– Senedd Cymru am 3:57 pm ar 18 Mai 2022.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn wir am y cyfle i drafod cynnwys adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru, oherwydd, yn gynnar yn ystod y Senedd yma, fe gytunodd y pwyllgor y dylai polisïau morol fod yn faes blaenoriaeth i ni yn ein gwaith dros y blynyddoedd nesaf yma. Y bwriad oedd i'r ymchwiliad byr yma fod yn rhywbeth cychwynnol, yn rhyw fath o gipolwg ar y sefyllfa bresennol o ran y polisïau morol sydd gennym ni yng Nghymru. Ac er nad oedd gennym ni lawer o amser i gymryd y cipolwg cychwynnol yma, fe lwyddon ni, mae'n rhaid imi ddweud, i ymdrin â nifer fawr o bynciau. Ac mae'r pwyllgor, wrth gwrs, yn ddiolchgar i'r holl randdeiliaid a gyfrannodd at ein gwaith ni, ac i RSPB Cymru a'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn arbennig am roi rhagor o wybodaeth inni hefyd cyn y ddadl yma y prynhawn yma.
Nawr, mae arfordir Cymru, wrth gwrs, dros 2,000 km o hyd, llawer ohono fe'n destun cenfigen i'r byd i gyd yn grwn. Mae'n creu cyfleoedd ynni morol enfawr inni—digon i'n helpu i gyrraedd ein targedau datgarboneiddio—ac mae hyn yn ei dro yn gallu arwain at swyddi, twf economaidd ac adfywio ein cymunedau arfordirol—rhai o'r cymunedau hynny, wrth gwrs, sydd angen ein cymorth ni fel ag y mae pethau erbyn heddiw.
Ac mae ein hamgylchedd morol ni hefyd yn gartref i rai o'r cynefinoedd a'r rhywogaethau mwyaf amrywiol a phwysig sydd gennym ni yn Ewrop, ac mae hynny hefyd yn rhywbeth i'w werthfawrogi ac i'w warchod ar yr un pryd. A thema allweddol ein hadroddiad ni oedd, wrth gwrs, y cydbwysedd rhwng y ddwy flaenoriaeth yma. Rŷn ni yn croesawu cynigion i gynyddu datblygiadau ynni morol dros y ddegawd nesaf, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod y cydbwysedd priodol yn cael ei daro rhwng y datblygiadau hynny a'r elfen o gadwraeth ac amddiffyn yr hyn sydd gennym ni o safbwynt ecosystemau morol a bioamrywiaeth.
Mae ein hadroddiad hi'n dechrau drwy ganolbwyntio ar gynllunio morol. Nawr, ar hyn o bryd, yng Nghymru, mae gennyn ni gynllun morol cenedlaethol, ac fe ddywedodd y cyrff anllywodraethol amgylcheddol wrthym mai un o brif anfanteision y cynllun hwn yw nad yw e yn gynllun gofodol. Ac oherwydd hyn, dyw e ddim yn nodi, er enghraifft, ble y dylid lleoli datblygiadau na faint o ddatblygiadau fyddai yn gynaliadwy. Dyw e ddim yn caniatáu i ni ystyried effaith gronnol—cumulative impact—datblygiadau ar yr amgylchedd morol.
Roedd rhanddeiliaid o'r sector ynni adnewyddadwy yn credu'n gryf fod yn rhaid i'r degawd nesaf ganolbwyntio ar roi cynlluniau ar waith yn hytrach nag ailgynllunio strategaethau. Roedden nhw'n pryderu y byddai polisi newydd neu efallai dull newydd o weithredu yn arwain at ragor o oedi. Ar ôl ystyried y ddwy ddadl a'r ddau bersbectif yma, mae'r pwyllgor wedi dod i'r casgliad mai'r ymateb gorau yn y lle cyntaf fyddai i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad allanol o gynllun morol cenedlaethol Cymru. Dyma'r amser i ystyried a fydd y cynlluniau a'r strategaethau sydd yn eu lle ar hyn o bryd yn parhau i fod yn addas i'r diben yng ngoleuni'r cynnydd disgwyliedig rŷn ni'n ei weld, ac yn ei ragweld, mewn datblygiadau morol.
Er bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor—ac mae gen i broblem weithiau efo derbyn pethau mewn egwyddor, achos dwi ddim wastad yn deall yn iawn beth mae hynny'n ei feddwl—rwy’n siomedig bod ei hymateb yn dangos na fydd dadansoddiad allanol yn cael ei gomisiynu ar gyfer yr adolygiad eleni, ond ar gyfer yr adolygiad nesaf, ond dyw hynny ddim yn cael ei gynnal tan 2025. Felly, Weinidog, mae hwn yn gyfle yn fy marn i sydd wedi’i golli, ac mae'n golygu na welwn ni'r newidiadau angenrheidiol am flynyddoedd eto i ddod.
Ail ffocws y pwyllgor oedd cynnydd y sector ynni adnewyddadwy morol. Dylwn ddweud ein bod yn croesawu ymdrechion Gweinidogion, drwy'r archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy, i ddileu rhai o'r rhwystrau i ddatblygu. Bydd yr Aelodau wedi clywed datganiad Gweinidog yr Economi ddoe am y cynnydd yn y maes hwn, ac mae llawer i'w groesawu, ond ni fyddai sylwadau'r Gweinidog wedi gwneud fawr ddim i dawelu meddyliau rhai o'r cyfranwyr i'n gwaith pwyllgor. Bydd yr Aelodau wedi clywed Gweinidog yr Economi yn dweud ei fod yn disgwyl i gynhyrchiant gwynt ar y môr gynyddu o lefelau presennol o 726 MW i 2.8 GW erbyn 2030, gyda'r posibilrwydd o gynhyrchu 6.8 GW erbyn 2035. Mae hwnnw'n gynnydd sylweddol mewn ychydig mwy na degawd o nawr.
Nid yw'n syndod, yn y cyd-destun hwnnw, fod rhanddeiliaid unwaith eto wedi cwestiynu pa mor addas i'r diben yw cynlluniau presennol Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd y cynllun ynni morol yn ôl yn 2016. Nid yw'n esbonio uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni morol yn y tymor byr ac yn fwy hirdymor. Felly, credwn fod angen edrych ar hyn eto. Rydym angen pennu trywydd ar gyfer y dyfodol, a byddai hyn wedyn yn rhoi sicrwydd i ddatblygwyr ac yn magu hyder ym mhotensial hirdymor y sector. Unwaith eto, mae'r Gweinidog wedi cytuno mewn egwyddor i adolygu'r cynllun ynni morol, ond nid oes awgrym o amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw. [Torri ar draws.] Wrth gwrs, gwnaf.
Diolch am ildio ar y pwynt hwnnw, Llyr, ac am y ffordd yr ydych wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw. A fyddech yn cydnabod bod rhai o'r sefydliadau hynny, fel WWF, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, yr RSPB, yr Ymddiriedolaethau Natur ac eraill, mewn gwirionedd yn deall yr angen i fwrw ymlaen ag ynni adnewyddadwy, ond maent eisiau sicrhau ein bod yn diogelu rhai o'r rhywogaethau gwerthfawr hynny, gan gynnwys bywyd gwyllt ac adar mudol, ond morfilod hefyd? Mae angen inni wneud hyn yn iawn, ac mae data a thystiolaeth yn allweddol.
Mae hynny'n arwain yn ddi-dor at ran nesaf fy nghyfraniad. Rydych yn iawn, nid yw'n ddewis deuaidd rhwng y naill neu'r llall, mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym y fframweithiau a'r strategaethau a'r polisïau ar waith i sicrhau bod y datblygiadau hyn, y mae pob un ohonom eisiau iddynt ddigwydd, ac yn wir y mae pob un ohonom angen iddynt ddigwydd o ran yr heriau sy'n ein hwynebu mewn perthynas â newid hinsawdd, yn cael eu gwneud ar y telerau cywir, ac o fewn y paramedrau cywir.
Fe sonioch chi am fylchau yn y data a'r dystiolaeth, a hwnnw oedd y trydydd maes a drafodwyd yn ein gwaith. Nid yw cynlluniau a strategaethau morol ond cystal â'r data sy'n sail iddynt. Rydym i gyd yn gwybod hynny. Mae diffyg sylfaen dystiolaeth gadarn i ategu'r penderfyniadau datblygu hynny'n golygu, mewn gwirionedd, fod risgiau cynhenid ynghlwm wrth gynyddu'r datblygiad y mae llawer ohonom eisiau ei weld. Fe wnaethom argymell y dylid adolygu a diweddaru strategaeth tystiolaeth forol Cymru yng ngoleuni'r archwiliad dwfn, a oedd yn ymrwymo i nodi'r prif fylchau yn y dystiolaeth forol a nodi mecanweithiau i'w llenwi. Felly, roeddem yn synnu wrth ddarllen ymateb y Gweinidog i'n hargymhelliad, sy'n dweud hyn:
'Mae swyddogion yn fodlon bod y blaenoriaethau tystiolaeth strategol trosfwaol yn dal i gynrychioli'r anghenion tystiolaeth lefel uchel gan gynnwys y rhai a nodwyd gan yr archwilio dwfn.'
Felly, mae'n debyg fod popeth yn iawn, nid oes unrhyw beth i boeni yn ei gylch. Weinidog, mae'r diffyg tystiolaeth, fel y clywsom, yn broblem wirioneddol. Dywedodd pawb hynny wrthym fel rhan o'r ymchwiliad. Ac os yw'r strategaeth yn iawn, mae'n amlwg fod rhywbeth arall nad yw'n gweithio, felly efallai y gallwch ddweud wrthym beth ydyw ac yn bwysicach, beth y bwriadwch ei wneud yn ei gylch. Ac rydych yn nodio, felly rwy'n edrych ymlaen at eich cyfraniad. Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at eich cyfraniad, ond yn enwedig yn awr.
Ar ardaloedd morol gwarchodedig, rwy'n falch fod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhellion, ond wrth edrych yn fanylach gwelwn fod rhai meysydd yn peri pryder o hyd. Roedd argymhelliad 16 yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynlluniau diweddaraf ar gyfer dynodi ardaloedd morol gwarchodedig iawn. Dywed y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn ar ôl rhaglen gwblhau'r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig. Ond y gwir amdani yw na fydd yr ymgynghoriad ar y rhaglen honno yn cael ei gynnal tan 2023. Felly, unwaith eto, efallai y bydd blynyddoedd o oedi ar hyn. Ble mae'r brys?
Mae'n ymddangos bod ymateb y Gweinidog i adroddiad y pwyllgor yn creu mwy o gwestiynau nag o atebion. Byddai unrhyw un sy'n ei ddarllen yn teimlo, yn briodol, nad oes unrhyw broblemau yn y maes polisi hwn, nad oes unrhyw wendidau y mae angen eu cryfhau, ac nad oes angen brys. Efallai y byddent hyd yn oed yn meddwl bod y Gweinidog yn ceisio gwthio'r materion hyn i'r naill ochr. Cymerwch enghraifft arall. Gofynnwyd i'r Gweinidog am amserlen ar gyfer ymgynghoriad ar ddyfodol treillrwydo môr-waelodol a llusgrwydo mewn ardaloedd morol gwarchodedig. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae llawer o Aelodau wedi'i godi yma yn y Siambr yn y gorffennol, a gwn fod y Pwyllgor Deisebau hefyd wedi ystyried hyn. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar reolaeth gêr llusg eto, gan gynnwys treillrwydo môr-waelodol, mewn ardaloedd morol gwarchodedig. Mewn cyferbyniad, wrth gwrs, mae gweinyddiaethau'r DU wedi symud ymlaen i gyflwyno mesurau rheoli ar gyfer offer pysgodfeydd mewn ardaloedd morol gwarchodedig. Yn ei hymateb, dywed y Gweinidog wrthym:
'Bydd yr amserlen ar gyfer unrhyw ymgynghoriad yn cael ei phennu ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru ar y pryd.'
Beth y mae hynny'n ei olygu? Dim manylion, dim dyddiadau. Rydym eisoes yn llusgo ar ôl rhannau eraill o'r DU ac efallai y bydd yn flynyddoedd cyn y gwelwn newidiadau ar y mater penodol hwnnw.
Weinidog, ar ddechrau fy araith, dywedais fod yr ymchwiliad hwn yn gipolwg ar iechyd polisïau morol, felly beth oedd dyfarniad y pwyllgor? Wel, rydym i gyd yn disgwyl i ddatblygiadau ynni morol gynyddu'n sylweddol yn ystod y degawd hwn ac eto mae ein hamgylchedd morol dan fygythiad. Felly, er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae arnom angen system gyfannol sy'n ystyried effeithiau datblygiadau cronnol ar yr amgylchedd morol, gan wneud yr hyn a all, wrth gwrs, i ddileu unrhyw rwystrau diangen a nodir i'r defnydd o adnoddau naturiol. Mae'r pwyllgor yn credu ein bod yn bell o hynny ar hyn o bryd. Felly, mae arnom angen i'r Gweinidog a'r Llywodraeth dderbyn nad yw meddylfryd busnes fel arfer yn ddigon i ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth a wynebwn. Mae angen inni wneud mwy ac mae angen inni ei wneud yn gynt. Diolch.
Mae'n bleser dilyn Llyr, ein Cadeirydd ar y pwyllgor hwn, a dweud ychydig eiriau. Ceisiaf beidio ag ailadrodd yr hyn a ddywedodd, ond hoffwn grybwyll ychydig o bwyntiau, gan gynnwys rhai yn ymateb Llywodraeth Cymru hefyd, cyn imi ddod at y mater allweddol, yn fy marn i, sef data a thystiolaeth, ac rwyf am ganolbwyntio ar hynny, os yw hynny'n iawn.
Yn gyntaf oll, o ran argymhelliad 1, y dylid comisiynu dadansoddiad allanol o gynllun morol cenedlaethol Cymru, nodwn fod cytundeb mewn egwyddor yno, ond bydd yn llywio'r adroddiad statudol nesaf. Credaf y byddai'r pwyllgor yn teimlo'n gryf y byddem eisiau ei weld yn gynharach na hynny oherwydd y brys y mae'r Cadeirydd wedi'i bwysleisio. Felly, byddwn yn dal i wthio'n galed ar hynny, rwy'n credu, ac rwy'n siŵr y byddwn yn dychwelyd ato.
Ar ymgysylltu â rhanddeiliaid yn argymhelliad 2, hoffwn ddweud wrth y Gweinidog nad dweud nad oes strwythurau ar waith i ymgysylltu â rhanddeiliaid y mae, ond yn hytrach, mae'n ymwneud ag ansawdd yr ymgysylltiad â rhanddeiliaid. Mae rhai yn teimlo—ac rwy'n cyfaddef mai unigolion o'r sector amgylcheddol ydynt yn bennaf—er eu bod yn ymgysylltu, ac yn ymestyn eu hunain i ymgysylltu â'r gwahanol grwpiau rhanddeiliaid, nad ydynt yn sicr eu bod yn cael eu clywed yn y ffordd yr ydym yn wynebu'r argyfwng natur a'r argyfwng bioamrywiaeth. Nid y llinell sylfaen y maent hwy eisiau dechrau ohoni yw'r llinell sylfaen y mae'r Llywodraeth eisiau dechrau ohoni. Maent eisiau gweld darlun o wely'r môr a'r fflora a'r ffawna fel y dylai fod, nid fel y mae ar hyn o bryd, ac yn y blaen. Felly, byddai'n anogaeth, mewn perthynas ag argymhelliad 2, Weinidog, i allu gweld yr argymhelliad hwnnw yn yr is-destun sy'n sail iddo sef ei fod yn ymwneud ag ansawdd yr ymgysylltu a'r gwrando. Rydych yn ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid, ond mewn gwirionedd mae'n ymwneud â'r ymgysylltiad a'r manylion i'w ddilyn hefyd. Felly, peidiwch â chymryd hynny o chwith. A gwn mai fi yw hunllef waethaf unrhyw Weinidog yn y swydd honno—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod hynny; diolch am ddweud 'ie'. Fel cyn-Weinidog pysgodfeydd a morol fy hun, fi yw'r hunllef waethaf.
Ar argymhelliad 4, sy'n nodi'r cynlluniau ar gyfer datganoli'r cyfrifoldeb dros reoli Ystad y Goron, rwy'n meddwl tybed, Weinidog, a oes yna wrth-ddweud, oherwydd rydych wedi derbyn hynny, ac mae hynny'n wych, ond wedyn mae'n sôn am
'edrych ar oblygiadau datganoli.... Unwaith y bydd y dasg hon wedi'i chwblhau, byddwn yn gallu cwblhau ein cynlluniau ar gyfer Ystâd y Goron.'
Rydych wedi derbyn yr argymhelliad ynghylch datganoli'r cyfrifoldeb dros reoli, sy'n nodi'r cynlluniau, ac yn y blaen. Mae'n debyg na allwch fynd ymhellach ar hyn o bryd, ond byddai'n ddiddorol pe gallech godi heddiw a dweud, 'Wel, mewn gwirionedd, mae'n gwneud synnwyr yn awr i symud ymlaen gyda hyn a'i ddatganoli.' Gyda llaw, nid wyf yn tanbrisio'r rôl sydd ganddynt a'r gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd, ond byddai'n ddiddorol cael rhai o'r dulliau rheoli yma.
Ar argymhellion 9, 10 ac 11, ar dystiolaeth a data—. Wel, gadewch imi ddod yn ôl at hynny mewn munud, oherwydd rwyf am dreulio ychydig funudau'n sôn amdano. Gadewch imi fwrw ymlaen yma. Ar argymhelliad 13, lle rydym yn edrych ar y diffyg cynnydd ar ddynodi ardaloedd morol gwarchodedig a pharthau cadwraeth morol, ac yn gofyn ichi nodi amserlen, rydych wedi derbyn hyn, ac rydych wedi dweud y bydd hyn yn digwydd yng ngham nesaf y gwaith sydd i'w lansio yn ystod y misoedd nesaf, sy'n wych i'w glywed. Yn dilyn hynny, yn argymhelliad 16, symudwn ymlaen at y cynnydd araf ar ardaloedd morol gwarchodedig iawn, ac unwaith eto, rydych yn derbyn hynny. Rydych yn derbyn y
'Dylid ystyried yr angen, a phriodoldeb, ar gyfer meysydd lle ceir mwy o ddiogelwch fel rhan o'r broses hon.'
Rydym yn deall hynny i gyd. Y cyfan y byddwn yn ei ddweud wrthych—a gwn eich bod yn deall hyn, Weinidog, rwy'n gwybod yn iawn eich bod yn deall hyn—yw bod yna ddyhead mawr allan yno i fwrw ymlaen â dynodi'r rheini, a hefyd, felly, oherwydd bod hynny'n ein galluogi i fwrw ymlaen â'r gwaith o reoli'r ardaloedd hynny'n effeithiol hefyd, oherwydd dyna'r peth arall. Mae gennym argymhelliad yma sy'n ymwneud â threillrwydo—dyna'r unig beth arall yr oeddwn eisiau sôn amdano cyn y materion sy'n ymwneud â data a thystiolaeth. Mae'n ymwneud â llusgrwydo a threillrwydo môr-waelodol. Unwaith eto, rydych wedi derbyn ein hargymhelliad, ac rydych wedi dweud—ac mae wedi'i ysgrifennu'n dda iawn—y byddwch yn cynnal
'gwerthusiad strwythuredig o'r rhyngweithio posibl rhwng offer pysgota â nodweddion Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru y cyfeirir atynt fel prosiect Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru.' ac y bydd yn cael ei gwblhau yn ystod haf 2022. Mae hynny'n wych iawn, ond rydym yn gwybod am y niwed y mae'r gweithgareddau hyn yn ei wneud i rai o'r ardaloedd mwyaf sensitif. A gwn fod hyn yn anodd i bobl sy'n ymwneud â'r diwydiant pysgota, ond mewn gwirionedd, dyma un o'r meysydd y bydd yn rhaid inni wneud penderfyniad arno yn y pen draw mewn perthynas â'r dyhead i newid yr ardaloedd hyn yn ôl i'r hyn y gwyddom y dylent fod yn hytrach na'r hyn ydynt ar hyn o bryd, a sut y cânt eu difrodi.
Mae fy amser wedi dod i ben yn barod. Gofynnaf i chi'n benodol, felly, heb gyfeirio at fy nodiadau, i edrych ar fater tystiolaeth a data. Clywsom lawer o dystiolaeth dda yma. Dywedodd llawer o bobl nad ydym lle y dylem fod mewn perthynas â data a thystiolaeth, ac oni bai ein bod yn gallu gweld beth sydd yno yn y parth mawr glas o dan y tonnau, ac yn y blaen, bydd yr hyn y gallwn ei wneud yn gyfyngedig. Weinidog, mae hyn wedi bod yn mynd rhagddo ers dros ddegawd, ceisio dwyn ynghyd y sylfaen dystiolaeth. Gwn fod sensitifrwydd masnachol, ac wrth i fy mhum munud ddirwyn i ben, hoffwn ddweud yn syml, Weinidog, fod angen inni fynd ymhellach gyda'r strategaethau gwyddoniaeth forol a'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i chwalu'r rhwystrau sy'n gysylltiedig â rhannu gwybodaeth rhwng y byd academaidd, buddiannau masnachol a Cyfoeth Naturiol Cymru. Dylai pawb fod yn rhannu'r wybodaeth honno, hyd yn oed os yw'n ddienw, fel y gallwn fapio'r hyn sy'n digwydd allan yno ar hyn o bryd yn fwy cywir. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch fod yr adroddiad hwn wedi'i gyflwyno i'w drafod heddiw. Derbyniwyd 15 o'r argymhellion, a derbyniwyd pump mewn egwyddor. Mae hynny'n swnio'n dda, ond mae arnaf ofn y gellid dweud bod y sector morol yn cael cam wrth inni ystyried y manylion.
Mewn ymateb i argymhelliad 1, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adrodd ar effeithiolrwydd cynllun morol cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn gywir iawn yn pwysleisio y dylech gadarnhau y bydd yr adolygiad yn ystyried yr angen am gynllun datblygu morol gofodol a chyfannol statudol. Credaf fod y Gweinidog a'r Senedd wedi fy nghlywed yn sôn am hyn sawl gwaith. Yr hyn rwy'n pryderu'n fawr amdano—a chredaf ei fod yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod, Huw Irranca, wedi'i grybwyll—yw ein bod angen ynni adnewyddadwy blaengar, ond rhaid inni ofalu am ein systemau ecolegol hefyd. Rwy'n poeni'n fawr am y dull ad hoc hwn o weithredu—fod datblygwyr yn dod i mewn ac mae'n ymddangos eu bod yn nodi lle maent eisiau datblygu, ond sut y mae hynny wedyn yn cymryd ei le mewn cynllun cyffredinol, cynllun strategol?
Rydych wedi fy nghlywed yn siarad am yr angen am gynllun datblygu morol i Gymru droeon. Serch hynny, dyna sydd ei angen arnom. Er enghraifft, tynnodd RSPB Cymru sylw at ddiffyg elfen ofodol neu bolisïau rheoli datblygu, sy'n golygu nad yw'r cynllun presennol yn ymgorffori blaengynlluniau strategol nac yn ceisio mynd i'r afael â gwrthdaro mewn modd rhagweithiol, a gall hynny wedyn achosi oedi i gynlluniau. Felly, byddwn yn falch pe gallai'r Gweinidog egluro pam ei bod yn fodlon i'w Dirprwy Weinidog fynd ar drywydd ardaloedd adnoddau strategol, ond nad yw'n barod i greu cynllun datblygu morol manwl.
Yn yr un modd, mae arnom angen mwy o uchelgais ar y camau sy'n cael eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd morol. Eisoes, rydych wedi cydnabod bod bylchau yn y dystiolaeth mewn perthynas â rhyngweithio rhwng y dechnoleg a'r amgylchedd. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod cynllun morol cenedlaethol Cymru yn annog rhannu tystiolaeth. Fel y dywedodd y pwyllgor yn ein hadroddiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23, mae'r ffaith nad oes gennym sylfaen dystiolaeth gadarn i ategu penderfyniadau datblygu yn golygu bod risgiau cynhenid o ran cynyddu'r datblygiad morol hwn.
Mae Emily Williams o Cyswllt Amgylchedd Cymru yn dweud bod datblygwyr yn casglu llawer iawn o ddata morol wrth iddynt ddatblygu prosiectau, ond bod llawer ohono wedyn yn aml yn cael ei nodi fel deunydd masnachol sensitif. Felly, Weinidog, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno bod angen inni gyrraedd pwynt lle mae trwyddedau datblygu morol angen eu monitro cyn ac ar ôl gwaith adeiladu a rhannu gwybodaeth, fel bod datblygwyr yn gwneud mwy o gyfraniad i'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i gynllunio morol.
Yn ddiweddar, synnais glywed bod cynllun Gwynt y Môr, a'n pysgotwyr lleol a ddywedodd hyn wrthym, mewn gwirionedd—. Diflannodd 13 rhywogaeth o bysgod, ac mae pum rhywogaeth o bysgod nad ydynt erioed wedi dychwelyd, ac roedd hynny flynyddoedd yn ôl. Felly, mae angen inni weld cynnydd ar ddynodi ardaloedd morol gwarchodedig yn y dyfodol hefyd. Mae un Lywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru wedi oedi ar hyn, er gwaethaf y ffaith ei fod yn arf i fynd i'r afael â bygythiadau deuol yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Yn wir, nid oes amheuaeth nad oedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn 2012 yn drychineb. Cyfeiriodd Clare Trotman ato—a bu Clare yn gwneud gwaith i'r Gymdeithas Cadwraeth Forol—fel methiant. Galwodd Sue Burton ef yn druenus o annigonol, a dywedodd Dr Richard Unsworth fod yr ymgynghoriad wedi methu edrych ar brofiad parciau morol llwyddiannus ac ardaloedd morol gwarchodedig yn unman arall ledled y byd. Felly, er eich bod wedi cadarnhau, mewn ymateb i argymhelliad 16, eich bod yn bwriadu asesu'r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddarparu dyddiad targed ar gyfer cwblhau'r gwaith hwn.
Dywedodd adroddiad ym mis Hydref 2020 yn The Guardian fod treillrwydo môr-waelodol wedi digwydd yn 97 y cant o ardaloedd morol gwarchodedig alltraeth y DU yn 2019. Nawr, rydym wedi clywed Cyfoeth Naturiol Cymru yn honni nad yw'r prif ystadegau hynny'n berthnasol i Gymru mewn gwirionedd, ond bod eu sylwadau'n seiliedig ar ddealltwriaeth anecdotaidd. Nawr, mae hynny'n peri pryder imi, pan fo hyd yn oed Cyfoeth Naturiol Cymru yn ein hysbysu na allant ddod i gasgliadau clir ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yn nyfroedd Cymru. Fel y dywedais o'r blaen, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru—beth y maent yn ei alw—rôl potsiwr a chiper yma, oherwydd maent yn darparu'r trwyddedau morol, ac yna maent yn gyfrifol am orfodaeth, a gwn fod problemau yno. Felly, ni ellir anwybyddu'r mater hwn.
Yn olaf, fe fyddwch yn ymwybodol fod COP15 ar y gorwel. Felly, credaf ei bod yn briodol cloi gyda chwestiwn ynglŷn ag a yw'r Gweinidog o'r farn fod y dull presennol o weithredu cynllun morol cenedlaethol Cymru yn rhoi'r argyfwng natur ar yr un lefel â'r argyfwng hinsawdd. Diolch.
Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon heddiw, a diolch i Llyr am ei gadeiryddiaeth arbenigol, a fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor am gyflwyno'r adroddiad a'r argymhellion. Mae llawer i'w drafod, ond roedd y neges glir a gawsom yn ymwneud â'r angen i'r cynllun morol cenedlaethol ystyried effeithiau cronnol datblygiadau. Credaf fod datganiad Gweinidog yr Economi ddoe ar ynni morol alltraeth yn tanlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai manteision economaidd a manteision ynni adnewyddadwy ddarparu manteision amgylcheddol hefyd. Felly, hyderaf y bydd y dull hwnnw'n llywio'r adolygiad sydd ar y ffordd o gynllun morol cenedlaethol Cymru.
Roeddwn yn rhan o'r pwyllgor blaenorol a fu'n ymchwilio i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yn y Senedd flaenorol. Bum mlynedd ers yr ymchwiliad cychwynnol hwnnw, at ei gilydd mae ein hargymhelliad ynghylch nodi a dynodi parthau cadwraeth morol yn dal i fod heb gael sylw—ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hynny. Felly, edrychaf ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gam nesaf y gwaith yn ystod y misoedd nesaf. Ond byddwn yn croesawu rhywfaint o eglurder ynghylch beth yw parth cadwraeth morol. Beth sy'n digwydd ynddo? Beth na all ddigwydd ynddo? Mae'n ymddangos bod llawer o negeseuon croes yn hynny o beth. Mae'n amlwg mai un ohonynt, wrth symud ymlaen, fydd trwyddedu ynni adnewyddadwy. Felly, mae gwir angen rhywfaint o eglurder arnom yn hynny o beth.
Rwyf am droi at garbon glas. Ni fyddwn yn colli cyfle, wrth gwrs, i siarad am garbon glas. Mae ein cynefinoedd morwellt, morfa heli a gwymon, a'r holl garbon sy'n cael ei storio a'i amsugno gan amgylchedd morol Cymru yn llawer mwy na'r hyn sy'n cael ei storio yn ein coetiroedd a'n tir. Ac roedd yna stori ofidus, onid oedd, am Brifysgol Bangor yn gosod morwellt a bod rhywun wedi ei ddinistrio mewn cyfnod byr iawn. Felly, efallai fod hynny'n cyd-fynd â fy nghwestiwn cynharach ynglŷn â beth yw parth morol gwarchodedig.
Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad i archwilio sut y gellir cynnal a gwella ein cynefinoedd carbon glas. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y rhaglen rhwydweithiau natur fel dull o wneud hynny, felly byddai'n ddefnyddiol iawn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen honno'n fuan. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun tystiolaeth carbon glas a rennir, a deallaf fod hwnnw'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Yn olaf, gofynnwyd i'r Llywodraeth nodi diben ac amserlen yr ymgynghoriad cyhoeddus ar lusgrwydo a threillrwydo môr-waelodol yn ardaloedd morol gwarchodedig Cymru. Sylwaf fod y Pwyllgor Deisebau wedi ystyried ymgyrch 'Rhowch y gorau i chwalu ein moroedd!' yn ddiweddar ac rwy'n sicr yn cydymdeimlo â barn y deisebydd. Mae'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad, sy'n newyddion da, ond mae'n ymddangos bod yr amserlenni braidd yn niwlog. Unwaith eto, dylwn ddweud fy mod wedi eistedd ar bwyllgorau blaenorol y Senedd a fu'n annog cynnydd ar y mater hwn. Cofiaf ymgynghoriad drafft ar gêr llusg yn 2018. Ond i mi mae rhywbeth yn sylfaenol anghywir mewn gallu llusgo unrhyw beth ar hyd gwely'r môr, gan ddinistrio popeth sy'n bodoli yno. Ac rwy'n siŵr, pe bai hyn yn digwydd ar dir, pe baem yn dinistrio tir a bod pawb yn ei weld yn digwydd, byddai pobl yn gandryll, ac rwy'n pryderu nad yw pobl yn deall o gwbl beth mae llusgrwydo môr yn ei olygu mewn gwirionedd a'r niwed y mae'n ei wneud. Felly, byddwn yn ddiolchgar am ymrwymiad ac amserlen benodol mewn perthynas â hynny. Diolch.
Rwy'n croesawu'r adroddiad gan y pwyllgor a diolch iddynt am eu holl waith, ac mae'n waith pwysig iawn, wrth inni symud ymlaen, oherwydd yn sgil y ffaith bod daearyddiaeth Cymru yn arfordirol gan fwyaf, mae'r sector morol yn cyfrannu'n helaeth at economi Cymru. Mae polisi morol yn cael effaith uniongyrchol ar fywoliaeth pobl yn ogystal ag ar fywyd gwyllt ac ecosystemau—ac mae llawer o'r galwadau mewn perthynas â moroedd ac arfordiroedd Cymru yn aml yn gwrthdaro. Defnyddir yr amgylchedd morol i sicrhau ynni adnewyddadwy glân, bwyd cynaliadwy yn ogystal ag at ddibenion hamdden, ac mae'n hanfodol i fioamrywiaeth Cymru. Am y rheswm hwn, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu polisi morol ac yn cael y polisi'n iawn, yn ogystal â sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu a bod bioamrywiaeth ein moroedd yn cael ei diogelu.
Mae ynni adnewyddadwy yn hanfodol, mae'n sector sy'n tyfu, ac mae'n allweddol i gyflawni ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Fodd bynnag, mae'n creu risgiau yn ogystal â chyfleoedd pan na chynllunnir ar eu cyfer yn gynhwysfawr. Mae effeithiau posibl datblygiadau morol ar anifeiliaid morol yn cynnwys gwrthdrawiadau bywyd gwyllt, aflonyddwch, sŵn morol, colli cynefinoedd a cholli mynediad at dir bwydo a ffefrir. Dylai unrhyw benderfyniadau ar ddatblygu adnewyddadwy ym moroedd Cymru gydnabod ein bod mewn argyfwng natur morol a bod bywyd gwyllt y môr wedi cael ei anwybyddu ers gormod o amser.
Yn fy marn i, ac ym marn llawer o bobl eraill, hyd yma, mae Llywodraeth Cymru, yn anffodus, wedi methu cyflawni ei dyletswydd gyfreithiol i sicrhau statws amgylcheddol da i gynefinoedd a rhywogaethau morol. Mae bioamrywiaeth forol yn parhau i ddirywio, ac mae llawer o ardaloedd morol gwarchodedig mewn cyflwr anffafriol. Rhaid cyfaddef, i fod yn deg, fod hyn yn wir am lywodraethau ledled y byd, ond mae iddo bwysigrwydd penodol i ni'r Aelodau sy'n hyrwyddwyr rhywogaethau bywyd gwyllt morol—er enghraifft, fi yw'r hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer yr heulgi. Yn y pen draw, yn fy marn i, mae'r sector ynni adnewyddadwy morol yn cael ei lywio gan rymoedd dilyffethair y farchnad ar hyn o bryd, gan arwain at geisiadau cynyddrannol. Wrth i foroedd Cymru fynd yn fwy gorlawn, rhaid i'r system cynllunio morol weithredu ar lefel strategol i lywio'r gwaith o leoli datblygiadau i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif yn ecolegol, yn ogystal â lleihau'r effeithiau cronnol ar gynefinoedd a rhywogaethau sy'n agored i niwed, a darparu mwy o sicrwydd i ddatblygwyr yn hirdymor.
Rwy'n croesawu'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor a hoffwn hefyd ategu rhai o argymhellion ychwanegol y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Mae'r rheini'n cynnwys adolygiad o gynllun morol cenedlaethol Cymru, gan ystyried yr angen am gynllun datblygu morol statudol i ategu'r ymdrechion presennol gan Lywodraeth Cymru i weithredu dull mwy cyfannol. At hynny, rhaid i'r archwiliad dwfn ystyried effeithiau gweithgareddau dynol ar yr amgylchedd morol ac ystyried y rhyngweithio rhwng pob elfen o raglen waith forol Llywodraeth Cymru, er enghraifft pysgota a chynllunio morol, a pheidio ag adrodd ar yr elfennau hyn ar wahân. Ac yn olaf, mae angen i Lywodraeth Cymru gyflawni strategaeth ardaloedd morol gwarchodedig a ddylai gynnwys camau rheoli clir ar gyfer y rhwydwaith presennol a lle bo'n ymarferol, unrhyw safleoedd a ystyrir ym mhroses y parthau cadwraeth morol sydd ar y ffordd.
Ac un pwynt olaf cyn imi ddirwyn i ben, Ddirprwy Lywydd: ni allwn fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd oni bai bod gennym amgylchedd morol iach. Mae hynny'n golygu dod o hyd i ffyrdd glanach o gynhyrchu ynni, peidio â llygru'r amgylchedd morol, a diogelu ei fioamrywiaeth. Daeth pob bywyd o'r môr, ond ni all bywyd ffynnu hebddo. Unwaith eto, diolch i'r pwyllgor am ei waith ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld lle bydd y Llywodraeth yn mynd â hyn.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i aelodau'r pwyllgor ac yn enwedig i'r Cadeirydd am yr adolygiad a'r ffocws diweddar ar yr amgylchedd morol, gan gydnabod yn llwyr y rôl hanfodol y mae'n ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Ac os caf ddweud, Llyr, rwy'n credu eich bod wedi gwneud gwaith anhygoel o fynd drwy'r hyn a wnaethoch mewn amser byr, ac mae wedi bod yn werthfawr iawn i ni fod y pwyllgor yn gwneud y gwaith hwnnw i ni. Gallant gasglu llawer o dystiolaeth a fydd yn helpu i lywio ein proses. Felly, rwy'n wirioneddol ddiolchgar am waith y pwyllgor.
Yn amlwg, mae ein moroedd yn ased naturiol amhrisiadwy, ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i foroedd sy'n lân, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau. Fel y mae pob Aelod wedi'i ddweud, mae moroedd iach yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, ac rwy'n croesawu'r adroddiad hwn a'r ddadl a gawn heddiw.
Er gwaethaf siom amlwg Llyr, roedd ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yn bendant yn ceisio adlewyrchu'r un ysbryd cadarnhaol ag y gwnaethom dderbyn yr adroddiad ynddo, a'n hymrwymiad i barhau i ddatblygu ein polisïau morol a chryfhau ein dull o weithredu. Tynnodd y pwyllgor sylw at y potensial cynyddol ar gyfer ynni adnewyddadwy morol yn enwedig, ac mae llawer o'r Aelodau wedi tynnu sylw ato, ac rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn bwysig iawn cael y cydbwysedd perffaith hwnnw rhwng datblygu a chadwraeth a sicrhau bod yr holl ddatblygiadau yn y môr yn addas i'r diben ac yn gwella bioamrywiaeth a'r amgylchedd y maent ynddo, lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Felly, rwy'n hollol—[Torri ar draws.]—yn sicr, Huw.
Ar nodyn cadarnhaol, a gaf fi ddweud o ddifrif ein bod ymhell iawn o lle roeddem 12 neu 15 mlynedd yn ôl? Mae'r holl bethau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn bellach ar waith gennym ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arnynt—y cynlluniau morol, yr uchelgais i ddarparu parthau cadwraeth morol, i daro'r cydbwysedd priodol ar gyfer datblygu'r dystiolaeth ac yn y blaen. Felly, mae nodyn cadarnhaol yno, ond a fyddai'n cytuno â mi mai dyma'r adeg, mewn gwirionedd, a ninnau'n wynebu'r argyfwng costau byw, gyda phrisiau cynyddol, pan fo angen inni ymdrin ag ynni adnewyddadwy, a hefyd argyfwng bioamrywiaeth ac argyfwng hinsawdd—dyma'r adeg y gallai Cymru fod yn arweinydd mewn gwirionedd, cymryd yr holl bethau hynny sydd wedi bod ar waith gennym ers degawd a'u gwreiddio go iawn, a dangos i'r DU beth y gallwn ei wneud yma yng Nghymru mewn gwirionedd?
Ni wnaf osgoi'r cyfle i wneud hynny byth, Huw, felly rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu gwneud hynny.
Gan grwydro o fy sgript am eiliad, roeddwn yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig y bore yma am y grid a rhwydwaith ynni Cymru, ac un o'r rhwystredigaethau gwirioneddol i ni yw nad yw'r holl ddulliau sydd eu hangen arnom yn ein dwylo ni. Felly, annog Llywodraeth y DU i weithio gyda'n gweithredwyr rhwydwaith dosbarthu, yn enwedig y gweithredwyr trosglwyddo ynni, i gyfieithu'r jargon, i wneud yn siŵr fod yr ynni sy'n dod o'r môr Celtaidd, er enghraifft, yn dod i'r tir yn y ffordd gywir, yn gwella ein cymunedau arfordirol ac yna'n ein helpu gyda'n rhwydwaith ynni drwy Gymru. Bydd yn gwbl ganolog i hynny, felly rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a chydag Ystad y Goron.
Roeddwn yn gwneud y pwynt eto y bore yma am yr angen i ddatganoli Ystad y Goron er mwyn cael y dulliau ar waith inni allu sicrhau bod y cydbwysedd hwnnw gennym mewn perthynas â chynllunio. Felly, gofynnodd y pwyllgor imi y bore yma a oedd yn ymwneud â'r refeniw, a dywedais, 'Wel, wrth gwrs, byddai'r refeniw'n hyfryd', ond mewn gwirionedd mae'n ymwneud lawer mwy â chael rheolaeth dros y dulliau cynllunio i allu sicrhau bod y rowndiau lesio a thrwyddedu yn hollol iawn i Gymru yn yr union le iawn, yn yr union ffordd gywir. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n ymyriad pwysig, Huw, i ganiatáu imi wneud y pwynt hwnnw.
I ddychwelyd at fy sgript, fel y mae pawb wedi'i gydnabod wrth gwrs, mae gennym gynllun morol cenedlaethol Cymru, a dyma'r tro cyntaf—fe'i cyflwynais yn 2019—i ni fod â'r fframwaith polisi strategol hwnnw i lywio'r gwaith o reoli ein moroedd yn gynaliadwy. Rwy'n cytuno â phawb sydd wedi nodi'r angen am gynllun gofodol i Gymru ar gyfer y moroedd. Bydd pawb yn gwybod fy mod yn hoff iawn o gynlluniau gofodol ar gyfer tir, ac nid yw'r môr yn eithriad. Mae'r ffaith na allwn weld beth sy'n digwydd oddi tano'n golygu ei bod yn bwysicach fyth fod gennym y math hwnnw o gynllun strategol.
Felly, mae'r cynllun yn gosod fframwaith ar gyfer datblygu sy'n parchu'r amgylchedd a gweithgarwch sydd eisoes wedi'i sefydlu ac mae'n gosod agenda i sicrhau budd parhaol o'r cyfleoedd. Mae ein ffocws ar weithredu'r cynllun ac yn ddiweddarach eleni, byddaf yn cyflwyno'r adroddiad blynyddol tair blynedd cyntaf ar berfformiad y cynllun. Er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o leisiau'n cael eu clywed, rydym wrthi'n cynnal arolwg rhanddeiliaid i lywio'r adroddiad sy'n adrodd ar y cynllun ar gyfer y tair blynedd gyntaf. Yn amlwg, mae wedi bod yn dair blynedd ryfedd iawn, gyda'r pandemig a phopeth arall, felly rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu adeiladu ar hynny.
Bydd mabwysiadu'r dull gofodol hwnnw o gynllunio morol, gan gynnwys nodi ardaloedd adnoddau strategol, yn helpu i lywio'r datblygiad cywir i'r lle cywir, gan gefnogi ein huchelgais ar gyfer bioamrywiaeth forol ffyniannus ochr yn ochr â'r ffynonellau ynni adnewyddadwy hynny. Ac fel y dywedodd pawb, mae'r brys i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn glir; nid oes neb yn dadlau ynghylch hynny. Mae'r archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy wedi ailbwysleisio ein hymrwymiad i ddatblygu ynni morol adnewyddadwy cynaliadwy.
Rwyf newydd ddechrau'r archwiliad dwfn i fioamrywiaeth a fydd yn edrych ar yr hyn y mae diogelu'n ei olygu—felly, y pwynt a wnaeth Joyce Watson am yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd, 'parth diogelwch morol' neu 'barth cadwraeth morol' neu 'ardal forol warchodedig iawn'? Beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd? A yw hynny'n golygu y gallwch ac na allwch wneud pethau penodol ynddynt? Beth y mae'n ei olygu ar gyfer treillrwydo môr-waelodol ac yn y blaen? Felly, bydd yr adolygiad yn fy helpu i ddod i rai casgliadau ar hynny. Yn amlwg, bydd angen inni ddod â'n rhanddeiliaid gyda ni. Rydym wedi rhoi cynnig arni o'r blaen; ni wnaethom lwyddo i'w gael yn iawn o gwbl y tro diwethaf. Mae'n bwysig bod y cymunedau hynny'n rhan o hyn ac mae'n bwysig sicrhau eu bod yn ei ddeall.
Diolch am ildio. Yn gryno iawn—mae'n ddadl go iawn yma—dau beth: un yw, wrth ddod â rhanddeiliaid gyda chi, peidiwch â bod ofn bod yn radical hefyd. Mae mater Lyme Bay yn un eithaf addysgiadol. Cafodd ei wrthwynebu'n llwyr, ond arweiniodd at adfer byd natur ar raddfa aruthrol, ac mae'r pysgotwyr bellach yn ei hoffi oherwydd yr hyn y mae wedi'i wneud. Felly, peidiwch ag ofni gwneud hynny wrth ddod â rhanddeiliaid gyda chi.
Nid wyf yn enwog am ofni'r math yna o beth, Huw. [Chwerthin.] Felly, nid wyf yn credu fy mod am ddechrau yn awr.
Yr hyn rwy'n ei olygu wrth ddweud 'dod â hwy gyda ni' yw sicrhau bod pawb yn deall goblygiadau'r hyn rydym yn ei gynnig yn iawn, ac nad ydynt yn eu hystyried yn rhywbeth negyddol i ymladd yn ei erbyn, ond yn rhywbeth i'w gefnogi er mwyn gwella eu statws economaidd eu hunain a'u hangen penodol eu hunain i sicrhau bod y moroedd a'u cymunedau arfordirol yn y cyflwr yr hoffai pob un ohonom iddynt fod. Felly, rwy'n siŵr y gallwn gael cefnogaeth y rhanddeiliaid hynny. Nid pysgotwyr yn unig ychwaith; mae angen inni siarad â llawer o bobl eraill. Mae llawer o bysgotwyr yn gwerthfawrogi hyn yn llwyr.
Ac yna, i gyflymu, gan fod y Dirprwy Lywydd yn mynd i dorri ar fy nhraws yn fy anterth fel arall, mae digwyddiadau yn Wcráin yn amlwg wedi atgyfnerthu'r angen am gyflenwad ynni cadarn, ac mae ynni gwyrdd yn amlwg yn rhan hynod bwysig o hynny. Roeddwn yn falch iawn fod y pwyllgor wedi cydnabod ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r rhwystrau i’r datblygiad hwnnw.
Rydym hefyd yn comisiynu adolygiad annibynnol o'r broses drwyddedu morol, fel rhan o'r archwiliad dwfn dilynol, i wella profiad y cwsmer, gan sicrhau bod y gwaith yn mynd rhagddo mor effeithiol â phosibl, ei fod yn hyblyg ar gyfer y galw yn y dyfodol. Mae'r adolygiad wedi dechrau. Mae rhan o'r adolygiad hwnnw'n ymwneud â sicrhau, wrth ddefnyddio ynni’r môr, ein bod yn anfon camerâu ac ati allan i gasglu'r data sydd ei angen arnom yn y fan a'r lle fel y gallwn barhau i ailgyflenwi ein ffynhonnell ddata, yn hytrach nag aros tan y bydd y data gennym cyn gallu gwneud unrhyw beth. Felly, rwy’n awyddus iawn i wneud hynny; rwy'n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau wrth i hynny fynd rhagddo.
Bydd yr adolygiad nesaf o'r strategaeth tystiolaeth forol yn nodi sut y gallwn weithio hyd yn oed yn agosach gyda’r diwydiant i wneud y mathau hynny o ddarpariaethau'n rhan bendant o’r gyfundrefn drwyddedu, a sicrhau bod y dystiolaeth bresennol yn cael ei gwella drwy rannu data. Tynnodd Huw Irranca a nifer o Aelodau eraill sylw at yr angen i rannu data yn y ffordd honno drwy gydol y gwaith. Mae’r dystiolaeth gadarn honno’n hollbwysig i’r penderfyniadau polisi a'r strategaethau a gynlluniwyd gennym, ac rwy’n derbyn yn llwyr fod angen gweithredu i wella’r sylfaen dystiolaeth honno. Er eglurder, Llyr, rydym yn derbyn hynny'n llwyr. Nid ydym yn hunanfodlon mewn unrhyw ffordd. Rydym yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i nodi a llenwi'r bylchau yn y dystiolaeth y gwyddom eu bod yn bodoli.
Mae gennym fframweithiau hirdymor ar waith ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig—139 ohonynt; 50 y cant o holl ddyfroedd Cymru. Mae rhaglen rhwydweithiau natur a strategaeth forol y DU yn arfau pwysig ar gyfer deall hyn hefyd. Ond fel y nododd Joyce Watson ac eraill: beth y mae hynny'n ei olygu? Bydd yr archwiliad dwfn yn edrych ar hynny gyda mi: beth y mae'n ei olygu, 'ardal forol warchodedig'? Beth y gallwch ei wneud a beth na allwch ei wneud?
Rwyf hefyd yn cynnal yr archwiliad dwfn cyffredinol. Dylai 30 y cant o'n tir a'n môr fod mewn cyflwr da erbyn 2030. Cawsom drafodaeth ar hynny a gychwynnwyd gan Delyth yn ystod y cwestiynau yn gynharach, a chredaf fod pob un ohonom o'r un farn mewn perthynas â hynny.
Rydym yn cefnogi rhwydwaith yr ardaloedd morol gwarchodedig gyda chynllun grant a gefnogir gan fframwaith rheoli, sy’n cynnwys potensial carbon glas, newid hinsawdd ar nodweddion gwarchodedig ac ap dwyieithog o’r enw Crwydro Arfordir Cymru i lywio a helpu i gynllunio ymweliadau â’r amgylchedd morol. Rwyf hefyd wedi dyrannu cyllideb i ariannu pum cam gweithredu eleni, gan gynnwys datblygu rhaglenni gwyddoniaeth dinasyddion i helpu i nodi rhywogaethau anfrodorol a gwaith ymchwil pellach i ddeall y pwysau y mae'r rhwydwaith yn ei wynebu, yn enwedig sbwriel môr, ac yn enwedig llygredd plastig. Rwy'n gobeithio bod llawer ohonoch yn cymryd rhan yn y Big Plastic Count sydd ar y gweill ar hyn o bryd—yn sicr, rwy'n cymryd rhan. Rydym am fod—. Yn dilyn llwyddiant y flwyddyn gyntaf o gasglu deunydd i'w ailgylchu—1.2 tunnell o offer pysgota a gyrhaeddodd ddiwedd ei oes; llwyddiant ysgubol—rydym am barhau â’r cynllun hwnnw a’i ymestyn i holl borthladdoedd Cymru cyn gynted ag y gallwn. Mae'n lleihau'r risg y gallai offer sy'n cael ei golli ar y môr wneud niwed i'r amgylchedd, ac mae pob un ohonom wedi gweld y ffotograffau ofnadwy o fywyd gwyllt wedi'i mynd yn sownd mewn offer.
Rydym yn cytuno’n llwyr hefyd ein bod am gyflymu’r adolygiad o dreillrwydo môr-waelodol, fel y’i gelwir. Mae hynny'n amlwg yn hollbwysig ac nid wyf yn gohirio hynny o gwbl; rwy’n sicr yn gweld yr angen am hynny. A bydd hynny'n rhan o'r cwestiwn ynglŷn â beth y gallwch neu beth na allwch ei wneud mewn darnau penodol o'r môr ac ati. Byddwn hefyd yn nodi uchelgeisiau ar gyfer proses o ddynodi parthau cadwraeth morol fel rhan o rwydwaith yr ardaloedd morol gwarchodedig—unwaith eto, beth y mae hynny'n ei olygu, sut y mae'n gwella cadernid?
Ac yna, gan droi, yn olaf, Ddirprwy Lywydd—gwn fy mod yn profi eich amynedd—
[Anghlywadwy.]—ond rwy'n dymuno cadw at yr amseroedd.
Rwy'n gwybod; mae hynny'n iawn. Rwy’n parablu nawr, ond trof at y darn olaf, sef y darn sy'n ymwneud â charbon glas, fel y nododd Joyce Watson. Mae honno'n rôl hynod bwysig yn ein taith i gyrraedd sero net. Rydym yn cydnabod yr angen i warchod ac adfer glaswellt y môr, morfeydd heli a chynefinoedd. Mae'r archwiliad dwfn o fioamrywiaeth yn cynnwys Athro o Brifysgol Abertawe ar laswellt y môr am y rheswm penodol hwnnw, ac rydym yn cyflymu hynny yn gyffredinol.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd—a diolch am eich amynedd—rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor yn fawr. Gallaf eich sicrhau nad ydym yn llusgo ein traed, rydym yn gweithio mor gyflym â phosibl, ac rwy'n croesawu'r argymhellion yn fawr, ac edrychwn ymlaen at adrodd yn ôl arnynt wrth inni eu rhoi ar waith.
Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wnaf i ddim ailadrodd y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud, dim ond diolch i'r Gweinidog ac i bawb arall, wrth gwrs, am eu cyfraniadau. Dwi'n meddwl bod natur y drafodaeth yn adlewyrchu pa mor eang oedd y meysydd wnaeth yr ymchwiliad byr yma geisio mynd i'r afael â nhw ac, yn amlwg, hefyd, pa mor eang yw'r gwaith sydd angen ei gyflawni gennym ni fel pwyllgor, a'r Llywodraeth, wrth gwrs, yn y cyd-destun hwnnw.
Jest cwpwl o bwyntiau, efallai, godwyd na wnes i gyffwrdd â nhw yn fy nghyflwyniad. Yn amlwg, mae Ystad y Goron yn allweddol. Mae yna rôl gwbl, gwbl ganolog yn fanna, a dwi'n falch o weld bod y Llywodraeth nawr ar yr un dudalen â nifer ohonom ni pan fo'n dod i ddatganoli rhai o'r grymoedd yna. Dwi'n gwybod mai barn fwyafrifol yn y pwyllgor, efallai, fyddai hynny, ond yn sicr mae e'n gyfle inni weld gwahaniaeth gwirioneddol. A dwi'n edrych ymlaen at groesawu prif weithredwr newydd Ystad y Goron yma i'r Senedd yr wythnos nesaf, a fydd yn gyfle inni, gobeithio, ddatblygu rhai o'r pwyntiau a'r trafodaethau yma.
O ran treillrwydo môr-waelodol, unwaith eto, cododd nifer o'r Aelodau hynny, a chredaf ei fod yn rhywbeth y buom yn ceisio mynd i'r afael ag ef ers amser maith, a byddai'n well gan bob un ohonom pe baem wedi gwneud mwy o gynnydd nag a wnaethom. Rwy'n falch o glywed bod y Gweinidog wedi addo newid gêr mewn perthynas â gêr llusg a threillrwydo môr-waelodol, felly gadewch inni symud mor gyflym ag y gallwn ar hynny. Mae Joyce Watson yn llygad ei lle: bum mlynedd ar ôl adroddiad y pwyllgor blaenorol ar bolisïau morol, nid oes unrhyw beth wedi newid, a dweud y gwir, neu o leiaf, rydym yn dal i aros i’r argymhellion gael sylw go iawn.
Mae’r agenda carbon glas yn agenda enfawr, sy’n hollbwysig o ran cloi carbon—yn fwy felly na storfeydd carbon daearol. Mae llawer o gynlluniau newydd ledled Cymru sy’n haeddu ein cefnogaeth yn fy marn i, ac yn sicr, maent yn haeddu mwy o sylw gennym fel pwyllgor, a gobeithio bod hwnnw'n un o'r meysydd y byddwn yn dewis eu harchwilio'n fanwl.
Mae'n debyg ei bod yn anochel fod hyrwyddwyr rhywogaethau yn codi yn y ddadl hon. Ac er gwybodaeth, fi yw'r—. A wyf i ar frig neu ar waelod eich cadwyn fwyd? Nid wyf byth yn cofio. Ond heb y llymrïen, ni fyddai gennym yr heulgi, iawn. Felly, cadwch hynny mewn cof. [Torri ar draws.] O, ie. Wel, yr wystrysen yw un y Gweinidog. Dyna ni. Iawn.
Gadewch i'r eog fod.
Ie. A gadewch i'r eog fod. Da iawn, da iawn.
A chredaf fod y pwynt ynglŷn â chynllunio gofodol yn bwysig—cynllunio gofodol daearol, ac yna mae gennym gynllunio gofodol morol. Wel, yn sicr, ni ddylai fod datgysylltiad rhwng y ddau beth hynny ychwaith. Mae arnom angen y cynllunio gofodol di-dor hwnnw ar gyfer cynllunio daearol a morol, yn fy marn i. Yn sicr, credaf fod angen defnyddio'r gwaith a welwn yn cyflymu ar hyn o bryd o ran datblygu ynni adnewyddadwy i gyfoethogi ein data, er mwyn llenwi rhywfaint o'r bylchau yn y dystiolaeth.
Felly, mae'r adroddiad hwn, fel y dywedais, yn fan cychwyn. Mae'n gipolwg o lle rydym arni. Mae'n gipolwg, yn fy marn i, o'r hyn y gŵyr pob un ohonom fod angen ei wneud, ond pe bawn yn crynhoi ein neges yn syml i'r Llywodraeth, 'Dewch yn eich blaenau' fyddai'r neges honno.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.