Plannu Coed

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:03, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid inni blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030 os ydym am gyrraedd llwybr cytbwys Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU i'n cael i sero net. Rydym wedi agor cynllun cynllunio newydd i greu coetiroedd er mwyn cefnogi rheolwyr tir i ddatblygu cynlluniau i blannu coed, a bydd cynlluniau newydd i gefnogi plannu coetiroedd newydd yn cael eu hagor yn ddiweddarach eleni.