5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Holodomor

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 11 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 3:20, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno'r ddadl amserol a phwysig hon, gan ei bod yn digwydd mewn wythnos pan fo Rwsia wedi dathlu diwrnod buddugoliaeth ar 9 Mai, y diwrnod y sicrhaodd Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd fuddugoliaeth dros yr Almaen Natsïaidd a diwedd yr ail ryfel byd gyda'r gwledydd cynghreiriol eraill. Mae'r arddangosiad hwn o rym milwrol drwy orymdeithiau yn ffordd o ddangos cryfder yn erbyn y Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd, ac fel ymarfer curo'r frest i dawelu meddwl ei dinasyddion ei hun fod y fam Rwsia'n dal i allu gweithredu'n ddilyffethair.

Yn y cyfnod Sofietaidd, defnyddiwyd y diwrnod buddugoliaeth i nodi trechu ffasgaeth, a chryfder a rhinweddau canfyddedig comiwnyddiaeth. Diolch byth, cyn diwedd yr ugeinfed ganrif, canfuwyd bod comiwnyddiaeth yn ideoleg beryglus a dyna sut y mae llawer yn ei gweld erbyn hyn, ideoleg a adawodd filiynau o'r bobl Sofietaidd yn byw o dan reolau didostur, wedi colli eu rhyddid a miliynau'n fwy wedi marw, ar ôl cael eu hanfon i'r gwlagau. Mae rhai ohonom yn y Siambr hon yn ddigon ifanc i beidio â bod wedi byw drwy flociau dwyreiniol a gorllewinol Ewrop—yn wir, fe'm ganwyd tua 12 diwrnod cyn diddymu'r Undeb Sofietaidd—ond pan ddigwyddodd yr hyn a ddisgrifiodd Churchill fel hyn:

'O Stettin yn y Baltig i Trieste yn yr Adriatig, mae llen haearn wedi disgyn ar draws y cyfandir', rhaid inni gofio'r adeg honno.

Fodd bynnag, mae'r digwyddiadau yn Wcráin ar hyn o bryd, digwyddiadau y mae'r gorllewin wedi rhybuddio yn eu cylch ers tro byd, yn sicr yn gwneud inni sylweddoli'r perygl y mae gwladwriaeth amheus gydag arweinydd anwadal yn ei greu i'r heddwch y mae llawer ohonom wedi'i gymryd yn ganiataol ers cenhedlaeth, ac y cyfeiriodd yr Aelod dros Flaenau Gwent ato. Naw deg mlynedd yn ôl, dangosodd yr Holodomor yr effaith ddinistriol y gall arweinydd sy'n awchu am bŵer, sy'n ysu i ddal ei afael ar bŵer, ei chreu os na chaiff ei rwystro. Mae'r Aelod dros Flaenau Gwent eisoes wedi sôn am yr effaith ddinistriol a gafodd y newyn hwn ar y bobl a oedd yn byw yn Wcráin Sofietaidd yn y 1930au. 

Os nad ydym yn unedig yn erbyn rhyfel anghyfreithlon Putin yn y rhan honno o'r byd, bydd llawer yn Wcráin a thu hwnt mewn perygl eto. Wrth gwrs, mae'r Senedd hon wedi dangos ei hymrwymiad clir i sefyll gydag Wcráin. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn un o'r gwledydd gorllewinol a arweiniodd ar arfogi a chefnogi lluoedd milwrol Wcráin, ac fe wnaeth y Senedd hon yn iawn i annog Llywodraeth y DU i fynd ymhellach i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Mae gweld Prif Weinidog Prydain yn cerdded strydoedd Kyiv wrth ochr yr Arlywydd Zelenskyy, ac yn arweinydd gorllewinol cyntaf i annerch Senedd Wcráin, yn dangos bod y gefnogaeth y mae ein gwlad wedi'i rhoi i Wcráin a'i phobl sofran wedi cael croeso.

Fel eraill yn y Siambr hon a ledled Cymru, mae gennyf berthnasau a anwyd y tu allan i'r ynysoedd hyn, a gwn ganddynt hwy yn uniongyrchol am y dinistr y gall rhyfel ei achosi. Dyna pam y mae'n hanfodol nad yw'r un camgymeriadau a wnaed yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif yn cael eu hailadrodd lai na 100 mlynedd yn ddiweddarach. Fe ddylem ac fe allwn ddechrau gwneud yn well drwy'r iaith a ddefnyddiwn. Yn rhy aml, defnyddir yr ymadroddion 'asgell dde eithafol' ac 'asgell chwith eithafol' wrth gyfeirio at y rhai yr ydym yn anghytuno â hwy. Mae defnyddio'r disgrifiadau hyn mewn modd mor ddifeddwl yn gwneud anghymwynas â'r rhai a fu farw o dan reolaeth cyfundrefnau ac unbenaethau awdurdodaidd asgell dde eithafol ac asgell chwith eithafol go iawn. Yr asgell dde eithafol yw'r hyn a welsom yn yr Almaen Natsïaidd ac yn Sbaen yn ystod y 1930au a'r 1940au. Yr asgell chwith eithafol yw'r hyn a welsom yn yr Undeb Sofietaidd, lle'r arweiniodd camau bwriadol at yr Holodomor erchyll neu'r newyn arswydus, gan arwain at farwolaeth tua chwe miliwn o bobl Wcráin. Llofruddiodd y cyfundrefnau hyn filiynau lawer o'u pobl eu hunain, pobl a oedd yn euog o ddim byd mwy na methu cydymffurfio ag ideolegau gwyrdroëdig eu harweinwyr.

Gyda'r iaith a ddefnyddir ar y cyfryngau cymdeithasol yn dal i ddigwydd heb ei hatal a lledaeniad casineb a chamdriniaeth yn dod yn llawer rhy gyffredin, mae'n bwysig ein bod ni fel gwleidyddion yn gwneud yn well ac yn ymrwymo i ddod yn fwy ymwybodol o'r iaith a ddefnyddiwn. Mae rhai wedi troi at y cyfryngau cymdeithasol i gwestiynu pam y mae'r Senedd yn trafod hyn heddiw. Fel cyd-noddwr y ddadl hon, dywedaf wrthynt yma nawr ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i wneud yn well, i fod yn well. Drwy gydnabod yr Holodomor a'r ffordd warthus yr aeth yr Undeb Sofietaidd ati i lofruddio eu pobl eu hunain, rydym yn cadw troseddau ddoe yn agos at flaen ein meddyliau, gan fod y rhai na allant gofio'r gorffennol wedi'u condemnio i'w ailadrodd. Diolch.