2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 11 Mai 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Cwestiynau llefarydd y Ceidwadwyr, i'w hateb gan y Dirprwy Weinidog celfyddydau a chwaraeon ac i'w gofyn gan Tom Giffard.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da i chi, Ddirprwy Weinidog. Roeddwn am ddechrau drwy dynnu eich sylw at sylwadau cyn brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, David Moffett, a ddywedodd mewn cyfweliad â'r BBC ddoe fod rygbi Cymru yn destun sbort. Ef yw'r dyn a oedd yn gyfrifol am ranbartholi'r strwythur rygbi yng Nghymru a dywedodd hefyd nad oedd y cysyniad wedi gweithio, ac fe alwodd am dorri un o'r pedwar rhanbarth rygbi yng Nghymru, sy'n amlwg yn adlewyrchu adroddiad a gomisiynwyd gan y bwrdd rygbi proffesiynol, a oedd hefyd yn argymell cael gwared ar un o'r rhanbarthau. Deallaf y bydd cyfarfod nesaf y bwrdd rygbi proffesiynol yn cael ei gynnal heddiw, lle bydd yr adroddiad hwnnw dan ystyriaeth. Felly, tybed pa drafodaethau a gawsoch gydag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â hyn. A ydych chi'n credu bod rhanbartholi rygbi yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant? A all Cymru gynnal pedwar tîm rygbi, ac os felly, pa gamau sydd ar y gweill gennych i sicrhau y gall y model hwnnw fod yn llwyddiannus yn y dyfodol?
A gaf fi ddiolch i Tom Giffard am y cwestiwn hwnnw? Yn sicr rydym yn ymwybodol o'r adroddiadau yn y wasg fod Undeb Rygbi Cymru yn archwilio opsiynau ar gyfer newid eu strwythur. Fe fyddwch yn sylweddoli fy mod i a fy swyddogion yn cwrdd ag Undeb Rygbi Cymru yn weddol rheolaidd ac un o'r pethau y byddwn yn siarad â hwy amdano yw cynaliadwyedd ariannol parhaus Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau. Ond fel y dywedoch chi eisoes, mae'r adroddiadau yn y wasg yn seiliedig ar adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan y bwrdd rygbi proffesiynol ac nid yw wedi'i ystyried eto gan y bwrdd rygbi proffesiynol nac Undeb Rygbi Cymru. Felly, mater i Undeb Rygbi Cymru yn unig, fel y corff llywodraethu ar gyfer y gêm, yw gweithio gyda'r bwrdd rygbi proffesiynol a gwneud y penderfyniadau hynny er budd y gêm yng Nghymru.
Fel y gwyddoch, rydym wedi rhoi benthyciad sylweddol i Undeb Rygbi Cymru i helpu i reoli effaith COVID ac i gefnogi ein timau rhanbarthol, ac ni fydd unrhyw drafodaethau ynghylch newidiadau yn y strwythur neu nifer y rhanbarthau yn effeithio ar y trefniant hwnnw. Ond yn sicr, byddaf eisiau cael trafodaethau pellach gydag Undeb Rygbi Cymru pan fyddant wedi gwneud eu penderfyniadau a phan fyddant wedi ystyried yr adroddiad hwnnw, ynglŷn â hyfywedd ariannol y rhanbarthau yn y dyfodol, sydd mor bwysig i ddyfodol y gêm yng Nghymru.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Os caf droi at bwnc arall, ers y tro diwethaf i chi a minnau wneud cwestiynau'r llefarwyr gyda'n gilydd, rydym wedi gweld y newyddion da am benodi prif weithredwr newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gydag Ashok Ahir yn camu i'r rôl newydd. Ac fel rhan o'r broses honno, daeth gerbron y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, yr wyf yn aelod ohono, am wrandawiad cyn penodi, ac rwy'n falch o ddweud fy mod wedi ei gefnogi i'r swydd newydd honno. Fodd bynnag, pan ofynnwyd iddo gan fy nghyd-Aelod, Alun Davies, ynglŷn â sefydlogrwydd ariannol y llyfrgell yn y dyfodol, dywedodd, er ei fod yn cydnabod bod angen i gyrff cyhoeddus ofalu am eu harian eu hunain, dywedodd hefyd:
'gallwch bob amser ddisgwyl i Drysorlys Cymru... achub eich croen o bryd i'w gilydd'.
A yw'n gywir?
Mae'n ddrwg gennyf, ni chlywais ran olaf eich cwestiwn. Mae'n ddrwg gennyf.
Dywedodd:
'gallwch bob amser ddisgwyl i Drysorlys Cymru... achub eich croen o bryd i'w gilydd'.
A yw'n gywir?
Wel, wyddoch chi—. Achub ei groen? Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym eisiau ei wneud yw sicrhau cynaliadwyedd ein sefydliadau cenedlaethol, ein sefydliadau diwylliannol, ac un o'r pethau yr ydym wedi ymrwymo iddynt yn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yw y byddwn yn gwneud hynny. Mae'r llyfrgell genedlaethol yn un o'r sefydliadau yr ydym yn awyddus i sicrhau y bydd yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Felly, nid wyf yn edrych arno fel achub croen neb. Yr hyn y bwriadwn ei wneud yw gweithio gyda'n holl gyrff cenedlaethol a noddir a chyrff llywodraethu i sicrhau eu bod yn gynaliadwy yn ariannol ar gyfer y dyfodol. Ac mae ein buddsoddiad yn y gyllideb dros y tair blynedd nesaf yn rhoi arwydd clir ein bod yn bwriadu gwneud hynny ac yn bwriadu gwneud hynny gyda'r llyfrgell genedlaethol.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n cytuno ei bod yn bwysig iawn fod y sefydliadau hyn yn solfent yn ariannol, ond mae'n destun pryder mai dyna yw agwedd rhai o'r sefydliadau hyn, ac mae'n debyg mai chi sy'n gyfrifol am gyflwyno newid diwylliant yn hynny o beth, fel y Dirprwy Weinidog.
Yn olaf, os caf droi at sefydliad arall yr ydych yn gyfrifol amdano, roeddwn eisiau gofyn am y sefyllfa barhaus gydag Amgueddfa Cymru. Ddeufis yn ôl, dywedodd WalesOnline fod yr uwch dîm rheoli yn rhanedig iawn. Dywedwyd bod y berthynas rhwng llywydd a chyfarwyddwr cyffredinol y sefydliad wedi cyrraedd isafbwynt a bod hynny'n cael effaith wirioneddol ar allu Amgueddfa Cymru i weithredu'n briodol, gyda'r archwilydd cyffredinol hefyd yn nodi pryderon sylweddol yn ei gylch yn ei adroddiad ariannol. Ond ers cyhoeddi'r erthygl honno ddeufis yn ôl, nid wyf wedi gweld unrhyw eglurhad gan y sefydliad fod unrhyw un o'r honiadau'n anghywir ac ni chafwyd datganiad ysgrifenedig na llafar gennych chi, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol. Pam nad yw hynny wedi digwydd? A rhaid eich bod yn cytuno bod hon yn sefyllfa sy'n galw am eich ymyrraeth.
A gaf fi sicrhau'r Aelod fy mod yn gwbl ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn Amgueddfa Cymru a fy mod yn cael trafodaethau rheolaidd gyda swyddogion a chyda'r amgueddfa ei hun? Fodd bynnag, byddwch hefyd yn deall na fyddai'n briodol i mi ddod â materion staffio mewnol sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd i lawr y Senedd hon. Mae amryw o brosesau cyfreithiol ar waith ac mae prosesau mewnol yn cael eu dilyn. A thra bo'r rheini ar y gweill, ni fyddai'n briodol imi ddod â hynny i lawr y Senedd na gwneud unrhyw ddatganiad, ond fe wnaf hynny maes o law pan gaiff y materion hynny eu datrys.
O ran materion llywodraethu ehangach Amgueddfa Cymru, rydym yn gweithio'n agos gyda hwy i bennu cwmpas yr adolygiad pwrpasol sydd ar y ffordd, adolygiad y nododd yr archwilydd cyffredinol ei fod yn angenrheidiol. A phan gaf yr argymhellion terfynol ar gyfer hynny, dof â'r wybodaeth honno i lawr y Senedd, a dylai hynny ddigwydd yn yr haf fan bellaf.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Heledd Fychan.
Diolch, Lywydd. Flwyddyn yn ôl, yn fuan ar ôl imi gael fy ethol i'r Senedd, a'ch penodi i'ch rôl, gofynnais sut y byddech yn sicrhau rôl fwy canolog i'r celfyddydau a diwylliant yn Llywodraeth y chweched Senedd, o'i gymharu â'r bedwaredd a'r bumed Senedd, a sut y bwriadech fynd i'r afael â'r tanfuddsoddi a welwyd ers dros ddegawd. Rwy'n siŵr y byddwch yn cofio fy mod yn meddwl, ac yn dal i feddwl, fod eich portffolio yn haeddu swydd weinidogol, nid swydd Dirprwy Weinidog yn unig. Fe wnaethoch ymateb drwy nodi y byddech yn gweithio ochr yn ochr â Gweinidog yr economi i sicrhau bod y sector diwylliannol yn cael ei ariannu'n ddigonol, a bod y sector diwylliannol yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o adfer yr economi. Fodd bynnag, ers hynny, credaf ein bod wedi gweld Llywodraeth Cymru yn gwthio'r portffolio diwylliannol a'r sector diwylliannol yng Nghymru i'r cyrion, er gwaethaf eich ymdrech bersonol. Er enghraifft, ers etholiad y Senedd yn 2021, hyd at 6 Mai eleni, dim ond 46 o gyhoeddiadau ar gelfyddyd, diwylliant a chwaraeon a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, a dau yn unig ohonynt a gyflwynwyd ar lafar yn y Siambr hon—y nifer isaf o'r holl bortffolios, yn ôl dadansoddiad o'r holl gyhoeddiadau a datganiadau. Pam?
Yn gyntaf oll, Heledd, diolch am y cwestiynau hynny. Ac rwyf am ddweud nad 'dim ond' y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon wyf fi, fi yw'r Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon ac mae gennyf rôl annatod yn Llywodraeth Cymru, ac mae fy marn a fy mewnbwn i'r Llywodraeth lawn mor werthfawr ag unrhyw Weinidog arall. Ond o ran y cyhoeddiadau diwylliannol, gallaf eich sicrhau nad yw diwylliant yn cael ei wthio i'r cyrion. Ond mae pethau y mae'n rhaid inni eu gwneud—rydym yn bwrw ymlaen â chynlluniau gweithredol ar gyfer ein holl gyrff llywodraethu cenedlaethol a'n cyrff cenedlaethol a noddir. Ac felly, rhan o'r trafodaethau hynny yn awr fydd ein bod yn aros—. Maent i gyd wedi cael eu llythyrau cylch gwaith, maent yn gwybod beth sy'n rhaid iddynt ei wneud, ac rydym bellach yn aros am eu cynlluniau gweithredol. A bydd pethau arwyddocaol yn y cynlluniau gweithredol hynny a fydd yn dod allan ac yn cael eu cyhoeddi ar lawr y Senedd hon. Ond eto, mae llawer o'r gwaith a wnawn yn parhau ar sail ddyddiol. Mae'n fater o waith fel arfer, busnes fel arfer, dyma'r pethau yr ydym yn eu gwneud. Ac rwyf wedi gwneud cyhoeddiadau, ar sgiliau creadigol a materion eraill, a byddaf yn parhau i wneud cyhoeddiadau, gan gefnogi'r sector diwylliannol, sy'n hynod bwysig i Lywodraeth Cymru, ac i mi yn sicr.
Diolch yn fawr, Weinidog. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed mwy o gyhoeddiadau dros y flwyddyn nesaf. Ond mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain ar hyn o bryd, pan fyddwn yn cymharu â'r portffolios eraill. Yn amlwg, fel y byddech yn ei ddisgwyl, rydym wedi gweld 301 o gyhoeddiadau ar y coronafeirws, ond 51 ar gymunedau ac adfywio. Mae diwylliant a chwaraeon a'r celfyddydau yn haeddu cael eu clywed yma, ac os nad ydym yn llafar ac yn eu trafod yma, ni chânt eu gweld fel pethau canolog i dwf ac adferiad ar ôl y pandemig, fel y gwn eich bod yn credu eu bod.
Roeddwn yn ddigon ffodus y bore yma i ymweld â stiwdios Bad Wolf a Chynghrair Sgrin Cymru. Roedd yn wych clywed am yr holl waith sy'n cael ei wneud i ddarparu porth rhwng y diwydiant ffilm a theledu a'i weithlu, ochr yn ochr â darparu llwybrau amgen. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau fel Cynghrair Sgrin Cymru, i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i bobl o bob rhan o Gymru, ac o bob cefndir, weithio yn y diwydiannau creadigol a'r sector diwylliannol?
Mae hynny'n gwbl gywir ac yn bwysig iawn hefyd, oherwydd dyna'n union yw hanfod sefydlu'r bwrdd sgiliau creadigol. Bydd y bwrdd sgiliau creadigol yn gweithio gyda'r holl ddiwydiannau creadigol ledled Cymru—ac mae Cynghrair Sgrin Cymru yn un o'r cyrff hynny sy'n ymwneud yn fawr â hynny—er mwyn inni estyn allan at bobl ledled y wlad, a'u hannog i ystyried diwydiannau creadigol fel dewis gyrfaol posibl. Un o'r pethau a nodais pan siaradais â Chynghrair Sgrin Cymru ddiwethaf oedd y modd y maent yn annog pobl ifanc i feddwl am y diwydiannau creadigol fel dewis gyrfaol, nid yn unig fel actor neu fel technegwyr goleuo a ffotograffiaeth ac yn y blaen, ond fel plastrwyr, seiri coed, plymwyr—yr holl bobl hyn. Mae gwaith set ffilm, fel y gwyddoch mae'n siŵr, fel tref fach. Ac mae gennym ddiwydiant ffilm gwych yma yng Nghymru, yn enwedig yn ne-ddwyrain Cymru—y drydedd ardal gynhyrchu ffilmiau fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae'r holl waith hwnnw'n ymwneud ag estyn allan ar draws y wlad, i geisio denu mwy o bobl i'r diwydiannau creadigol—un o'r diwydiannau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, ac sy'n cyflogi tua 56,000 o bobl ar hyn o bryd. Felly, mae hwnnw ar frig fy rhestr yn bendant iawn hefyd.
Cwestiwn 3, Janet Finch-Saunders.