Protocol Gogledd Iwerddon

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:47, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Bythefnos cyn refferendwm Brexit, rhagwelodd Syr John Major, pe bai Brexit yn digwydd, y byddai pos jig-so’r broses heddwch yn cael ei daflu i’r awyr ac na fyddai gan unrhyw un syniad lle byddai’r holl ddarnau’n glanio. Ond roedd gan un dyn yr ateb, ac nid unrhyw hen ateb, roedd ganddo ateb parod i'w bobi yn 2019, ac arwyddwyd, seliwyd a thraddodwyd yr ateb hwnnw gan ei Lywodraeth drwy brotocol Gogledd Iwerddon. Mae bellach yn dymuno torri ei air ar y cytundeb rhyngwladol rhwymol hwnnw, ac mae wedi cael ei rybuddio gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, gan Taoiseach Iwerddon i beidio â gwneud hynny. Onid dyma'r eironi yma, fod y Brexiteers rhonc sydd â chymaint o obsesiwn ynghylch statws Prydain yn y byd, a bod Prydain yn wych yn y byd unwaith eto, yn gwneud y gwrthwyneb yn llwyr? Maent yn tanseilio statws Prydain yn y byd—