Rhwydwaith Trafnidiaeth Gynaliadwy

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:08, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Bydd ein rhaglen metro gogledd Cymru yn trawsnewid gwasanaethau trên, bysiau a theithio llesol ar draws gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi cyhoeddi comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru, dan arweiniad yr Arglwydd Terry Burns, cyn-Ysgrifennydd Parhaol y Trysorlys, sydd wedi gwneud gwaith mor dda i ni o amgylch yr M4 yng Nghasnewydd. Ac mae hynny eisoes yn dechrau. Mae'n cyfarfod am y tro cyntaf heddiw, rwy'n credu, i ddatblygu dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fydd wedyn yn datblygu llif o argymhellion ar gyfer ffrwd o ddatrysiadau trafnidiaeth aml-ddull ac integredig ar gyfer y gogledd.