Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 18 Mai 2022.
Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon. Rhaid rhoi mwy o flaenoriaeth i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc. Mae angen canolbwyntio mwy ar atal, nid darpariaethau adweithiol yn unig, cefnogi iechyd meddwl da fel rhan o raglen sy'n sicrhau bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith i leihau'r tebygolrwydd y bydd afiechyd yn digwydd yn y lle cyntaf.
Bu galw am adolygiad o'r cyfnod pontio rhwng gwasanaethau pobl ifanc a gwasanaethau i oedolion yn y GIG. Yn ddiweddar, ymdriniodd newyddion ITV â stori dynes ifanc ag awtistiaeth. Galwai am newid y system, fel nad yw pobl ifanc sy'n cael eu symud i ofal oedolion yn profi gostyngiad sylweddol yn y gwasanaethau y maent yn eu cael. Awgrymwyd bod sesiynau seiciatrig yn cael eu lleihau o un awr i ddim ond 10 munud. Gall hyn fod yn sylweddol i bobl ifanc mewn cyfnod mor fregus. Mewn ymateb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £50 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y cyfnod 2022-23. Ond beth yw'r strategaeth i sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i ganiatáu i bobl ifanc bontio'n ddidrafferth i wasanaethau oedolion? A pha mor hyderus yw Gweinidogion eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i leihau'r risg o niwed i'r rhai sy'n symud o ofal plant i ofal oedolion?
Rwyf am droi at yr heriau a'r effaith ar bobl ifanc. Canfu adroddiad arolwg YoungMinds fod 80 y cant o blant a phobl ifanc a oedd eisoes â phroblemau iechyd meddwl yn cytuno bod eu hiechyd meddwl wedi dirywio yn ystod y cyfyngiadau symud. Nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys achosion newydd o ddirywiad mewn iechyd meddwl. Mae 91 y cant o bobl ifanc wedi defnyddio gwasanaeth iechyd meddwl ar ryw adeg. Mae'n ymddangos bod pobl ifanc o gartrefi incwm isel yn cael eu heffeithio'n arbennig. Mae ynysu oddi wrth ffrindiau a theulu, a chau gwasanaethau hanfodol, wedi cyfrannu at hyn.
Mae'n destun pryder fod bron hanner y bobl ifanc sy'n profi dirywiad mewn iechyd meddwl wedi defnyddio technegau ymdopi negyddol fel hunan-niweidio. Mae rhai wedi profi newidiadau dietegol sylweddol. Er bod unigedd yn ffactor sy'n cyfrannu'n sylweddol at ddirywiad mewn iechyd meddwl, mae dros hanner bellach yn teimlo'n bryderus ynglŷn â dychwelyd i fywyd normal. Mae'n amlwg y bydd effaith y pandemig i'w theimlo am gyfnod sylweddol. Mae'r ffeithiau hyn yn peri pryder a rhaid i'r Gweinidog eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer dyfodol iechyd meddwl. Ym mis Chwefror 2022, canfu adroddiad yn y Senedd fod 60 y cant o blant a phobl ifanc a oedd angen gofal arbenigol yn gorfod aros dros bedair wythnos am apwyntiad cyntaf.
Mae gennyf ambell awgrym y gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn eu hystyried. Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried Deddf iechyd meddwl newydd, a fyddai'n diweddaru'r ddeddfwriaeth bresennol ac a fyddai'n cynnwys y syniadau diweddaraf ynglŷn â darpariaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wrthi'n gwneud newidiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a rhaid eu hystyried wrth newid y ddeddfwriaeth iechyd meddwl yma yng Nghymru.
Er mwyn sicrhau bod Bil iechyd meddwl newydd yn addas i'r diben, dylai'r egwyddorion cyffredinol: sicrhau bod barn a dewisiadau cleifion yn cael eu parchu; sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei defnyddio yn y ffordd leiaf cyfyngol posibl; sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol; ac yn olaf, dylid trin y claf fel unigolyn. Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru ystyried newidiadau i adran 136 o Ddeddf 1983, a allai helpu i leihau'n sylweddol nifer y bobl dan gadwad. Er mwyn i rywun gael ei roi dan gadwad, rhaid iddi fod yn glir mai dim ond drwy fod dan gadwad y gellir sicrhau lles gorau'r claf. Bydd yr egwyddor hon yn lleihau 'warysu' cleifion, gan ganiatáu ar gyfer gwell gofal i'r rhai y mae angen eu rhoi dan gadwad, a dileu straen diangen i'r rhai nad oes angen eu rhoi dan gadwad.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu deialog rhwng San Steffan a Chaerdydd. Fodd bynnag, mae iechyd meddwl wedi'i ddatganoli, ac mae hwn yn gyfle gwych i gyflwyno Deddf iechyd meddwl sy'n cynnwys manteision argymhellion Llywodraeth y DU, ac sy'n sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ond sydd hefyd yn addas i Gymru. At hynny, mae angen inni sicrhau cydweithrediad ag elusennau iechyd meddwl fel YoungMinds, sydd, gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, yn gallu darparu cymorth arbenigol i blant a phobl ifanc. Bydd hyn yn mynd i'r afael â'r agenda atal. I blant, gall profiad gwael newid bywyd, felly gadewch inni wella'r ffordd y gwnawn hyn. Diolch.