2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 11 Mai 2022.
9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau'r stryd fawr? OQ58024
Diolch am y cwestiwn. Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi gwerth £136 miliwn yn canolbwyntio ar arallgyfeirio a thwf cynaliadwy yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd. Mae nifer o'r ymyriadau'n cynnwys ailddefnyddio adeiladau adfeiliedig a gwag—clywsom rywfaint am hynny mewn cwestiynau blaenorol ynghylch Casnewydd—gan gynyddu amrywiaeth a mynediad at gyfleusterau hamdden, gwasanaethau a lleoliadau gweithio hyblyg, gofod defnydd cymysg a gwell seilwaith gwyrdd.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Lywydd, rwy'n croesawu'r ffigurau diweddar a ddarparwyd gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru, a ddangosodd fod nifer yr unedau manwerthu gwag yng Nghymru wedi gostwng 2.3 y cant dros y 12 mis diwethaf. Dyma'r gostyngiad mwyaf yn y DU, sy'n wych. Fodd bynnag, nid yw'n newyddion cadarnhaol drwyddo draw. Er gwaethaf y gostyngiad, Cymru sydd â'r gyfradd adeiladau gwag uchaf ond un yn y DU, ac er nad yw'r adferiad wedi bod yn gyson, gyda rhai strydoedd mawr yn gwneud yn well nag eraill, ceir heriau pellach, megis pwysau costau byw yn ogystal ag ailgyflwyno ardrethi busnes yn rhannol. Weinidog, pa ymyriadau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i helpu i ddenu busnesau yn ôl i'r stryd fawr? A yw'r Llywodraeth yn ystyried rhoi hwb i'r cymorth ariannol sydd ar gael i ficrofusnesau a busnesau bach yng Nghymru ac a ddarperir gan Fanc Datblygu Cymru i annog pobl i sefydlu mwy o fusnesau lleol, ac yn arbennig i'r bobl sydd am ddechrau busnes ond a allai ei chael yn anodd cael gafael ar y cyllid a ddarperir gan fanciau'r stryd fawr? Yn olaf, pa ystyriaeth a roddwyd i gynlluniau i rymuso cynghorau lleol i sicrhau bod eiddo a fu'n wag yn hirdymor, sy'n falltod ar lawer o gymunedau, yn cael ei ddefnyddio unwaith eto? Diolch.
Diolch. Bydd Banc Datblygu Cymru yn parhau i sicrhau bod cyfalaf ar gael i fusnesau a microfusnesau newydd, fel y mae'r Aelod wedi nodi. Efallai ei fod hefyd yn ymwybodol ein bod wedi darparu arian penodol i helpu busnesau newydd mewn amrywiaeth o sectorau, nid yn unig yng nghanol trefi ond mewn amrywiaeth o sectorau eraill hefyd. Rydym wedi ymrwymo i barhau i wneud hynny. O ran her ehangach y stryd fawr a chanol trefi ac ardaloedd—i'r rheini ohonom sydd â diddordeb mewn dinasoedd, ceir llawer o ganol ardaloedd sydd mewn sawl ffordd yn cyfateb i ganol trefi mewn rhannau eraill o'r wlad—mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi sefydlu grŵp cyflawni canol y dref ac mewn cyfarfod diweddar rydym wedi sicrhau ein bod yn cydgysylltu'r gwaith y mae'n arwain arno yn y maes a'i gyfrifoldebau dros adfywio â lansio strategaeth fanwerthu sy'n dwyn ynghyd undebau llafur, a busnesau eu hunain yn wir. Felly, mae manwerthu'n rhan o'r ateb ond nid yr unig ateb i sicrhau bod gennym ganol trefi ac ardaloedd bywiog, a dyna pam y mae egwyddor 'canol y dref yn gyntaf' yn ystyriaeth bwysig yn hyn o beth. Felly, rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth fod peth newyddion da ynghylch hyn, ond credaf fod mwy i'w wneud i sicrhau dyfodol bywiog i'n trefi a'r cymunedau o'u cwmpas.