Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 17 Mai 2022.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru ar y gronfa, prif ddiben y gronfa tai â gofal yw cynyddu'r stoc o dai ar gyfer diwallu anghenion pobl sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth, i gefnogi bywyd annibynnol yn y gymuned i bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, a darparu lleoliadau gofal canolraddol yn y gymuned, er mwyn i bobl sydd angen gofal, cymorth ac adsefydlu ddychwelyd i fywyd annibynnol neu gynnal eu hannibyniaeth bresennol nhw. Mae hyn i'w groesawu gan fod rhan bwysig iddo wrth sicrhau bod gan bobl Cymru hawl i dai, a thai sy'n glyd a chynnes ac yn addas i'w hanghenion. Mae hon yn egwyddor hollbwysig, wrth inni symud ymlaen, i ymateb i'r argyfwng tai.
Fel y mae eich canllawiau yn e nodi, rydym ni'n wynebu nifer o heriau cynyddol yng Nghymru o ran gofal iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Mae gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio. Mae amcanestyniadau poblogaeth sydd ar sail 2018 yn amcangyfrif y bydd cyfanswm y boblogaeth 65 oed neu hŷn yn cynyddu gan fwy na'r chwarter dros yr 20 mlynedd nesaf, a nifer y bobl 75 oed neu hŷn yn codi bron 50 y cant i ychydig o dan 0.5 miliwn o unigolion erbyn 2041. Ynghyd â gwaeledd ac anabledd sy'n gysylltiedig ag oedran, mae heriau cynyddol eraill yn cynnwys mwy o bobl â chyflyrau presennol sy'n byw yn hŷn, gydag effeithiau iechyd cronnol, fel pobl ag anabledd dysgu neu ddementia. Er mwyn i'r poblogaethau hyn fod â bywydau annibynnol gydag urddas a gofal, mae'n rhaid i'r gronfa tai â gofal fod yn effeithiol wrth ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau.
Mae angen i ni sicrhau hefyd bod anghenion llety a gofal grwpiau sy'n arbennig o agored i niwed, nad ydyn nhw'n gallu byw yn gwbl annibynnol, yn cael eu diwallu mor agos i'w cartrefi â phosibl. Fel mae hi ar hyn o bryd, bob blwyddyn, mae llawer o blant a phobl ifanc yn cael eu lleoli mewn lleoliadau sydd y tu allan i'r sir neu y tu allan i'r wlad, fel roeddech chi'n sôn eich hunan, Gweinidog, sy'n rhywbeth costus, yn lleihau rheolaeth leol o ran rheoli iechyd a gofal unigolyn, yn effeithio ar gyswllt teuluol a pherthnasoedd a lles a'r canlyniadau i unigolion. Felly, fel cwestiwn mwy cyffredinol, fe hoffwn i ofyn i'r Gweinidog pa wersi a ddysgwyd ganddi hi yn sgil y gronfa gofal integredig flaenorol o ran sut y bu honno o gymorth wrth ymateb i'r heriau a nodwyd uchod a sut mae'r gwersi hynny wedi effeithio ar ddatblygiad y gronfa newydd. A wnaiff y Gweinidog egluro hefyd faint o fewnbwn y caiff darparwyr iechyd, darparwyr gofal cymdeithasol a therapi galwedigaethol ei roi wrth ddatblygu cynlluniau tai, o gynlluniau gofodol, fel ein cynlluniau datblygu lleol, i safleoedd unigol, ar gyfer sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu hateb?
Un o'r ffactorau allweddol arall a nodwyd ar gyfer y gronfa hon yw'r angen am wasanaethau iechyd a gofal canolraddol yn y gymuned a chyfleusterau digonol i ddarparu gwasanaethau ailalluogi ac adsefydlu cam-i-fyny, cam-i-lawr ar lefel leol drwy ddarparu cyfleusterau gwely priodol, yn ogystal â chyfleusterau cymunedol sy'n adlewyrchu amgylcheddau'r aelwydydd, gyda chymorth gwasanaethau gofal ac adsefydlu priodol. O ran yr angen am y cyfleusterau hyn, pa mor llwyddiannus oedd y gronfa ddiwethaf o ran cyflawni'r gofynion hyn? Ac o ran y rhaglen gyfalaf bedair blynedd hon, gyda chadarnhad o £181.5 miliwn dros y tair blynedd gyntaf, pa nodau sydd gennych chi ar gyfer darparu ac adeiladu cyfleusterau erbyn 2025-26? O ran prosiectau a ariannwyd gan yr ICF, roedd gwerthusiad yn canfod bod rhwystrau allweddol i brosiectau a ariannwyd yn cynnwys pandemig COVID-19, effaith trefniadau ariannu blynyddol a goblygiadau'r rhain o ran recriwtio a chadw staff. Ynglŷn â'r pwynt ynghylch recriwtio a chadw staff, rwy'n awyddus i glywed gan y Gweinidog sut y bydd y gronfa newydd yn ymateb i'r her honno. Diolch.