Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 18 Mai 2022.
Weinidog, un o'r meysydd gwaith allweddol y mae angen mynd i'r afael ag ef yn ein strategaethau iaith Gymraeg yw darparu hyfforddiant meddygol cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn gwneud gwaith amhrisiadwy yma yn ne Cymru yn cefnogi myfyrwyr doethurol ac yn darparu grantiau pwnc i Gaerdydd ac Abertawe. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r coleg ynglŷn â'r rôl y maent yn ei chwarae yn darparu hyfforddiant meddygol cyfrwng Cymraeg yn ysgol feddygol gogledd Cymru i'w wneud yn wasanaeth gwirioneddol genedlaethol? Diolch.