'n cael eu hymgorffori yn y gyfraith?
Pryd gallwn ni ddisgwyl i'r datganiadau rheolaidd, y datganiadau tair wythnos, ddod i ben o ystyried y sefyllfa yr ydym ni ynddi bellach? Ydych chi'n bwriadu i'r cynadleddau teledu rheolaidd ddod i ben, neu ydych chi'n bwriadu parhau â nhw yn rheolaidd? Byddai'n ddefnyddiol cael eich dealltwriaeth o'r cylch adolygu tair wythnos, Gweinidog.
Rwyf hefyd yn gweld o'ch cyngor gan y gell cyngor technegol, er bod heintiau COVID wedi gostwng yn sylweddol, sydd wrth gwrs yn newyddion i'w groesawu, fod ffliw a heintiau anadlol yn cynyddu. Felly, pa mor bryderus ydych chi y bydd ton o'r heintiau hyn dros gyfnod yr haf? Rwy'n sylweddoli mai dros gyfnod yr haf yw hi, sy'n ei gwneud ychydig yn haws ei thrin efallai, ond pa negeseuon cyhoeddus ydych chi'n bwriadu eu cyflwyno ar gyfer y misoedd nesaf yn hynny o beth, os ydych yn wir yn credu bod hyn yn bryder?
Rwy'n sylwi ar y pwyslais ar leoliadau addysg, ac rwy'n croesawu yn fawr eich bod wedi eu dileu o'r fframwaith rheoli heintiau, ochr yn ochr â chyhoeddiadau'r Gweinidog addysg yr wythnos diwethaf y byddai'r cyfyngiadau terfynol hynny yn cael eu codi. Yr hyn yr wyf i'n pryderu yn ei gylch yw bod rhai sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn dal i gyfyngu ar addysg wyneb yn wyneb. Y llynedd, roedd nifer y cwynion yn erbyn prifysgolion Cymru a Lloegr yr uchaf ar gofnod, gyda bron i hanner—45 y cant—yn ymwneud â materion gwasanaeth fel addysgu a darpariaeth cyrsiau. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fonitro'r gwaith o ddychwelyd i fusnes fel arfer mewn lleoliadau addysg uwch ac addysg bellach fel y gall myfyrwyr fynychu addysg wyneb yn wyneb yn llawn, sydd, yn fy marn i, yn arbennig o bwysig cyn i dymor yr arholiadau ddechrau?
Yn olaf, Gweinidog, rydych chi wedi penderfynu cyhoeddi cynllun gweithlu ar wahân i'ch cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio, ond mae eich bylchau o ran gweithlu'r GIG ar-lein yn parhau i fod yn broblem ar hyn o bryd hefyd, ac rwy'n gwybod y bydd y ddau ohonom yn cytuno ar hynny. Gwelaf, er enghraifft, fod bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn cau unedau geni dan arweiniad mamolaeth yn ysbyty Brenhinol Gwent ac yn ysbyty Nevill Hall tan fis Hydref oherwydd pwysau sylweddol o ganlyniad uniongyrchol i brinder staff. Felly, er bod gan y bwrdd iechyd rai dewisiadau eraill ar waith—rwyf wedi nodi hynny—ac o gofio mai dim ond tair blynedd yn ôl y cafodd sgandal uned mamolaeth Cwm Taf ei ddatgelu, pa fonitro ydych chi'n ei roi ar waith ar unwaith i sicrhau bod lefelau staffio diogel yn cael eu cadw ac nad yw diogelwch cleifion yn cael ei beryglu?
Rwyf hefyd yn gweld, yn y GIG yn Lloegr, fod miloedd o swyddi wedi eu creu ar gyfer y rhai hynny sydd wedi gwirfoddoli mewn canolfannau brechu, a tybed pa fesurau ydych chi'n eu cymryd i efelychu'r llwyddiant hwnnw a'r hyn sy'n digwydd yn awr i'r canolfannau brechu torfol. Diolch, Llywydd.
Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n credu ei bod yn glir iawn nad yw canllawiau mor gryf â gorfodi yn y gyfraith, a dyna pam yr ydym wedi parhau, yn enwedig yn y lleoliadau hyn sydd dan fygythiad, i fynnu ar wisgo gorchuddion wyneb yn y lleoliadau hynny. Ac mae'n amlwg nad yw'n ofyniad ar y bobl sy'n gweithio yno yn unig, ond mae hefyd yn ofyniad ar y bobl sy'n dod i mewn i'r adeiladau hynny i ymweld. Felly, mae'n llawer haws i bobl blismona hynny os oes ganddyn nhw rym y gyfraith y tu ôl iddyn nhw. Felly, yn yr ystyr hwnnw, mae'r adolygiad 21 diwrnod yn parhau, oherwydd bod gennym ni ddarn o ddeddfwriaeth o hyd sy'n gysylltiedig â COVID, a bydd yr adolygiad 21 diwrnod hwnnw yn parhau tra bo'r cyfyngiad cyfreithiol hwnnw ar waith.
Rydych chi'n llygad eich lle, rydym ni yn gwylio'n ofalus iawn y cynnydd yn nifer y bobl sy'n dioddef o'r ffliw ar hyn o bryd. Rydych chi'n llygad eich lle wrth awgrymu, mewn gwirionedd, ein bod ni, mae'n debyg, yn poeni'n fwy y bydd hynny'n dechrau yn wirioneddol yn y gaeaf, a'r hyn yr ydym yn ei wneud eisoes, wrth gwrs yw, rydym yn parhau â'n rhaglen gyfathrebu, 'Helpwch ni i'ch helpu chi', gan geisio cyfeirio pobl i'r gofal iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn, ac mae hynny eisoes yn cael effaith.
O ran addysg, mae'n amlwg mai gwaith i'r Gweinidog addysg fydd monitro sut y byddan nhw'n dychwelyd i'r drefn arferol, i weld i ba raddau y gallan nhw fod yn cynyddu'r addysg wyneb yn wyneb y gwnaethoch ei nodi ei bod yn bwysig iawn.
O ran cynllunio'r gweithlu, hoffwn eich atgoffa ein bod ni wedi cynyddu'r gweithlu yng Nghymru 54 y cant yn yr 20 mlynedd diwethaf. Rydym wedi gweld cynnydd, er enghraifft, yn nifer y meddygon teulu o 1,800 i 2,000 yn 2021. Fe wnaethoch chi sôn am y sefyllfa yn Aneurin Bevan. Rydym ni wedi gweld cynnydd o 100 o bobl mewn gofal sylfaenol yn unig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a chynnydd o 255 yn nifer y staff yno. Felly, rydym yn gweld niferoedd yn cynyddu'n gyson. Rhan o'r broblem, wrth gwrs, ar hyn o bryd hefyd yw bod gennym ni lawer o staff yn dioddef o COVID, felly maen nhw i ffwrdd oherwydd COVID, ac mae hynny'n rhoi pwysau ar y gwasanaeth hefyd.
Diolch am y datganiad. Ryw dri chwestiwn, dwi'n meddwl, gen i. Prin ydy'r newidiadau erbyn hyn, mewn difri. Dwi'n falch bod y dystiolaeth—nid yn gymaint y profion, wrth gwrs, erbyn hyn, ond tystiolaeth yr ONS a dŵr gwastraff ac ati—yn awgrymu bod y sefyllfa yn gwella. Mae'r cwestiwn cyntaf ynglŷn ag ysgolion a cholegau, sy'n gweld y newid mwyaf yn fan hyn, am wn i, efo gorchuddion wyneb ddim yn angenrheidiol bellach. All y Gweinidog ddweud pa gryfhau mae hi am ei weld o ran mesurau fel sicrhau awyr iach a monitro carbon deuocsid er mwyn gwarchod disgyblion?
Yn ail, dwi'n dal i fod yn bryderus am COVID hir. Fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar COVID hir, dwi wedi galw'n gyson am ddatblygu gofal arbenigol i gleifion COVID hir, i drio sicrhau cefnogaeth a diagnosis a thriniaeth gyflym. Rŵan, mae ffigurau newydd gan yr ONS yn awgrymu y gallai 438,000 o bobl fod â symptomau COVID hir o'r don omicron yn unig. Felly, mae'n sefyllfa sy'n dal i ddatblygu. Dwi wedi derbyn cyswllt gan rieni sy'n poeni am ddiffyg triniaeth i blant yn benodol. Yn Lloegr, mi fydd y Gweinidog yn gwybod bod yna rwydwaith o ganolfannau COVID hir pediatrig, ond beth mae rhieni yn dweud wrthyf i ydy eu bod nhw nid yn unig yn methu â chael triniaeth mewn canolfannau arbenigol yng Nghymru, ond eu bod nhw hefyd yn methu â chael referral i ganolfannau y tu allan i Gymru, hyd yn oed os mai dyna fyddai, o bosib, orau i'w plant nhw. Felly, pa gynlluniau mae'r Gweinidog yn barod i'w datblygu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn benodol yng Nghymru yn cael y gofal gorau posib am COVID hir?
Yn drydydd ac yn olaf—
—ysgrifennais at y Prif Weinidog ar 27 Ebrill, yn gofyn iddo gywiro'r Cofnod, Cofnod y Senedd, ar ôl iddo ddweud bod y cyfrifoldeb am ymchwiliad cyhoeddus i COVID
'wedi symud i ddwylo'r barnwr annibynnol a benodwyd i'w arwain.'
Roedd yn ateb cwestiwn a ofynnodd Heledd Fychan. Nawr, fel rhywun sydd wedi galw'n gyson am ymchwiliad i Gymru yn unig i sicrhau bod materion yn cael eu hystyried yn iawn o safbwynt Cymru—ac mae'r rhain yn faterion hollbwysig, wrth gwrs, ynghylch amgylchiadau miloedd o farwolaethau yma yng Nghymru—nid wyf i'n hapus ein bod yn rhan o ymchwiliad y DU yn unig nad wyf i'n credu y gall edrych yn ddigon fforensig ar y sefyllfa yma yng Nghymru, ac, fel yr wyf i wedi ei ddweud dro ar ôl tro, rwy'n rhwystredig bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn hapus i ymddiried yn Boris Johnson ar hyn, ar amseriad ymchwiliad a'r cylch gwaith. Nawr, y rheswm y galwais am gywiro'r Cofnod oedd oherwydd nad oedd cyfrifoldeb llawn wedi ei roi i'r cadeirydd annibynnol a bod Prif Weinidog y DU yn dal i fod yn gyfrifol am gymeradwyo'r cylch gorchwyl—cylch gorchwyl holl bwysig yr ymchwiliad. Felly, gan fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu ataf heddiw i ddweud nad yw'n mynd i achub ar y cyfle hwn i gywiro'r Cofnod, a wnaiff y Gweinidog iechyd o leiaf gadarnhau yr hyn sy'n ffeithiol gywir: fod y Prif Weinidog yn anghywir i ddweud nad oedd gan Boris Johnson unrhyw swyddogaeth na dylanwad pellach ar sefydlu'r ymchwiliad, oherwydd bod hyn ganddo? Mae angen ymchwiliad i Gymru arnom. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi hynny i ni, ond o leiaf byddwch yn onest gyda ni.
Diolch yn fawr. Mae'n dda i weld bod y niferoedd wedi dod i lawr, fel ŷch chi'n cyfeirio, ac rydym ni'n gwybod hyn oherwydd yr ONS a dŵr gwastraff. Mae'n glir bod canllawiau newydd wedi cael eu rhoi gerbron prifysgolion a cholegau ynglŷn â sut i ddelio â COVID nawr, ac fel rhan o hynny bydd gofyn i bobl ystyried sut maen nhw'n mynd i alluogi awyr iach i ddod i mewn i'w hystafelloedd nhw.
O ran COVID hir, byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi canolbwyntio ar hwn fel Llywodraeth ac, yn sicr o'r tystiolaeth rŷn ni wedi ei chael o'n rhaglen ni, mae pobl fwy neu lai yn hapus gyda beth ŷn ni wedi cyflwyno er ein bod ni wedi dechrau'n hwyr, ond erbyn hyn dwi'n meddwl bod pethau wedi gwella. Dwi'n meddwl bod yn dal i fod rhywfaint gyda ni i'w wneud o ran plant. Beth ŷn ni'n sôn am fan hyn yw niferoedd bach iawn, felly, o'r hyn rŷn ni wedi ei weld, ychydig iawn o blant sy'n cael eu heffeithio, ond, wrth gwrs, mae gyda ni gyfrifoldeb i helpu'r rheini sydd yn blant, ac rydym ni'n cyd-fynd bod mwy o waith i'w wneud yn y maes yna.
O ran—
—yr ymchwiliad cyhoeddus i COVID, byddwch yn ymwybodol o'n safbwynt ni ar hyn. Rydym ni wedi ei gwneud yn glir drwy'r adeg ein bod ni'n annhebygol o gael ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru gan ein bod ni'n system lle mae COVID wedi ei integreiddio fwy neu lai â'r DU. Roedd llawer o'r penderfyniadau a wnaethom yn benderfyniadau yn seiliedig ar ddadansoddiad a thystiolaeth a gawsom drwy Lywodraeth y DU. Yn sicr, roedd ein gallu i atal COVID rhag dod i mewn i'r wlad yn gyfyngedig oherwydd nad oes gennym reolaeth dros ofod awyr a phobl yn dod i mewn i'r wlad, ac rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi sicrhau bod £4.5 miliwn ar gael i fyrddau iechyd allu ymchwilio i'r holl bobl hynny sydd wedi colli anwyliaid y credir eu bod nhw wedi ei ddal mewn ysbyty. Felly, gallaf eich sicrhau nad ydym yn ymddiried yn Boris Johnson; rydym yn ymddiried mewn cadeirydd annibynnol. Byddwn yn troi at y cadeirydd annibynnol hwnnw a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfrannu at y cylch gorchwyl hwnnw—system, fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei egluro o'r dechrau lle gall ef sicrhau y byddai'r cylch gorchwyl yn rhywbeth y byddai ef hefyd yn gallu dylanwadu arno. Diolch yn fawr.
Eitem 4 yw'r eitem nesaf, ond nid yw'r Gweinidog yma i wneud ei datganiad. Rwy'n cynnig felly, os yw'r Gweinidog iechyd yn fodlon gwneud hynny, ac rwy'n credu bod pawb sy'n dymuno cyfrannu at eitem 5 yn y Siambr, ac o gofio ein bod ni mewn sefyllfa debyg yr wythnos diwethaf gan nad oedd y Gweinidog iechyd yn bresennol, efallai y bydd y Gweinidog iechyd yn cytuno i gamu i'r adwy yn awr. Unwaith eto, rwy'n mynd i fod yn siarad yn araf yn fwriadol er mwyn i bawb gael paratoi ar gyfer y datganiad hwn. Mae'n amlwg nad yw'n ddelfrydol. Hoffwn atgoffa pob Gweinidog bod datganiadau wedi eu hamserlennu am 30 munud bellach a bod angen iddyn nhw fod yn y Siambr yn barod i wneud eu datganiad.