Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 18 Mai 2022.
Mae chwe mis wedi mynd heibio ers i chi ddatgelu cynlluniau i roi coeden i bob aelwyd yng Nghymru. Yn y misoedd dilynol, prin fu'r manylion am hyn, ac rwyf wedi cael fy llethu gan ymholiadau gan fy etholwyr yn gofyn sut y gallant gael gafael ar eu coed i'w plannu. Felly, Ddirprwy Weinidog, sut a phryd y bwriadwch roi gwybod i aelwydydd sut y gallant gael gafael ar eu coed a sut y bwriadwch sicrhau'r defnydd mwyaf posibl o'r cynllun?