Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 18 Mai 2022.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn wir am y cyfle i drafod cynnwys adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru, oherwydd, yn gynnar yn ystod y Senedd yma, fe gytunodd y pwyllgor y dylai polisïau morol fod yn faes blaenoriaeth i ni yn ein gwaith dros y blynyddoedd nesaf yma. Y bwriad oedd i'r ymchwiliad byr yma fod yn rhywbeth cychwynnol, yn rhyw fath o gipolwg ar y sefyllfa bresennol o ran y polisïau morol sydd gennym ni yng Nghymru. Ac er nad oedd gennym ni lawer o amser i gymryd y cipolwg cychwynnol yma, fe lwyddon ni, mae'n rhaid imi ddweud, i ymdrin â nifer fawr o bynciau. Ac mae'r pwyllgor, wrth gwrs, yn ddiolchgar i'r holl randdeiliaid a gyfrannodd at ein gwaith ni, ac i RSPB Cymru a'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn arbennig am roi rhagor o wybodaeth inni hefyd cyn y ddadl yma y prynhawn yma.
Nawr, mae arfordir Cymru, wrth gwrs, dros 2,000 km o hyd, llawer ohono fe'n destun cenfigen i'r byd i gyd yn grwn. Mae'n creu cyfleoedd ynni morol enfawr inni—digon i'n helpu i gyrraedd ein targedau datgarboneiddio—ac mae hyn yn ei dro yn gallu arwain at swyddi, twf economaidd ac adfywio ein cymunedau arfordirol—rhai o'r cymunedau hynny, wrth gwrs, sydd angen ein cymorth ni fel ag y mae pethau erbyn heddiw.
Ac mae ein hamgylchedd morol ni hefyd yn gartref i rai o'r cynefinoedd a'r rhywogaethau mwyaf amrywiol a phwysig sydd gennym ni yn Ewrop, ac mae hynny hefyd yn rhywbeth i'w werthfawrogi ac i'w warchod ar yr un pryd. A thema allweddol ein hadroddiad ni oedd, wrth gwrs, y cydbwysedd rhwng y ddwy flaenoriaeth yma. Rŷn ni yn croesawu cynigion i gynyddu datblygiadau ynni morol dros y ddegawd nesaf, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod y cydbwysedd priodol yn cael ei daro rhwng y datblygiadau hynny a'r elfen o gadwraeth ac amddiffyn yr hyn sydd gennym ni o safbwynt ecosystemau morol a bioamrywiaeth.
Mae ein hadroddiad hi'n dechrau drwy ganolbwyntio ar gynllunio morol. Nawr, ar hyn o bryd, yng Nghymru, mae gennyn ni gynllun morol cenedlaethol, ac fe ddywedodd y cyrff anllywodraethol amgylcheddol wrthym mai un o brif anfanteision y cynllun hwn yw nad yw e yn gynllun gofodol. Ac oherwydd hyn, dyw e ddim yn nodi, er enghraifft, ble y dylid lleoli datblygiadau na faint o ddatblygiadau fyddai yn gynaliadwy. Dyw e ddim yn caniatáu i ni ystyried effaith gronnol—cumulative impact—datblygiadau ar yr amgylchedd morol.
Roedd rhanddeiliaid o'r sector ynni adnewyddadwy yn credu'n gryf fod yn rhaid i'r degawd nesaf ganolbwyntio ar roi cynlluniau ar waith yn hytrach nag ailgynllunio strategaethau. Roedden nhw'n pryderu y byddai polisi newydd neu efallai dull newydd o weithredu yn arwain at ragor o oedi. Ar ôl ystyried y ddwy ddadl a'r ddau bersbectif yma, mae'r pwyllgor wedi dod i'r casgliad mai'r ymateb gorau yn y lle cyntaf fyddai i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad allanol o gynllun morol cenedlaethol Cymru. Dyma'r amser i ystyried a fydd y cynlluniau a'r strategaethau sydd yn eu lle ar hyn o bryd yn parhau i fod yn addas i'r diben yng ngoleuni'r cynnydd disgwyliedig rŷn ni'n ei weld, ac yn ei ragweld, mewn datblygiadau morol.
Er bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor—ac mae gen i broblem weithiau efo derbyn pethau mewn egwyddor, achos dwi ddim wastad yn deall yn iawn beth mae hynny'n ei feddwl—rwy’n siomedig bod ei hymateb yn dangos na fydd dadansoddiad allanol yn cael ei gomisiynu ar gyfer yr adolygiad eleni, ond ar gyfer yr adolygiad nesaf, ond dyw hynny ddim yn cael ei gynnal tan 2025. Felly, Weinidog, mae hwn yn gyfle yn fy marn i sydd wedi’i golli, ac mae'n golygu na welwn ni'r newidiadau angenrheidiol am flynyddoedd eto i ddod.