Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 18 Mai 2022.
Bron i bedair blynedd yn ôl roeddem yn sôn am y problemau hyn, ac nid oes llawer o weithredu wedi bod o hyd, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n ei chael yn syfrdanol edrych ar y ffigurau diweddaraf, sy'n dangos bod llai na dwy ran o dair o bobl ifanc yn cael eu hasesiadau o fewn 28 diwrnod ac ar gyfartaledd, dros y chwe mis diwethaf, gwelwyd 48.5 y cant—llai nag un o bob dau—o fewn yr amser hwn. Yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, gwelwn fod amseroedd aros am CAMHS arbenigol yn wael, gyda thros 14 y cant o bobl ifanc yn aros dros bedair wythnos am apwyntiad cyntaf. Mae'n amlwg yn awr nad yw hyn yn ddigon da ac na all ein gwasanaethau presennol ymdopi â'r pwysau y maent yn ei wynebu. Mae bron i dair blynedd bellach ers y cyd-adolygiad thematig yn 2019, a dros ddwy flynedd ers adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y pumed Senedd ar y defnydd o osod dan gadwad o dan adran 135 a 136. Nododd y pwyllgor ar y pryd fod gwella gwasanaethau gofal argyfwng, yn enwedig gwasanaethau y tu allan i oriau, yn allweddol i leihau'r defnydd cyffredinol o adran 136 a sicrhau bod y rhai a ryddheir o adran 136 ar ôl asesiad yn mynd ymlaen i gael gofal a chymorth digonol yn eu cymuned. Wrth i amseroedd aros ymestyn, mae angen cymorth argyfwng ar fwy a mwy o blant a phobl ifanc, gyda 30 o blant dan 18 oed dan gadwad o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Ni fydd gosod plant a phobl ifanc dan gadwad yn darparu'r cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt, felly mae'n hanfodol fod gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael er mwyn iddynt gael eu trin mewn amgylchedd diogel a phriodol, rhywbeth sydd, wrth gwrs, yn destun dadl ar ei ben ei hun.
Mae'n amlwg i mi ac i eraill ar y meinciau hyn fod yn rhaid sefydlu canolfannau argyfwng iechyd meddwl er mwyn inni allu sicrhau bod gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl le diogel i gael eu hasesu a'u trin, gan leihau nifer y bobl dan gadwad ac a drosglwyddir.
Yn anffodus, gwelwn hyn hefyd gydag amseroedd aros ar gyfer awtistiaeth. Amcangyfrifir bod 30,000 neu fwy o bobl awtistig yng Nghymru, ac er bod pawb wedi clywed am awtistiaeth, nid oes digon o bobl yn deall sut beth yw bod yn awtistig a pha mor galed y gall bywyd fod os nad yw pobl awtistig yn cael y cymorth cywir. Mae miloedd o blant yn aros am fisoedd lawer neu flynyddoedd hyd yn oed i gael eu hasesu. Canfu astudiaeth ddiweddar mai 28 y cant o ddisgyblion awtistig yng Nghymru a deimlai fod eu hathrawon yn deall awtistiaeth, ac mae data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu mai dim ond 29 y cant o bobl awtistig sydd mewn unrhyw fath o waith. Heb gymorth, mae llawer o bobl awtistig yn datblygu problemau iechyd meddwl, sydd weithiau'n troi'n argyfwng.
Mae'r amser i siarad ar ben. Po hwyaf yr arhoswn i fynd i'r afael â gwir wraidd ac achosion yr argyfwng iechyd meddwl a'i driniaeth, y gwaethaf y bydd y sefyllfa'n mynd. Mae arnom angen gweithredu clir a diweddariadau rheolaidd yn y Senedd hon, yn amlinellu sut y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu mynd i'r afael â'r argyfwng ac i weld a yw ei dulliau'n gweithio.