Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 18 Mai 2022.
Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar rywbeth y mae Sioned Williams wedi’i grybwyll: normaleiddio poen i fenywod mewn gweithdrefnau meddygol a’r ffyrdd y mae merched a menywod yn cael eu magu i ddisgwyl a goddef anghysur yn rhan o’u bywydau bob dydd. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf efallai, pan fydd menywod yn cwyno am boen, fel y clywsom, yw y ceir digonedd o ymchwil i awgrymu eu bod yn cael eu hanwybyddu fel mater o drefn, neu nad ydynt yn cael eu cymryd o ddifrif i'r un graddau â dynion mewn lleoliadau meddygol. Ym mis Ionawr, cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod drafodaeth am brofiadau o boen mewn lleoliadau gynaecolegol i gleifion allanol, a chlywsom straeon gwirioneddol frawychus, Lywydd, ynglŷn â sut y mae rhai menywod yn teimlo na allant gwyno pan fyddant mewn poen. Clywsom am anfodlonrwydd ymhlith rhai ymarferwyr i ddarparu cyffuriau lleddfu poen ar raddfa ehangach ac am ddatgysylltiad rhwng cleifion a chlinigwyr yn y ffordd y maent yn amcangyfrif poen.
Ar y cwestiwn ynglŷn â sut rydym yn amcangyfrif poen, ymddengys bod y datgysylltiad yn deillio o'r ffaith bod menywod a merched yn cael clywed yn aml iawn y bydd lefel yr anghysur yn debyg i boen mislif, ac mae problem fawr yn hynny o beth gan y bydd poen mislif yn dra gwahanol i wahanol unigolion, a bydd y dybiaeth fod poen mislif yn gyson yn golygu bod rhai clinigwyr naill ai’n rhoi disgwyliad afrealistig o isel i gleifion ynglŷn â'r math o boen y dylent ei disgwyl, neu nid ydynt yn deall sut y mae cyrff rhai menywod yn gweithio. A pham y dylid disgwyl i fenywod oddef poen tebyg i boen mislif fel mater o drefn? Pam y dylid cael rhagdybiaeth y bydd menywod yn gallu goddef mwy o boen am eu bod yn geni plant? Pam y dylai hynny fod yn normal?
Mae ein cynnig yn sôn am gost iechyd menywod. Mae'r gost ariannol wedi'i hailadrodd lawer gwaith: eitemau ar gyfer y mislif yn cael eu trethu fel pethau moethus tan yn ofnadwy o ddiweddar; meddyginiaeth lleddfu poen dros y cownter. Ond unwaith eto, beth am iechyd meddwl? Mae wedi'i grybwyll eisoes, effaith y methiant i gydnabod problemau iechyd menywod ar iechyd meddwl, cost cynnal tabŵ i gymdeithas ac i’r economi, llen o gywilydd wrth sôn am rai cyflyrau. Faint o fenywod sy'n teimlo na allant ddweud wrth eu cyflogwr na allant fynd i'r gwaith am fod eu poen mislif yn wanychol? Faint o fenywod sy'n dioddef yn dawel neu'n methu dweud wrth eu cydweithwyr eu bod wedi cael camesgoriad a bod angen amser i ffwrdd arnynt i ymdopi? Faint o fenywod sy'n cael eu galw gan yr adran adnoddau dynol i egluro pam fod eu cofnod salwch mor hir, pan fyddant, mewn gwirionedd, yn mynd drwy'r menopos? Mae cymdeithas yn normaleiddio poen menywod ac yn disgwyl i ni ei anwybyddu, peidio â sôn amdano, ei ystyried yn amhriodol ar gyfer sgwrs gwrtais. Mae hynny'n anghyfiawnder dwbl, yn anaf dwysach ac yn gamwedd ar fenywod.
Nawr, mae ymchwil yn awgrymu bod menywod sydd mewn poen acíwt yn mynd yn hirach heb gael eu trin mewn ysbytai na dynion sy'n dioddef o gyflyrau tebyg. Maent hefyd, fel y clywsom, yn fwy tebygol o gael diagnosis anghywir o broblemau iechyd meddwl a chael meddyginiaeth gwrth-bryder yn hytrach na bod eu poen neu achos y boen yn cael ei drin. Mae'r duedd i ddiystyru poen menywod wedi'i gwreiddio mewn rhagfarn sy'n ganrifoedd oed. Mae’r geiriau am hysterectomi a hysteria yn dod o'r un gwreiddyn, a’r syniad canoloesol hwn fod menywod wedi mynd yn wallgof neu’n ddryslyd oherwydd eu crothau, sy'n dal atseinio heddiw—rhagfarn hynafol, hen ffasiwn sy'n cael ei chynnal gan arferion meddygol modern.
Mae cyflyrau poen cronig sy'n effeithio ar fenywod, fel ffibromyalgia ac endometriosis, yn cael eu trin â diffyg difrifoldeb a brys. Mae menywod yn aros yn hirach i gael meddyginiaeth lleddfu poen; maent yn wynebu amseroedd aros hirach cyn cael diagnosis o ganser; maent yn llai tebygol o gael triniaeth adfywio cardio-pwlmonaidd am fod eu symptomau'n cael eu hanwybyddu neu eu diystyru mor aml. Ac nid rhagfarn wybyddol yn unig yr ydym yn brwydro yn ei herbyn, ond y ffaith bod gwerslyfrau'n tueddu i ganolbwyntio ar anatomeg wrywaidd. Mae’r norm yn wrywaidd bob amser, ac nid oes digon o gyllid yn cael ei roi tuag at y cyflyrau sy’n effeithio ar fenywod. Mae'r methiannau hyn, Lywydd, yn arwain at niferoedd annerbyniol o fenywod yn marw, a chyn hynny, niferoedd ofnadwy o uchel o fenywod yn meddwl bod lefel y boen y maent yn ei dioddef yn normal pan nad yw'n normal. Dyna gost diffyg sylw i iechyd menywod: gallwch ei gyfrif mewn cyrff neu bresgripsiynau.
Felly, i gloi, Lywydd, yn hytrach na normaleiddio poen menywod, dylem fod yn normaleiddio siarad am y ffordd yr ydym yn profi poen, yn siarad am gyflyrau gynaecolegol, yn gwella hyfforddiant, gan fod yn rhaid cau’r bwlch poen hwn rhwng y rhywiau unwaith ac am byth.