2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 18 Mai 2022.
1. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol? OQ58054
Braint oedd mynychu dathliad dengmlwyddiant y coleg yr wythnos diwethaf. Rwy'n falch o ddarparu cyllid ychwanegol i'r coleg i gynyddu'r ddarpariaeth o ran prentisiaethau ac addysg bellach cyfrwng Cymraeg. Gwneir hyn ar y cyd gyda Cefin Campbell, Aelod dynodedig Plaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru.
Diolch, Weinidog. Yn ei araith yma yn y Senedd yn nodi dengmlwyddiant y coleg, cyfeiriodd y prif weithredwr, Dr Ioan Matthews, at y nifer helaeth o siaradwyr Cymraeg yn astudio mewn prifysgolion ar draws Cymru sydd dal ddim yn gwneud y dewis hwnnw i astudio rhan o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n amlwg bod yna her o hyd o ran annog myfyrwyr i astudio eu pynciau drwy'r Gymraeg, ac yn ôl y coleg mae hynny'n enwedig o wir pan ddaw at bynciau gwyddonol. Mae'n debyg mai un o'r prif resymau yw nad yw'r gwyddorau'n cael eu cynnig yn y Gymraeg ym mhob ysgol cyfrwng Cymraeg. Yn ôl darlithwyr, unwaith mae dysgwr wedi newid iaith astudio pwnc i'r Saesneg, mae'n anodd eu darbwyllo i astudio'r pwnc drwy'r Gymraeg yn y brifysgol, sydd, wrth gwrs, yn creu cylch dieflig o ran athrawon sy'n cymhwyso yn y gwyddorau sy'n medru dysgu yn y Gymraeg. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen ymyrraeth i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg Safon Uwch os am gynyddu'r nifer o fyfyrwyr sy'n mynd ymlaen i astudio'r gwyddorau drwy'r Gymraeg yn y prifysgolion, ac felly sy'n mynd i hyfforddi fel athrawon uwchradd ym maes y gwyddorau? Ac a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gynnal arolwg i ganfod beth yw'r sefyllfa o fewn ein hysgolion Cymraeg o ran darpariaeth yn y gwyddorau? Diolch.
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Wel, rŷn ni'n gwybod beth yw'r sefyllfa. Mae angen recriwtio mwy o athrawon sy'n gallu dysgu pynciau gwyddoniaeth, er enghraifft, drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae gyda ni gynlluniau i wneud hynny drwy'r ysgogiadau ariannol i ysgogi pobl a dwyn pobl i mewn i'r proffesiwn i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae'r cwestiwn o ddilyniant y mae'r Aelod yn sôn amdano'n hollbwysig, dwi'n credu, ac mae, wrth gwrs, cyllideb bellach sy'n mynd i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn mynd i allu cefnogi eu gwaith nhw i sicrhau bod hynny'n digwydd hefyd. Erbyn hyn, mae rhyw 34 o 35 maes pwnc yn ein prifysgolion ni ar gael drwy'r Gymraeg ac mae'r coleg yn gwneud gwaith arloesol iawn, er enghraifft ym maes milfeddygaeth, parafeddygaeth a meysydd eraill gyda sail wyddonol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at y ddegawd nesaf o'u gwaith nhw ac yn barod i wneud cymaint ag y gallwn ni i gefnogi eu gwaith nhw.
Weinidog, un o'r meysydd gwaith allweddol y mae angen mynd i'r afael ag ef yn ein strategaethau iaith Gymraeg yw darparu hyfforddiant meddygol cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn gwneud gwaith amhrisiadwy yma yn ne Cymru yn cefnogi myfyrwyr doethurol ac yn darparu grantiau pwnc i Gaerdydd ac Abertawe. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r coleg ynglŷn â'r rôl y maent yn ei chwarae yn darparu hyfforddiant meddygol cyfrwng Cymraeg yn ysgol feddygol gogledd Cymru i'w wneud yn wasanaeth gwirioneddol genedlaethol? Diolch.
Wel, edrychwn ymlaen at gefnogi'r coleg Cymraeg i ehangu ei gyrhaeddiad drwy bob rhan o'r system addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys y rhai y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt yn ei gwestiwn. Bydd yr adnoddau sydd ar gael i'r coleg Cymraeg yn cael eu hymestyn yn sylweddol o ganlyniad i'r gwaith a wnawn ar y cyd â Phlaid Cymru o dan y cytundeb cydweithio, ac mae peth o'r gwaith mwyaf arloesol y mae'r coleg wedi bod yn ei wneud yn fwyaf amlwg mewn llawer o'r meysydd sydd â sylfaen feddygol, os mynnwch. Fe soniais am rai ohonynt yn fy ateb i Sioned Williams eiliad yn ôl.