1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 18 Mai 2022.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog adeiladu tai newydd yn etholaeth Mynwy? OQ58063
Diolch am y cwestiwn, Peter Fox. Mae tai, yn enwedig tai cymdeithasol, yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Adlewyrchir hyn yn ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu'n gymdeithasol, ac fe'u hategir gan y lefelau buddsoddi uchaf erioed. Rydym hefyd yn darparu ystod o gymorth i adeiladwyr tai, gan gynnwys cynlluniau sy'n benodol ar gyfer mentrau bach a chanolig ledled Cymru.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Lywydd, rwy'n siŵr fod pawb ar draws y Siambr yma'n gwybod pa mor bwysig yw cael stoc o dai o ansawdd da. Hebddynt, bydd y stoc dai'n dod o dan fwy byth o bwysau, gan brisio pobl allan o allu bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, ac rydym wedi gweld hynny, yn anffodus, ym mhob man. Fodd bynnag, mae nifer o ddatblygiadau newydd yn fy etholaeth wedi profi oedi o ganlyniad i'r rheolau presennol ynghylch lefelau ffosffad, gyda datblygiadau'n agos at ddalgylchoedd afonydd yn gorfod dangos sut na fydd y cynllun yn cyfrannu at lefelau ffosffad uwch. Wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr na ddylai datblygiadau newydd gael effaith andwyol ar yr amgylchedd, ond mae'n ymddangos bod y rheolau presennol wedi achosi tagfa wirioneddol yn y gwaith o adeiladu cartrefi newydd y mae eu hangen yn fawr. Ac yn wir, ceir pryderon y bydd y rheolau hyn yn effeithio ar ddatblygiad posibl canolfan trin canser yn Nevill Hall yn y Fenni. Sylwaf y byddwch yn cael uwchgynhadledd yn Sioe Frenhinol Cymru, a fydd yn ystyried nid yn unig ffosffadau ond llifogydd hefyd, ond Weinidog, sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydbwyso ystyriaethau amgylcheddol â'r angen i adeiladu cartrefi newydd i fynd i'r afael â'r argyfwng tai? Sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau cynllunio a datblygwyr i ddeall y rheolau presennol yn well, yn ogystal â datgloi safleoedd lle mae gwaith wedi oedi? A gwyddom hefyd nad ffermio yw'r unig chwaraewr yn y sefyllfa hon—
Mae angen ichi ddod at eich cwestiwn yn awr.
Rwy'n dod ato.
Rwyf wedi bod yn eithaf hael gyda chi.
Iawn. Sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda Dŵr Cymru i uwchraddio systemau trin carthion yn sir Fynwy i sicrhau bod mwy o systemau'n gallu trin ffosffadau yn y ffynhonnell a sicrhau y gall datblygiadau newydd gysylltu â'r rhain? Diolch.
Ie, diolch, Peter Fox, am y gyfres honno o gwestiynau, ac yn sicr, rydym yn deall yn llwyr fod mater ffosffad yn fater difrifol iawn ledled Cymru. Mae'n effeithio ar y gwaith o ddarparu ein 20,000 o gartrefi cymdeithasol, mae'n effeithio ar y gwaith o ddarparu nifer o dai i'r farchnad agored a ddylai fod wedi mynd rhagddynt at ddibenion cynlluniau datblygu lleol ac yn y blaen. Mae hefyd yn effeithio ar nifer o ddatblygiadau eraill ledled Cymru. Ac yn sicr, ceir nifer o gymhlethdodau. Mae gan bob dalgylch afon set wahanol o chwaraewyr, a allai fod yn cyfrannu at y lefelau ffosffad yno neu beidio. Ffosffad yw'r prif fater, ond mae gennym nitradau ac amoniwm hefyd, pob math o bethau eraill sydd gennym yn mynd i mewn i'n hafonydd am wahanol resymau ledled Cymru. Mae gennym nifer o grwpiau sy'n edrych ar afonydd yr ardaloedd cadwraeth arbennig yn benodol, felly, mae gan afon Gwy un drawsffiniol, er enghraifft, y gwn fod Peter yn ymwybodol ohono.
Ond y rheswm dros yr uwchgynhadledd yn y Sioe Frenhinol, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, yw dod â'r chwaraewyr at ei gilydd, oherwydd nid oes amheuaeth o gwbl fod yn rhaid i bawb gyfaddawdu yma, oherwydd ni allwn gael sefyllfa lle na allwn gael dim byd yn digwydd, ond ni allwn ychwaith gael sefyllfa lle mae ein hafonydd yn amlwg yn marw. Pa ddefnydd yw hynny i unrhyw un? Rydym yn caniatáu i'r tai gael eu hadeiladu, ac yna mae'r afon yn garthffos agored—mae'n amlwg nad yw hynny'n dderbyniol ychwaith. Felly, mae hyn oll yn ymwneud â chyrraedd y cyfaddawd gorau posibl i'r amgylchedd, yr afonydd a'u dalgylchoedd a'r ffordd y maent yn llifo i'r môr ac yn effeithio ar ein fforestau lludwymon a glaswellt y môr ac ati, sy'n hanfodol ar gyfer gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a natur, ond hefyd y broblem wirioneddol sydd gennym gyda phrinder tai, yn enwedig yn y sector cymdeithasol ac yn y blaen.
Mae nifer fawr o ddarnau o waith yn mynd rhagddynt ar hyn yn gyffredinol, mae'n broblem anodd a chymhleth iawn, iawn, a'r rheswm dros yr uwchgynhadledd yw dod â'r chwaraewyr at ei gilydd mewn ysbryd o, 'Sut y gallwn ni, gyda'n gilydd, gyrraedd y cyfaddawd gorau posibl i fwrw ymlaen â hyn yng Nghymru?' Oherwydd, rhag bod unrhyw gamsyniad, ni fydd neb sy'n dod i'r uwchgynhadledd honno yn gadael gyda'u hagenda wedi'i bodloni 100 y cant ac agenda pawb arall wedi'i rhoi o'r neilltu. Mae'n ymwneud â chyfaddawdu a chyrraedd yr ateb gorau posibl i bawb er mwyn inni allu symud ymlaen gyda'n gilydd fel set o gymunedau.