Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 11 Mai 2022.
Diolch yn fawr. Rŷn ni'n gweithio ar ddiwygio’r system ddeintyddiaeth ac yn symud ymlaen ar y cyd gyda'r rhaglen ddiwygio gofal sylfaenol yn 2022. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth gyda’r proffesiwn deintyddol i wella mynediad at ofal deintyddol, gwella'r profiad a gwella ansawdd y gofal.