1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Mai 2022.
2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth y Llywodraeth i gefnogi hawliau plant anabl yng Ngorllewin De Cymru? OQ58096
Diolch i Sioned Williams am y cwestiwn. Llywydd, ers dechrau datganoli, mae’r Senedd wedi arwain y ffordd drwy hybu hawliau pob plentyn. Rydyn ni’n dal i fod wedi ymrwymo i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae hyn yn golygu sicrhau bod anghenion pob plentyn yn cael eu bodloni a’u bod yn cael eu trin yn gyfartal bob un.
Diolch, Prif Weinidog. Mae rhieni i ddau blentyn anabl yn fy rhanbarth wedi cysylltu â fi yn sgil eu hanhawster i sicrhau gofal plant cymwys. Mae'r plant wedi bod yn mynychu meithrinfa Dechrau'n Deg, ble mae cefnogaeth gymwys ar gael, ond nawr eu bod dros bedair oed roedd disgwyl i'w rhieni dalu tair gwaith yn fwy am ofal dros wyliau'r ysgol na'r hyn fyddai plant heb anghenion ychwanegol yn ei dalu. Yn lle £44, roedd y gofal yn costio £146 y plentyn, cyfanswm o £292 y dydd, cwbl anfforddiadwy. Yn dilyn pwysau gan fy swyddfa i a'u gweithiwr cymdeithasol, maen nhw wedi clywed y bydd cymorth o ryw fath ar gael gan banel blynyddoedd cynnar aml-asiantaeth Castell-nedd Port Talbot. Ond mae'r wybodaeth am gefnogaeth wedi bod yn anodd iawn i'w chanfod, ac mae grwpiau sy'n cefnogi plant anabl yn fy rhanbarth yn dweud wrthyf fod diffyg gofal cymwys a fforddiadwy yn broblem gyffredin a hirhoedlog sy'n creu anghydraddoldeb mawr. Rwy'n falch o weld bod adolygu'r gwasanaethau ar gyfer plant a nodi'r rhwystrau o ran cefnogaeth yn flaenoriaeth yn strategaeth anabledd dysgu newydd y Llywodraeth, ond sut byddwch chi'n sicrhau bod cefnogaeth sydd yn ddirfawr ei hangen yn hygyrch ac ar gael nawr i rieni plant ag anableddau?
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol, Llywydd. Os yw hi eisiau ysgrifennu ataf i am yr achos mae hi wedi codi, wrth gwrs, byddwn yn fodlon edrych mewn i beth sydd wedi digwydd yno. Yn fwy cyffredinol, dwi wedi gweld ffigurau sy'n dangos bod bron 600 o blant gydag anableddau yn ei rhanbarth hi yn cael gwasanaethau nawr yn y maes gofal plant, ac mae'r nifer wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Mae'n cynyddu achos bod Llywodraeth Cymru yn ariannu'r sector, yn rhoi mwy o arian i'r sector, i greu mwy o gyfleoedd i blant â'r anableddau i gael y gwasanaethau sydd eu hangen iddyn nhw eu cael, ac rydym ni'n gwneud hynny drwy'r partneriaethau sydd gyda ni gyda'r awdurdodau lleol a gyda'r sector hefyd. Y ffordd i gynyddu nifer y plant sy'n gallu cael cymorth yw gwneud mwy gyda'r adeiladau i'w troi nhw i fod yn addas i'r plant, ond hefyd i hyfforddi'r bobl sy'n gweithio yn y maes er mwyn iddyn nhw gael y sgiliau sydd angen iddyn nhw eu cael i roi gwasanaethau i blant ag anableddau. Rydyn ni'n dal i weithio yn y maes yna. Os oes mwy o syniadau ar gael i wneud mwy yn y dyfodol, rydym ni'n awyddus i wneud e.
Mae pobl ag anabledd dysgu yn dioddef ynysigrwydd mwy sylweddol oherwydd camddealltwriaeth rhwng lleoliadau gofal preswyl a gwasanaethau byw â chymorth pan fo pobl yn cael cymorth o fewn eu tenantiaethau eu hunain. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r ffyrdd y bydd pobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd/gofalwyr yn ganolog i'r gwaith o gynllunio'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw? Diolch.
Llywydd, rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod y bydd fy nghyd-Aelod Julie Morgan yn gwneud datganiad llafar ar y cynllun gweithredu ar anabledd dysgu y pnawn yma. Lluniwyd y cynllun hwnnw gydag ymgysylltiad uniongyrchol a llawn y rhai sy'n gweithio yn y sector, y rhai sy'n darparu gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu, ac yn enwedig y sefydliadau hynny sy'n siarad ar ran pobl ag anabledd dysgu. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn gwrando'n ofalus ar yr hyn sydd gan y Dirprwy Weinidog i'w ddweud ac mae'n siŵr y bydd ganddo gwestiynau iddi os yw'n credu bod mwy y gellid ei wneud o dan yr amgylchiadau penodol y mae wedi cyfeirio atyn nhw.