Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 11 Mai 2022.
Hoffwn ddweud bod rôl newyddiadurwyr yn datgelu'r gweithredoedd hil-laddol ofnadwy hyn yn gwbl allweddol. Ac a fyddech yn cytuno hefyd fod marwolaeth Shireen Abu Akleh ym Mhalesteina, gan luoedd Israel yn ôl pob tebyg, yn enghraifft arall o'r modd y mae newyddiadurwyr yn peryglu eu bywydau er mwyn adrodd ar beth sy'n digwydd? Ac yn amlwg, mae'n digwydd bob dydd ymhlith newyddiadurwyr o bob cwr o'r byd yn Wcráin.