Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 18 Mai 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch am bob cyfraniad i'r ddadl bwysig yma heddiw ac am ymateb y Gweinidog. Mae hwn yn faes sydd wedi cael ei esgeuluso yn llawer, llawer rhy hir, ac mae'n rhyfeddol ei fod o wedi cael ei esgeuluso mor hir. Mae yna, dwi'n meddwl, ryw fath o ddeffroad wedi bod—a dwi ddim yn sôn am Gymru'n benodol yn y fan yna, ond yn fwy cyffredinol. Dwi'n nodi'r gwaith yn Lloegr, er enghraifft, ar y strategaeth iechyd i ferched, sydd wedi cael ei chroesawu yno. Rydyn ni fel y pwyllgor iechyd, fel rydyn ni wedi clywed yn barod, yn gwneud gwaith yn y maes yma, a dwi'n ddiolchgar i Joyce Watson am ei bod wedi gwthio i sicrhau bod hynny yn digwydd. Yma yng Nghymru, rydyn ni wedi clywed y Gweinidog heddiw yn sôn am yr ystod o gamau mae hi'n bwriadu eu cymryd. Rydyn ni'n gweld yng ngwelliant y Llywodraeth y cyfeiriad at y datganiad ansawdd a'r cynllun NHS sydd i ddod. Mi gafon ni, os gwnes i glywed yn iawn gan Aelod sydd wedi gadael y Siambr erbyn hyn, ein cyhuddo o 'grandstand-o'. Roeddwn i'n gobeithio gofyn iddi hi egluro ai dyna ddywedodd hi, ond dydy hi ddim yma i wneud hynny.
Dwi'n deall bod Senedd.tv wedi 'crash-o' y prynhawn yma, bosib iawn oherwydd bod yna gymaint o bobl yn gwylio'r sesiwn yma—mor bwysig ydy hyn. A'r gwir amdani ydy, dydy clywed geiriau gan y Gweinidog ynddo fo'i hun ddim yn ddigon. Dwi'n croesawu'r geiriau, ond beth sy'n bwysig ydy beth sy'n mynd i fod yn digwydd o hyn ymlaen.
Mi oedd yr Aelod, eto sy'n absennol, wedi awgrymu bod ein dadl ni heddiw ddim yn amserol oherwydd bod y Gweinidog wedi gwneud sylwadau yn ddiweddar ynglŷn â'r cynlluniau mae'n mynd i'w datblygu. Ond ydych chi'n gwybod beth? Mi wnaf i fanteisio, mi wnawn ni i gyd fanteisio, ar y negeseuon positif yna. Mae yna Weinidogion Llafur mewn lle ers 1999, felly allwch chi ddim gweld bai arnom ni am amau beth sy'n digwydd dan law Gweinidogion yn y fan hyn. Ond beth sy'n bwysig i mi ydy mai dyma'r union gyfle felly i wthio ar Weinidog sy'n dweud ei bod hi'n benderfynol o wneud gwahaniaeth yn y maes yma. Dwi'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog â chyfrifoldeb dros iechyd meddwl yn frwd iawn dros wneud gwahaniaeth yn y maes hwnnw, a dyna pam fy mod i'n gwthio mor galed arni hi i'w wneud, achos dwi'n gweld bod yna ddrws agored yno. Mae i fyny i chi, fel Llywodraeth, brofi bod eich geiriau chi yn eiriau sy'n gallu cael eu troi'n realiti.
Mae yna gymaint o elfennau i hyn dŷn ni wedi'u trafod a chlywed amdanyn nhw. Mae gennym ni'r afiechydon sy'n effeithio ar ferched yn unig, a lle mae yna wendid dirfawr wedi bod mewn ymchwil ac mewn buddsoddiad—endometriosis rŷn ni wedi clywed amdano fo'n barod, sy'n golygu bod cymaint o ferched yn byw mewn poen bob dydd. A dydyn ni ddim hyd yn oed wedi rhoi'r parch iddyn nhw o fuddsoddi yn yr ymchwil a all ganfod beth yn union sy'n achosi hyn er mwyn gallu gwneud buddsoddiad mewn canfod ffordd o drin endometriosis.
Mae yna sylw dŷn ni'n gallu rhoi ar gefnogaeth i ferched sydd yn mynd drwy'r menopos: hanner ein poblogaeth ni—hanner ein poblogaeth ni—yn mynd drwy'r menopos. A tan yn ddiweddar iawn, doedd yna brin sôn amdano fo, ac ar y gorau, ar y gorau, mae'r ddarpariaeth sydd ar gael yng Nghymru yn anghyson—mae hynny'n bod yn garedig. Mae yna ferched ym mhob cwr o Gymru sy'n methu â chael y gofal maen nhw ei angen.
Mae tair o bob pedair merch feichiog yn cymryd rhyw fath o feddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd—lle mae'r ymchwil ar ganfod beth sydd yn ddiogel i'w cymryd fel meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd a thra'n bwydo o'r fron? Mae angen buddsoddi yn hynny.
Dyna chi rai materion sy'n gwbl benodol i ferched. Ond wedyn mae gennych chi'r materion hynny sy'n berthnasol i'r boblogaeth gyfan ond lle mae yna impact mwy ar ferched, oherwydd diffyg sylw, diffyg buddsoddiad, diffyg ei gymryd o ddifrif, diffyg ystyriaeth o anghenion penodol merched—anghydraddoldeb rhwng dynion a merched, mor syml â hynny.