5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:37, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Ie. A gadewch i'r eog fod. Da iawn, da iawn.

A chredaf fod y pwynt ynglŷn â chynllunio gofodol yn bwysig—cynllunio gofodol daearol, ac yna mae gennym gynllunio gofodol morol. Wel, yn sicr, ni ddylai fod datgysylltiad rhwng y ddau beth hynny ychwaith. Mae arnom angen y cynllunio gofodol di-dor hwnnw ar gyfer cynllunio daearol a morol, yn fy marn i. Yn sicr, credaf fod angen defnyddio'r gwaith a welwn yn cyflymu ar hyn o bryd o ran datblygu ynni adnewyddadwy i gyfoethogi ein data, er mwyn llenwi rhywfaint o'r bylchau yn y dystiolaeth.

Felly, mae'r adroddiad hwn, fel y dywedais, yn fan cychwyn. Mae'n gipolwg o lle rydym arni. Mae'n gipolwg, yn fy marn i, o'r hyn y gŵyr pob un ohonom fod angen ei wneud, ond pe bawn yn crynhoi ein neges yn syml i'r Llywodraeth, 'Dewch yn eich blaenau' fyddai'r neges honno.