Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 18 Mai 2022.
Diolch am eich cwestiwn. Mae'n sicr yn wir fod deialog yn bwysig, a chredaf ei bod yn bwysig eich bod yn cydnabod pwysigrwydd deialog â'r Llywodraethau datganoledig. Ni chredaf ei fod yn fater bach. Mae’n fater a allai gynnwys Llywodraethau datganoledig o’r diwrnod cyntaf un, gan fod buddiannau economaidd sylweddol ynghlwm wrth hyn. Credaf fod yr Aelod blaenorol, Huw Irranca-Davies, wedi cyfeirio at yr effeithiau economaidd sylweddol ar borthladdoedd Cymru. Credaf eich bod yn tanbrisio goblygiadau’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei gynnig, sef ei bod, o fewn ychydig wythnosau, yn mynd i gyflwyno deddfwriaeth. Credaf hefyd fod angen inni fod yn glir ynglŷn â'r llanast y mae Llywodraeth y DU wedi'i greu, drwy'r hyn sy'n fethiant gwladweinyddol a diplomyddol.
Gadewch inni fod yn glir: llofnododd gytundeb sy'n gyfreithiol rwymol mewn cyfraith ryngwladol. Dyma gytundeb Prif Weinidog y DU. Nawr, un cynnig a awgrymodd oedd y dylem ddefnyddio erthygl 16 o brotocol Gogledd Iwerddon. Dim ond mesur brys y gellir ei ddefnyddio ar gyfer sefyllfa dros dro yw hwnnw. Mae hefyd yn agor y drws i'r UE ddefnyddio gwrthfesurau. I bob pwrpas, mae’r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU yn un sy’n agor y drws i ryfel masnach. Mae proses gymrodeddu annibynnol yn bosibl, ond nid yw’r Llywodraeth wedi sôn am hynny. Wrth gwrs, yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yw gwneud ei hun yn agored i her gyfreithiol yn Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd.
Un peth sy’n glir iawn yw hyn: ni waeth beth a wnaiff Llywodraeth y DU, os yw’n deddfu, mae’n dal yn ofynnol iddi gydymffurfio ag erthygl 4 ac adran 7A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, sydd drechaf. Felly, hyd yn oed os yw’n cyflwyno ei deddfwriaeth ddomestig ei hun, ni all anwybyddu ei rhwymedigaethau rhyngwladol. Ni waeth beth a wnaiff y DU ar lefel cyfraith ddomestig, ni all ddirymu rhwymedigaethau cyfraith ryngwladol, felly mae mewn perygl difrifol o ddinistrio ei henw da rhyngwladol, ei hygrededd mewn cyfraith ryngwladol, a dylem fod yn wlad sy’n cadw at ein gair, neu fel arall, pam fyddai unrhyw wlad byth yn ceisio masnachu gyda'r DU os na ellir ymddiried ynddi?
Credaf mai dau bwynt arall sydd angen eu gwneud mewn ymateb i’ch cwestiwn yw, yn gyntaf, beth sy’n digwydd: mae’r dull a fabwysiadwyd, yn gyntaf, yn ansefydlogi’r sefyllfa wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon, ac mae'n rhaid inni beidio â thanbrisio hynny, ond mae hefyd mewn perygl o greu difrod sylweddol iawn i economi Prydain ac i economi Cymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ailystyried ei safbwynt o ddifrif, y bydd yn cymryd rhan mewn deialog, ond yn anad dim, y bydd yn ymgysylltu â’r Llywodraethau datganoledig ynghylch materion sy’n effeithio'n uniongyrchol ar ein llesiant economaidd.