Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 18 Mai 2022.
Braint oedd mynychu dathliad dengmlwyddiant y coleg yr wythnos diwethaf. Rwy'n falch o ddarparu cyllid ychwanegol i'r coleg i gynyddu'r ddarpariaeth o ran prentisiaethau ac addysg bellach cyfrwng Cymraeg. Gwneir hyn ar y cyd gyda Cefin Campbell, Aelod dynodedig Plaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru.