3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 18 Mai 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brynu Fferm Gilestone yn Nhalybont-ar-Wysg? TQ622
Llwyddodd Llywodraeth Cymru i sicrhau rhydd-ddaliad ac adles tymor byr Fferm Gilestone am £4.25 miliwn. Rydym yn caffael yr eiddo er mwyn hwyluso buddsoddiad mewn busnesau lleol, y gymuned ac economi Cymru.
Diolch am eich datganiad, Weinidog. Dros yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi cael fy llethu gan alwadau ffôn, negeseuon e-bost a sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch penderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i brynu Fferm Gilestone yn Nhalybont-ar-Wysg. Mae gennyf fi, a llawer o fy etholwyr, gwestiynau dilys iawn ynghylch prynu a gosod y fferm i berchnogion Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Mae ganddynt bwyntiau amrywiol yr hoffent eu cyflwyno ichi, ac rwyf am wneud hynny yn awr.
Weinidog, rydych wedi dweud wrthym beth oedd y pris prynu. Felly, hoffwn wybod: a oedd hwnnw'n destun gwerthusiad annibynnol gan brisiwr dosbarth? Pa ymarfer tendro a gynhaliwyd i ddod o hyd i denant addas ar gyfer y fferm? A roddwyd cyfle i unrhyw un lleol wneud cais amdano, ac os na, pam? Beth yw'r uchelgais hirdymor ar gyfer y fferm, o ystyried y materion sy'n codi ynghylch diogeledd bwyd, a pham rhoi'r gorau i ddefnyddio fferm gynhyrchiol?
Pa ymarfer economaidd a wnaethpwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru i sicrhau y gellir gwireddu'r 174 o swyddi y soniwyd amdanynt pan fo ffermydd yn fy etholaeth i yn ei chael hi'n anodd cyflogi un person? Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ai polisi Llywodraeth Lafur Cymru yn awr yw defnyddio arian trethdalwyr i brynu ffermydd a'u gosod ar rent i fusnesau ac unigolion preifat gyflawni ei phrosiectau bioamrywiaeth a newid hinsawdd?
Cafwyd amryw o gwestiynau yn y fan honno. Fe geisiaf fynd i'r afael â hwy cystal ag y gallaf, ac mor gryno ag y gallaf—rwy'n edrych ar y Dirprwy Lywydd. Cafodd y pris prynu ei ardystio'n annibynnol gan ein syrfewyr ymgynghorol. Fe fyddwch yn falch o wybod na wnaethom dalu mwy na gwerth y farchnad amdano. O ran ein sefyllfa yn awr, mae wedi'i adlesio i'r perchnogion presennol. Mae ganddynt amrywiaeth o bethau i'w gwneud i gynnal a chadw'r eiddo, cynaeafu cnydau sydd yno eisoes a chadw archebion presennol ar y safle.
Rydym wedi bod yn trafod gyda pherchnogion Gŵyl y Dyn Gwyrdd am y posibilrwydd y byddant hwy yn lesio'r safle, er mwyn rhoi mwy o sicrwydd iddynt fuddsoddi yn yr ŵyl, sydd, fel y gŵyr yr Aelod, yn ennyn cefnogaeth ar draws ystod o wahanol sectorau. Mae'n un o bum gŵyl annibynnol fawr sy'n dal i fodoli ledled y DU, gyda budd economaidd sylweddol i Gymru, ac mae ganddynt gynlluniau ac uchelgeisiau i allu ehangu. Bydd angen inni weld cynllun busnes ganddynt cyn bwrw ymlaen ag unrhyw drefniant pellach. Byddem yn ystyried wedyn a ddylid cael les tymor byr i reoli'r eiddo cyfan am gyfnod o amser. Ond mae angen inni gael trafodaethau pellach gyda hwy, naill ai i edrych ar y pryniant neu drefniant lesio pellach ar gyfer y safle.
Yr uchelgais cyffredinol yw sicrhau bod gan un o'r ymrwymiadau economaidd mwyaf sylweddol ym maes gwyliau cerddorol, sydd â grŵp penodol o bobl â diddordeb ynddo oherwydd y ffordd y caiff ei gynnal a'r gwerthoedd sy'n sail iddo hefyd, gartref parhaol yng Nghymru, oherwydd mae darparwyr gwyliau eraill sydd am brynu'r brand wedi dangos diddordeb sylweddol. Rydym yn awyddus iawn i gadw'r ŵyl yng Nghymru, gyda'r budd economaidd sylweddol sydd eisoes wedi'i gynhyrchu ac a gaiff ei gynhyrchu yn y dyfodol. Wrth i'r trafodaethau hynny barhau, rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod ac yn wir i Aelodau eraill a fydd, yn sicr, â diddordeb.
Weinidog, diolch am yr atebion a roesoch y prynhawn yma. Rwy'n credu ei fod yn egluro bod prynu Fferm Gilestone yn fwy o fater o sicrhau gofod arddangos/gŵyl yn hytrach na gofod amaethyddol. Os gallwch gadarnhau mai felly y mae hi, gan mai dyna oedd fy nealltwriaeth i o'r ateb a roesoch. Os oes elfen amaethyddol wedi'i chynnwys, a ydych yn ystyried rhoi cyllid sylweddol, fel y gwnaethoch gyda'r pryniant hwn, i ardaloedd eraill yng Nghymru a allai ryddhau cyfleoedd i amaethyddiaeth ac i newydd-ddyfodiaid i'r busnes? Yn amlwg, cafwyd problem gynyddol i sicrhau bod gan newydd-ddyfodiaid fynediad at y diwydiant amaethyddol, a byddai clywed bod £4.25 miliwn wedi'i wario ar un fferm mewn un lleoliad penodol, rwy'n credu, yn destun diflastod i rai ffermwyr, pan fo aelodau o'u teuluoedd eu hunain yn ei chael hi'n anodd cael eu troed ar yr ysgol. Felly, a wnewch chi gadarnhau i mi mai gofod arddangos a brynwyd gennych yn hytrach na—[Torri ar draws.] Hoffwn nodi mai aelodau'r sioe a brynodd y Sioe Frenhinol, nid y Llywodraeth.
Fel y dywedais, mae'r pris prynu wedi'i ardystio'n annibynnol i ni, ac rydym yn edrych ar y cyfle sy'n bodoli ynghylch dyfodol hirdymor Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Fel bob amser, mae yna fuddiannau'n cystadlu â'i gilydd mewn perthynas â defnydd tir a budd economaidd. Yn y cynllun busnes, rwy'n disgwyl gweld sut y byddai'r ystad gyfan yn cael ei rheoli. Byddai'n anghywir imi geisio nodi polisi defnydd tir ar gyfer yr ystad gyfan gan mai dyna y dymunwn ei weld yn cael ei gyflawni. Fel y dywedais, yn y cytundeb sydd gennym eisoes, mae gennym adles i sicrhau bod y cnydau sydd eisoes yn tyfu yn cael eu cynaeafu a bod yr archebion presennol yn cael eu cadw. Fel y dywedais, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr a'r Aelodau ar ôl inni gael cynllun busnes gan y bobl sy'n cynnal ac sy'n berchen ar Ŵyl y Dyn Gwyrdd. Credaf ei bod yn bwysig cynnal annibyniaeth yr ŵyl honno a'i chysylltiad â Chymru, sydd ynddo'i hun yn cynnig budd economaidd sylweddol. Byddaf wedyn yn gallu rhoi atebion manylach ynglŷn â'r defnydd tir cyfan. Dylwn ddweud hefyd fod Cyngor Sir Powys yn cefnogi'r cynnig a'r hyn y bydd yn caniatáu inni ei wneud ar y safle hwnnw.
Diolch i James Evans am ddod â'r cwestiwn pwysig yma ger ein bron ni. Yr hyn sydd gennym ni yn y fan yma yn Fferm Gilestone ydy tir amaethyddol da, a'r peryg ydy ein bod ni'n mynd i weld tir amaethyddol da unwaith eto yn cael ei golli ar gyfer dibenion masnachol eraill. Rydyn ni'n gwybod nad oes gan Lywodraeth Cymru record arbennig o dda pan fo'n dod i brynu tir amaethyddol, oherwydd rydyn ni wedi gweld tir amaethyddol yn cael ei brynu gan y Llywodraeth ac yn cael ei drosi i fod yn goedwig. Felly, pa sicrwydd fedrwch chi ei roi inni heddiw ar gyfer y tymor hir y bydd y tir yma a'r fferm yma yn cael ei gadw a'i ddefnyddio at ddibenion amaethyddol, sef cynhyrchu bwyd?
Hefyd, mae nifer o amaethwyr lleol wedi cysylltu efo'r swyddfa, efo fi, yn dweud ac yn cwyno eu bod nhw ddim wedi cael unrhyw gyfle i fod yn rhan o'r broses yma i dendro am y ffarm, am y tir, ac i fod yn denantiaid. Pa ymgynghoriad ddaru chi gynnal yn lleol er mwyn sicrhau mai'r tenantiaid newydd ydy'r rhai gorau ar gyfer y tir yma, a pham na ddaru ffermwyr eraill lleol gael cyfle i fod yn denantiaid ar y ffarm?
Ac yn olaf, mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru yn rhoi pres i mewn i amaethyddiaeth. Yn anffodus, rydyn ni wedi gweld awdurdodau lleol yn gorfod gwerthu ffermydd dros y blynyddoedd. Ydyn ni rŵan yn medru edrych ymlaen i weld Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o bres i awdurdodau lleol i ailbrynu ffermydd nôl fel bod cyfle i ffermwyr ifanc fynd yn ôl mewn i amaeth eto?
Gyda phob parch, credaf ein bod yn drysu mwy nag un mater yn y gyfres o gwestiynau sy'n cael ei gofyn. Nid wyf am drafod y materion hanesyddol y mae'r Aelod yn fy ngwahodd i'w hailadrodd heddiw. Mae'r mater yn ymwneud â'r gwerthwyr a'u hawydd a'u parodrwydd i werthu, lle mae'r ŵyl wedi'i lleoli ar hyn o bryd, ein gallu i gadw'r ŵyl yng Nghymru gyda'r holl fudd economaidd sylweddol sy'n deillio o hynny, gan gynnwys, wrth gwrs, budd economaidd sylweddol yn y Gymru wledig, a sut y gwnawn yn siŵr nad yw'r digwyddiad hwn, gyda'i bwysigrwydd arbennig, yn cael ei golli a'r brand yn cael ei ddefnyddio at ddiben masnachol cwbl wahanol gyda'r holl swyddi a'r budd ehangach yn diflannu i ran wahanol o Gymru. Fel y dywedais, rydym yn disgwyl cael cynllun busnes. Byddwn yn edrych wedyn ar y cynllun busnes hwnnw ar gyfer y defnydd tir cyfan, ond byddwn hefyd yn ystyried a fyddai hyn yn broblem lle byddai les fwy hirdymor neu bryniant. Felly, o ran y swm a fuddsoddwyd gennym yn yr ardal, mae'n ymwneud â sicrhau dyfodol mwy hirdymor i Ŵyl y Dyn Gwyrdd yng Nghymru, a chredaf ein bod wedi gwneud y dewis cywir wrth wneud hynny, ond rwy'n hapus, fel y dywedaf, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cwestiwn mwy hirdymor y mae'r Aelodau wedi'i godi heddiw am y defnydd tir cyfan ar gyfer yr ystad a werthwyd gan y gwerthwyr.
Diolch, Weinidog. Bydd y cwestiwn nesaf yn cael ei ateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a galwaf ar Llyr Gruffydd.