Ynni Rhad a Glân

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 1:40, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Pe na bai David Cameron, chwedl yntau, wedi 'cael gwared ar y rwtsh gwyrdd' ddegawd yn ôl, byddem wedi gwneud mwy o gynnydd ar effeithlonrwydd ynni adnewyddadwy a niwclear, a byddai aelwydydd yn talu llai am ynni, nid mwy. Felly, rwy'n cytuno fod angen inni ddal i fyny, ond ochr arall y geiniog i gynhyrchu ynni yw effeithlonrwydd ynni. Felly, a allwch roi gwybod i ni, Weinidog, sut y gallai'r rhaglen newydd sydd ar y ffordd, Cartrefi Clyd, adeiladu ar lwyddiant y cynllun blaenorol, a gyflwynodd fesurau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim, fel boeleri gwres canolog ac inswleiddio, i fwy na 4,500 o aelwydydd ledled Cymru?