8. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 6:43 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 6:43, 18 Mai 2022

Pleidleisiwn yn gyntaf ar ddadl Plaid Cymru ar iechyd menywod. Galwaf am bleidlais a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Iechyd menywod. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 3633 Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Iechyd menywod. Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 24 ASau

Na: 24 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of David Rees David Rees Labour 6:44, 18 Mai 2022

Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. 

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 3634 Eitem 6. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths

Ie: 24 ASau

Na: 24 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of David Rees David Rees Labour 6:45, 18 Mai 2022

Felly, gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig felly ei wrthod.

Pleidleisiwn nawr ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, iechyd meddwl plant a glasoed. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl plant a'r glasoed. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 3635 Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl plant a'r glasoed. Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 24 ASau

Na: 24 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of David Rees David Rees Labour 6:46, 18 Mai 2022

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn, ac mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 3636 Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths

Ie: 24 ASau

Na: 24 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of David Rees David Rees Labour 6:47, 18 Mai 2022

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agorwch y bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 48, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 3637 Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian

Ie: 48 ASau

Absennol: 12 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of David Rees David Rees Labour 6:48, 18 Mai 2022

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.

Cynnig NDM8005 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

2. Yn gresynu bod amseroedd aros iechyd meddwl plant a'r glasoed yn parhau i fod yn wael, gyda llai nag un o bob dau o bobl o dan 18 oed yn derbyn asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod i'w hatgyfeirio.

3. Yn nodi'r prosiect peilot arfaethedig i sefydlu cyfleusterau yn y gymuned, i bobl ifanc gael mynediad hawdd at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol, er mwyn cynnig ymyrraeth gynnar ac osgoi uwchgyfeirio, ac yn annog cyflwyno cyfleusterau ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan. 

4. Yn mynegi ei phryder ynghylch nifer y plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n cael eu cadw o dan adran 136.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad brys o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;

b) sicrhau bod gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru; ac

c) ystyried dichonoldeb agor uned anhwylderau bwyta yng Nghymru.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:48, 18 Mai 2022

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl plant a'r glasoed. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 3638 Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl plant a'r glasoed. Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 25 ASau

Na: 23 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of David Rees David Rees Labour 6:49, 18 Mai 2022

Daw hynny â'r pleidleisio i ben am heddiw.