5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:03, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Mae hynny'n arwain yn ddi-dor at ran nesaf fy nghyfraniad. Rydych yn iawn, nid yw'n ddewis deuaidd rhwng y naill neu'r llall, mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym y fframweithiau a'r strategaethau a'r polisïau ar waith i sicrhau bod y datblygiadau hyn, y mae pob un ohonom eisiau iddynt ddigwydd, ac yn wir y mae pob un ohonom angen iddynt ddigwydd o ran yr heriau sy'n ein hwynebu mewn perthynas â newid hinsawdd, yn cael eu gwneud ar y telerau cywir, ac o fewn y paramedrau cywir.  

Fe sonioch chi am fylchau yn y data a'r dystiolaeth, a hwnnw oedd y trydydd maes a drafodwyd yn ein gwaith. Nid yw cynlluniau a strategaethau morol ond cystal â'r data sy'n sail iddynt. Rydym i gyd yn gwybod hynny. Mae diffyg sylfaen dystiolaeth gadarn i ategu'r penderfyniadau datblygu hynny'n golygu, mewn gwirionedd, fod risgiau cynhenid ynghlwm wrth gynyddu'r datblygiad y mae llawer ohonom eisiau ei weld. Fe wnaethom argymell y dylid adolygu a diweddaru strategaeth tystiolaeth forol Cymru yng ngoleuni'r archwiliad dwfn, a oedd yn ymrwymo i nodi'r prif fylchau yn y dystiolaeth forol a nodi mecanweithiau i'w llenwi. Felly, roeddem yn synnu wrth ddarllen ymateb y Gweinidog i'n hargymhelliad, sy'n dweud hyn:

'Mae swyddogion yn fodlon bod y blaenoriaethau tystiolaeth strategol trosfwaol yn dal i gynrychioli'r anghenion tystiolaeth lefel uchel gan gynnwys y rhai a nodwyd gan yr archwilio dwfn.'

Felly, mae'n debyg fod popeth yn iawn, nid oes unrhyw beth i boeni yn ei gylch. Weinidog, mae'r diffyg tystiolaeth, fel y clywsom, yn broblem wirioneddol. Dywedodd pawb hynny wrthym fel rhan o'r ymchwiliad. Ac os yw'r strategaeth yn iawn, mae'n amlwg fod rhywbeth arall nad yw'n gweithio, felly efallai y gallwch ddweud wrthym beth ydyw ac yn bwysicach, beth y bwriadwch ei wneud yn ei gylch. Ac rydych yn nodio, felly rwy'n edrych ymlaen at eich cyfraniad. Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at eich cyfraniad, ond yn enwedig yn awr. 

Ar ardaloedd morol gwarchodedig, rwy'n falch fod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhellion, ond wrth edrych yn fanylach gwelwn fod rhai meysydd yn peri pryder o hyd. Roedd argymhelliad 16 yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynlluniau diweddaraf ar gyfer dynodi ardaloedd morol gwarchodedig iawn. Dywed y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn ar ôl rhaglen gwblhau'r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig. Ond y gwir amdani yw na fydd yr ymgynghoriad ar y rhaglen honno yn cael ei gynnal tan 2023. Felly, unwaith eto, efallai y bydd blynyddoedd o oedi ar hyn. Ble mae'r brys?

Mae'n ymddangos bod ymateb y Gweinidog i adroddiad y pwyllgor yn creu mwy o gwestiynau nag o atebion. Byddai unrhyw un sy'n ei ddarllen yn teimlo, yn briodol, nad oes unrhyw broblemau yn y maes polisi hwn, nad oes unrhyw wendidau y mae angen eu cryfhau, ac nad oes angen brys. Efallai y byddent hyd yn oed yn meddwl bod y Gweinidog yn ceisio gwthio'r materion hyn i'r naill ochr. Cymerwch enghraifft arall. Gofynnwyd i'r Gweinidog am amserlen ar gyfer ymgynghoriad ar ddyfodol treillrwydo môr-waelodol a llusgrwydo mewn ardaloedd morol gwarchodedig. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae llawer o Aelodau wedi'i godi yma yn y Siambr yn y gorffennol, a gwn fod y Pwyllgor Deisebau hefyd wedi ystyried hyn. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar reolaeth gêr llusg eto, gan gynnwys treillrwydo môr-waelodol, mewn ardaloedd morol gwarchodedig. Mewn cyferbyniad, wrth gwrs, mae gweinyddiaethau'r DU wedi symud ymlaen i gyflwyno mesurau rheoli ar gyfer offer pysgodfeydd mewn ardaloedd morol gwarchodedig. Yn ei hymateb, dywed y Gweinidog wrthym:

'Bydd yr amserlen ar gyfer unrhyw ymgynghoriad yn cael ei phennu ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru ar y pryd.'

Beth y mae hynny'n ei olygu? Dim manylion, dim dyddiadau. Rydym eisoes yn llusgo ar ôl rhannau eraill o'r DU ac efallai y bydd yn flynyddoedd cyn y gwelwn newidiadau ar y mater penodol hwnnw. 

Weinidog, ar ddechrau fy araith, dywedais fod yr ymchwiliad hwn yn gipolwg ar iechyd polisïau morol, felly beth oedd dyfarniad y pwyllgor? Wel, rydym i gyd yn disgwyl i ddatblygiadau ynni morol gynyddu'n sylweddol yn ystod y degawd hwn ac eto mae ein hamgylchedd morol dan fygythiad. Felly, er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae arnom angen system gyfannol sy'n ystyried effeithiau datblygiadau cronnol ar yr amgylchedd morol, gan wneud yr hyn a all, wrth gwrs, i ddileu unrhyw rwystrau diangen a nodir i'r defnydd o adnoddau naturiol. Mae'r pwyllgor yn credu ein bod yn bell o hynny ar hyn o bryd. Felly, mae arnom angen i'r Gweinidog a'r Llywodraeth dderbyn nad yw meddylfryd busnes fel arfer yn ddigon i ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth a wynebwn. Mae angen inni wneud mwy ac mae angen inni ei wneud yn gynt. Diolch.