Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 18 Mai 2022.
Diolch am y cwestiwn, Peter Fox. Mae tai, yn enwedig tai cymdeithasol, yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Adlewyrchir hyn yn ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu'n gymdeithasol, ac fe'u hategir gan y lefelau buddsoddi uchaf erioed. Rydym hefyd yn darparu ystod o gymorth i adeiladwyr tai, gan gynnwys cynlluniau sy'n benodol ar gyfer mentrau bach a chanolig ledled Cymru.