4. Datganiadau 90 eiliad

– Senedd Cymru am 3:05 pm ar 11 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:05, 11 Mai 2022

Yr eitem nesaf, felly, fydd eitem 4, heddiw, y datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf gan Sioned Williams.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i alw ar y Senedd i ddathlu deng mlwyddiant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a hoffwn, fel llefarydd Plaid Cymru ar addysg ôl-16, eu llongyfarch ar eu degawd cyntaf o gynllunio a datblygu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sy'n creu cyfleon gwerthfawr i gymaint o fyfyrwyr yn ein prifysgolion, colegau addysg bellach ac yn y maes prentisiaethau.

Tan yn rhy ddiweddar—yn wir, pan oeddwn i'n fyfyriwr—dim ond trwy hap oedd hi, os oedd eich darlithydd yn digwydd bod yn medru'r Gymraeg, yr oeddech chi'n medru astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond, diolch i gytundeb Llywodraeth Cymru'n Un rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, fe ddechreuwyd ar y gwaith o ffurfio'r coleg ffederal, fel y galwyd y cynllun, a arweiniodd at sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011.

Roeddwn i'n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ar y pryd, a chofiaf yn glir y cyffro a'r llawenydd wrth i'r gwaith o gynllunio a buddsoddi mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg fynd rhagddo. Bellach mae 4,700 o fyfyrwyr bob blwyddyn yn astudio elfen o'u cwrs gradd drwy'r Gymraeg. Ac mae gwaith diweddar y coleg mewn colegau addysg bellach yr un mor bwysig a chyffrous. A diolch i gytundeb cydweithio y Llywodraeth gyda Phlaid Cymru, bydd y coleg yn buddsoddi ym maes prentisiaethau hefyd.

Pen-blwydd hapus felly i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a phob hwyl ar y gwaith sydd mor bwysig i ddyfodol ein cenedl.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 3:06, 11 Mai 2022

Hoffwn ddymuno'n dda i ddigwyddiad deuathlon aml-chwaraeon ColegauCymru sydd yn cael ei gynnal heddiw ym Mharc Gwledig Pen-bre, ger Llanelli, a hynny yn dilyn absenoldeb o dair blynedd, wrth gwrs, yn sgil y pandemig. Bydd y digwyddiad yn gweld dros 250 o ddysgwyr a staff addysg bellach o wyth coleg o bob rhan o Gymru yn dod ynghyd i'r digwyddiad cynhwysol hwn, gyda chyfranogwyr yn mentro unai tri-duathlon 6 km neu deuathlon llawn 27 km.

Mae'r digwyddiad wedi ei drefnu gan ColegauCymru, gan hefyd dderbyn cefnogaeth gan sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, Triathlon Cymru, Beicio Cymru, Coleg Sir Gâr a Chyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r digwyddiad yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r sector addysg bellach er mwyn hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol pobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio yn andwyol o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig.

A hithau, wrth gwrs, yr wythnos yma, yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, carwn ddymuno'n dda felly i'r digwyddiad yma, yn ogystal â phawb sy'n cymryd rhan ym Mhen-bre heddiw ac, ar ran y Senedd gyfan, cydnabod y rôl y mae digwyddiadau o'r fath yn medru eu chwarae wrth hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol. Diolch yn fawr.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.