– Senedd Cymru am 2:31 pm ar 24 Mai 2022.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf i un newid i'r agenda heddiw. Rwyf i wedi ymestyn hyd datganiad y Cwnsler Cyffredinol ar gyfiawnder yng Nghymru i 45 munud. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Prynhawn da, Gweinidog. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar fanteisio i'r eithaf ar botensial statws dinas Wrecsam sydd newydd ei gyhoeddi. Rwy'n siŵr, Gweinidog, eich bod chi mor falch ag yr oeddwn i o glywed y cyhoeddiad y bydd Wrecsam nawr yn ddinas yn dilyn dathliadau Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines. Wrth gwrs, Gweinidog, mae llawer o bethau gwych yn digwydd ledled Wrecsam, fel y gwyddoch chi, ac, fel sydd wedi cael ei grybwyll eisoes, o amgylch Clwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam, a fydd unwaith eto'n chwarae yn Wembley y penwythnos hwn am y cyfle i gael dyrchafiad i'r gynghrair bêl-droed. Yn ogystal â hyn, Gweinidog, wrth gwrs, byddwch chi'n ymwybodol o lawer o fusnesau'n ffynnu ledled Wrecsam, ar yr ystad ddiwydiannol. Rwy'n credu y gall y statws newydd hwn godi proffil Wrecsam a'i helpu i fynd o nerth i nerth. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch pawb a wnaeth hi'n bosibl i hyn ddigwydd, ond hefyd i ganiatáu datganiad gan Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y gallwn ni sicrhau bod y gorau posibl yn cael ei wneud o'r statws dinas newydd hwn? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Rydych chi'n hollol gywir; mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd yn fy etholaeth i yn Wrecsam ar hyn o bryd. Ni wnawn ni sôn am y canlyniad ddydd Sul, ond rydym ni'n sicr yn edrych ymlaen at rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ddydd Sadwrn. Rwy'n credu bod cael statws dinas i Wrecsam yn gadarnhaol, ond yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wir yn manteisio ar y cyfleoedd, y cyfleoedd economaidd yn enwedig, yr oedden nhw'n sicr yn credu y byddai ceisio statws dinas yn eu cynnig. Yn sicr, rydw i wedi edrych ar drefi eraill a gafodd statws dinas— 20 mlynedd yn ôl Casnewydd ydoedd, rwy'n credu, 10 mlynedd yn ôl, Llanelwy ydoedd, y byddwch chi'n ei hadnabod yn dda iawn—ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yr uchelgais hwnnw yno i fanteisio ar y cyfleoedd economaidd hynny.
Trefnydd, wythnos diwethaf rhyddhawyd datganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi £750,000 o fuddsoddiad i lyfrgelloedd ac amgueddfeydd. Wrth gwrs, dwi'n croesawu hyn yn fawr, ac mae'n dda gweld llyfrgelloedd ac amgueddfeydd ledled Cymru yn derbyn buddsoddiad. Hoffwn ofyn am ddatganiad llafar gan Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon, cyn yr haf, yn rhoi gwybodaeth bellach o ran gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer amgueddfeydd lleol, ac, yn benodol, y cynnydd ar ddatblygu strategaeth genedlaethol newydd i amgueddfeydd. Wedi'r cyfan, Cymru oedd y genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddatblygu strategaeth genedlaethol i amgueddfeydd yn 2010. Bu gwaith i ddatblygu un newydd yn 2017 a 2018—mi ddylwn i ddatgan fy mod i wedi bod yn rhan o'r gwaith hwn yn fy sydd flaenorol—ond ni chwblhawyd y gwaith. Byddai'n fuddiol gwybod, yn arbennig gan nad yw amgueddfeydd yn wasanaethau statudol, sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r sector, a pryd bydd strategaeth newydd, ynghyd â derbyn diweddariad ar weithredu argymhellion adolygiad amgueddfeydd lleol 2015.
Diolch. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi croesawu'r cyllid ychwanegol a gyhoeddodd y Dirprwy Weinidog diwylliant a'r celfyddydau yr wythnos diwethaf, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mewn datganiad ysgrifenedig. Nid wyf i'n credu y bydd cyfle i gael datganiad llafar cyn toriad yr haf, ond rwy'n siŵr, wrth i ni fynd drwy flwyddyn nesaf y tymor hwn o Lywodraeth, os oes gan y Dirprwy Weinidog ragor o wybodaeth am y strategaeth, y gall hi ei chyflwyno.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar anhwylderau bwyta. Cyflwynodd adolygiad gwasanaeth anhwylderau bwyta 2018 weledigaeth uchelgeisiol, yn seiliedig ar y mynediad cynharaf at driniaeth a chymorth effeithiol ym mhob rhan o Gymru. Mae adroddiad newydd Beat yn canfod bod y cynnydd o ran ehangu a gwella gwasanaethau anhwylderau bwyta wedi bod yn anwastad iawn. Er bod mynediad at driniaeth wedi gwella mewn rhai ardaloedd, mewn ardaloedd eraill, y mae dal yn gyfyngedig iawn. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ac iddi gyhoeddi cynllun gydag amserlenni ar gyfer cyflawni gweledigaeth adolygiad gwasanaeth anhwylderau bwyta 2018, fel y gall pawb y mae'r rhain yn effeithio arnyn nhw gael cymorth effeithiol yn gyflym?
Diolch. Rydym ni'n parhau i flaenoriaethu buddsoddi ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta, ac, er 2017, fel y gŵyr yr Aelod, rwy'n siŵr, mae byrddau iechyd wedi cael £4.1 miliwn ychwanegol i gefnogi gwelliannau yn y gwasanaethau hynny, ac yn enwedig o ran amseroedd aros. Byddwn ni'n targedu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta o'r cyllid iechyd meddwl sydd wedi cynyddu ac wedi'i sicrhau ar gyfer 2022-23. Mae cyllid wedi'i ddarparu i fyrddau iechyd yn benodol i ad-drefnu gwasanaethau er mwyn cael ymyriadau cynharach, i weithio tuag at gyflawni safonau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar anhwylderau bwyta o fewn y ddwy flynedd nesaf, a hefyd i ddatblygu cynlluniau i sicrhau amser aros o bedair wythnos ledled y gwasanaethau i oedolion a'r gwasanaethau i blant, fel y gwnaeth yr adolygiad ei argymell.
Arweinydd y tŷ, a gaf i i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllun y bathodyn glas anabledd? Mae etholwr wedi cysylltu â mi'n ddiweddar y mae ei blentyn, sydd o dan dair oed, wedi'i gofrestru'n ddall, ac mae ganddo barlys yr ymennydd ac mae angen ffisiotherapi cyson arno. Mae'r rheoliadau fel y maen nhw wedi'u nodi gan Lywodraeth Cymru, y mae awdurdodau lleol yn gweithio iddyn nhw, yn rhagnodol iawn—a gallaf i ddeall pam y maen nhw'n rhagnodol—ond mae'n ymddangos eu bod yn gwbl amherthnasol os ydych chi yn y categori o dan dair oed hwnnw, i blentyn. Ac yn achos penodol fy etholwr, yn anffodus, cafodd bathodyn glas ei wrthod, er ei bod yn amlwg bod angen iddyn nhw fynd am sesiynau ffisiotherapi rheolaidd, a gyda phlentyn dall hefyd—gallwch chi ddychmygu'r straen a'r gofid y mae hyn yn ei achosi i'r teulu.
Rwy'n sylweddoli na allwch chi siarad am y manylion, oherwydd mae angen i chi gael manylion llawnach—a byddaf i'n ysgrifennu at y Gweinidog perthnasol ar hyn—ond byddwn i'n ddiolchgar o ddeall a yw Llywodraeth Cymru yn cynnig unrhyw adolygiad o'r cynllun bathodyn glas. Os byddai modd cael datganiad, a fyddai'n gallu sôn am sut y byddai modd cynnal yr adolygiad hwnnw a'r cylch gorchwyl, fel y gallwn ni gynnwys plant ifanc yn arbennig o dan fanteision y cynllun, sydd yno i wneud bywyd yn haws i bobl sydd angen bod, yn amlwg, yn agos at neuaddau cymunedol, meddygfeydd neu unrhyw lefydd eraill lle y gallai lle parcio i bobl anabl fod ar gael?
Diolch. Rwy'n credu mai'r ffordd fwyaf priodol i chi nawr yw ysgrifennu at Weinidog yr Economi ynghylch eich etholwr penodol a'r profiadau y mae wedi'u cael. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw adolygiad, ond, fel y dywedais i, os ysgrifennwch chi at Weinidog yr Economi, bydd e'n gallu eich cynghori chi.
Byddwn ni i gyd yn ymwybodol o'r ymgyrch Mai Di-dor, a hoffwn i ofyn am ddatganiad yn nodi sut y mae'r Llywodraeth yn mynd â hyn ymhellach, i ailgysylltu pobl ledled Cymru â'r byd naturiol ar garreg eu drws. Rwy'n falch o fod yn hyrwyddwr rhywogaethau'r gardwenynen feinllais, y cacwn sydd fwyaf mewn perygl yng Nghymru a Lloegr. Wir fe hoffwn i pe bai mwy o bobl, o bob oed, yn dysgu mwy am sut y gall prosiectau cadwraeth fel Natur am Byth helpu i osgoi'r argyfwng natur yr ydym ni ynddo, ond hefyd i gryfhau'r ymdeimlad o berthyn y gall pobl ei deimlo gyda'r cynefinoedd sydd o'n cwmpas ni i gyd. Gwyddom ni fod un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru dan fygythiad o ddiflannu. Os na wnawn ni unrhyw beth, bydd cymaint o gacwn a gloÿnnod byw a chreaduriaid yn darfod. Ond y newyddion gwych yw y gallwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch, ac mae ffyrdd y gall pobl gymryd rhan. Felly, a all datganiad nodi sut y gall pobl ddod o hyd i lawenydd yn y byd naturiol, cael hwb i'w hiechyd a'u llesiant, a dod o hyd i ymdeimlad o ryfeddod mewn cynifer o greaduriaid, fel y gardwenynen feinllais? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Rwy'n hapus iawn i gymryd rhan yn yr ymgyrch Mai Di-dor—rwy'n credu bod fy ngardd yn ei werthfawrogi'n fawr, ac yn sicr, yr wyf i hefyd. Mae'n wych mai chi yw hyrwyddwr y rhywogaethau hyn, fel y dywedwch chi. Roedd hefyd yn Ddiwrnod Gwenyn y Byd ddydd Gwener diwethaf; roeddwn i'n falch iawn o ymweld â rhai cychod gwenyn yn Llanfair ym Muallt ddydd Iau diwethaf i hyrwyddo hynny. Ond rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn—mae'n bwysig iawn ein bod ni'n newid y ffordd yr ydym ni'n rheoli ein glaswelltiroedd. Rwy'n credu bod yr ymgyrch Mai Di-dor gan Plantlife yn ymgyrch ragorol. Mae hynny'n helpu pobl i ystyried sut y maen nhw'n ymdrin â natur, drwy newid eu hymddygiad yn unig, er enghraifft. Fory, rwy'n gwybod y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ymateb i ddadl fer, ac mae hynny'n mynd i ystyried pwysigrwydd rheoli ymylon glaswellt a glaswelltir amwynder. Rwy'n gwybod bod Carolyn Thomas wir wedi ymgymryd â swyddogaeth hyrwyddwr ymylon glaswellt a glaswelltir amwynder i gefnogi'r gwaith rheoli gwell. Mae'n dangos y gallwn ni i gyd wneud newidiadau bach i wir helpu ein bioamrywiaeth.
A gawn ni ddatganiad am y mesurau y bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog Llywodraeth y DU i godi gwerth talebau Cychwyn Iach i dalu am gost remp chwyddiant? Gwnaeth Llywodraeth y DU godi gwerth y talebau Cychwyn Iach y tro diwethaf cyn i'r argyfwng costau byw daro, ac roedd hynny dim ond ar ôl, rhaid i mi ddweud, cryn dipyn o bwysau gan Marcus Rashford gyda'i ymgyrchu, elusennau bwyd ac, yn wir, y Blaid Gydweithredol a'r mudiad cydweithredol. Byddai datganiad gan Lywodraeth Cymru yn anfon neges glir iawn o gefnogaeth i godi gwerth y talebau Cychwyn Iach hyn, ac, a dweud y gwir, yn osgoi sefyllfa pan fo babanod a phlant ifanc yn mynd heb fwyd.
A gawn ni ddadl ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyfiawnder bwyd ac ar ymdrin â'r broblem tlodi bwyd sydd ar y gorwel ledled Cymru, yn ogystal â'r DU yn ehangach? Yr amcangyfrif yw, ledled y DU, y chweched wlad gyfoethocaf ar y ddaear, y gallai cynifer ag 8 miliwn o bobl fod yn ei chael hi'n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd ac mae 500,000 wedi defnyddio banciau bwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Felly, gallai datganiad hyrwyddo'r achos dros gydnabod yr hawl i fwyd gan y Llywodraeth, er mwyn llunio strategaethau bwyd, ar gyfer dynodi hyrwyddwyr bwyd mewn llywodraeth leol, strategaeth fwyd ar lefelau lleol a mwy. Rydym ni'n wynebu storm gynyddol sy'n rhwygo drwy ein cymunedau, felly mae angen i Lafur Cymru mewn Llywodraeth a'r Blaid Gydweithredol anfon arwyddion cryfach y byddwn ni yno ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i'r storm hon ym mhob ffordd bosibl.
Diolch yn fawr iawn. Mae'r cynllun Cychwyn Iach yn gynllun bwyd lles, nad yw, fel y gwyddoch chi, wedi'i ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant at yr Ysgrifennydd Gwladol, ddiwedd y llynedd, rwy'n credu, ac mae hefyd wedi ysgrifennu eto i ofyn a gwthio'n wirioneddol am gynnydd yn y cynllun. Onid yw honno'n un ffordd y gallai Llywodraeth y DU helpu gyda'r argyfwng costau byw? Rwy'n credu bod y Dirprwy Weinidog yn awyddus iawn i weld cymhwysedd Cychwyn Iach tan y bydd plentyn yn dechrau yn yr ysgol gynradd—rwy'n credu y byddai hynny'n helpu—gan gynyddu trothwy incwm aelwydydd er mwyn creu cysondeb â'r trothwy ar gyfer prydau ysgol am ddim. Byddai hynny'n helpu i gefnogi ein plant mwyaf agored i niwed. Felly, mae llawer o bethau y byddai modd eu gwneud. A bod yn deg, rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi caniatáu i'w swyddogion ymgysylltu â swyddogion y Dirprwy Weinidog i geisio gweld lle y gallan nhw wneud mwy, a gwn i fod y trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt. Mae'r Dirprwy Weinidog hefyd wedi gofyn i'w swyddogion ystyried datganoli bwydydd lles, ac yr ydym ni'n bwriadu cynnal adolygiad annibynnol o'r cynllun Cychwyn Iach yma yng Nghymru yn ddiweddarach eleni, yn yr hydref.
O ran cyfiawnder bwyd, unwaith eto, mae 8 miliwn o bobl ledled y DU wir yn ffigur erchyll. Arweiniodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gyfarfod bwrdd crwn ar dlodi bwyd, yr oeddwn i'n falch iawn o ymuno ag ef, yr wythnos cyn yr wythnos diwethaf, a gwnaethom ni drafod argyfwng parhaus costau byw ac effaith prisiau cynyddol, ac, wrth gwrs, yr effaith y mae prisiau ynni uchel hefyd yn ei chael ar dlodi bwyd. Clywodd y Gweinidog a minnau gan gynrychiolwyr rhai o'n banciau bwyd, a oedd yn dweud eu bod wedi gorfod ailystyried yn llwyr pa fwyd y maen nhw'n ei roi mewn parseli bwyd, oherwydd ni all pobl fforddio gwresogi bwyd, sydd wir yn warthus. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ystyried y cyllid. Rydym ni wedi dyrannu £3.9 miliwn i gefnogi camau gweithredu sydd wir yn ymdrin ag achosion sylfaenol tlodi bwyd, gan ddatblygu llwyddiant gwaith blaenorol y mae hi wedi'i gyflwyno, a bydd cyhoeddiad yn fuan ynghylch sut y caiff yr arian ei ddosbarthu eleni.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru? Y cyntaf ar yr anawsterau a'r gwahaniaethau sy'n dal i wynebu llawer o weithwyr anabl. Yn ôl ymchwil a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ebrill y llynedd, dim ond 52.3 y cant o bobl anabl sydd mewn gwaith. Mae hyn o’i gymharu ag 82 y cant o'r boblogaeth abl. Yng Nghymru, yn syfrdanol, mae'r bwlch cyflog i bobl anabl yn 18 y cant, ac mae'r effaith fwyaf ar fenywod anabl, sy'n ennill 36 y cant yn llai ar gyfartaledd na'u cymheiriaid eraill. A gawn ni, os gwelwch yn dda, ddatganiad ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog cyflogwyr i beidio ag anwybyddu gweithwyr medrus dim ond oherwydd bod ganddyn nhw anabledd, ac i gefnogi'r manteision mawr y gall gweithwyr anabl eu cynnig i fusnes neu i faes diwydiant?
Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines? Gwn i fod llawer o bobl wedi sôn amdano heddiw yn y Siambr. Yn benodol, hoffwn i wybod a oes unrhyw gynghorau yng Nghymru wedi cael arian ychwanegol ar gyfer digwyddiadau neu brosiectau dathlu Jiwbilî lleol, a pha ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi gan Weinidogion Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ar y mater hwn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. O ran eich pwynt olaf, rwy'n ymwybodol bod gan fy awdurdod lleol fy hun, yn sicr, arian i'w ddyfarnu i grwpiau lleol os oedden nhw eisiau cymryd rhan mewn dathliadau Jiwbilî neu drefnu parti stryd, ac ati. Felly, rwy'n tybio bod hynny wedi digwydd ledled Cymru. Fel y gwyddoch chi, bydd y ddadl nesaf yn cael ei harwain gan y Prif Weinidog mewn cysylltiad â'r Jiwbilî.
Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau i sicrhau bod pobl ag anableddau yn gallu dod o hyd i waith. Byddwn i wedi ystyried mai Remploy oedd un o'r pethau gorau a gawsom ni erioed yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod yn anffodus iawn bod Llywodraeth y DU wedi'i gau.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gennych chi, Trefnydd, yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog materion gwledig. Gyda'r gwrthdaro creulon ac anghyfreithlon yn Wcráin yn parhau i rygnu ymlaen, rwyf i wedi bod wrth fy modd yn gweld Llywodraeth y DU yn arwain yr argyfwng ffoaduriaid, gyda channoedd o deuluoedd nawr yn cael y cyfle i ailgydio yn eu bywydau yma yng Nghymru a ledled y DU. Fodd bynnag—a gwnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ei godi’r wythnos diwethaf—mae gennym ni sefyllfa lle nad oes mecanwaith nawr i ganiatáu i anifeiliaid anwes sy'n cyrraedd o Wcráin gwblhau eu cyfnod ynysu gartref gyda'u perchnogion. Mae hyn hyd yn oed ar ôl i'r holl archwiliadau a'r brechiadau angenrheidiol gael eu cyflawni. Cododd fy nghyd-Aelod Russell George hyn yma yr wythnos diwethaf, ac rwyf i wedi clywed am fwy o achosion lle mae anifeiliaid anwes nawr yn gaeth yn Lloegr ac yn cael eu symud o amgylch gwahanol leoedd yn Lloegr. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau'i weld, mewn gwirionedd, yw eich bod chi'n gwneud datganiad ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i ganiatáu i'r anifeiliaid anwes annwyl hyn gael eu dychwelyd at eu perchnogion ar frys, gan ddarparu rhywfaint o ymdeimlad bach o'u cartref eu hunain i deuluoedd sy'n dymuno ailgydio yn eu bywydau yma yng Nghymru. Diolch.
Diolch. Nid yw'r Aelod wedi cael y sefyllfa'n hollol gywir—[Torri ar draws.]—ond wrth gwrs, rwy'n deall yn iawn fod pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin eisiau cael eu hanifeiliaid anwes yn agos. Dyna'n union yr ydym ni'n bwriadu'i wneud. Y gwahaniaeth yma yng Nghymru yw nad oes gennym ni ynysu gartref. Bydd yn rhaid i anifeiliaid anwes fynd i gwarantîn os nad ydyn nhw'n bodloni'r holl feini prawf. Felly, os yw anifail anwes wedi'i frechu rhag y gynddaredd, bod ganddo basbort anifeiliaid anwes, bod ganddo'r holl waith papur cywir a'i fod wedi'i ficrosglodynnu, bydd yn gallu mynd gyda'r teulu neu gyda'r unigolyn ar unwaith. Mae'n anodd iawn monitro'r cartref ac mae'n anodd iawn ei orfodi, felly rydym ni'n cadw at yr unedau cwarantin cymeradwy sydd wedi bod yno ers blynyddoedd lawer. Rhaid i mi sicrhau bod ein hanifeiliaid yma yng Nghymru yn cael eu diogelu, bod iechyd yr anifail sy'n dod o Wcráin yn cael ei ddiogelu ac, wrth gwrs, bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu hefyd. Felly, rydym ni'n ehangu ein cyfleusterau cwarantin oherwydd ein bod ni'n sylweddoli nad oes gennym ni ddigon. Roeddwn i'n dweud wrth Lywodraeth y DU yn ôl ym mis Chwefror na fyddai ganddyn nhw ddigon, ac wrth gwrs mae APHA, yr wyf yn amlwg yn gweithio'n agos iawn ag ef, yn chwarae rhan bwysig. Ond, gall pethau fynd o chwith, ac er fy mod i'n gwerthfawrogi ei fod yn risg isel iawn, mae'n rhaid i mi ddweud yr oedd 1,800 o achosion o gynddaredd yn Wcráin y llynedd. Nid ydym ni wedi cael y gynddaredd yn y wlad hon ers 100 mlynedd. Er bod y risg yn isel, byddai effaith cael clefyd anifeiliaid o'r fath yn y wlad hon yn sylweddol iawn.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ar atal y defnydd o iaith heb rywedd wrth ddrafftio deddfwriaeth i atal menywod rhag cael eu dileu'n anghyfiawn ac yn beryglus mewn polisi a chyfraith. Rydym ni wedi gweld iaith heb rywedd yn sleifio i'n deddfu, ac mae hyn wedi cael ei gydnabod eto gan Weinidog Llywodraeth y DU, yr Arglwydd True, sydd nawr wedi rhyddhau datganiad ar y mater. Maen nhw wedi dod i'r casgliad bod nifer o ddulliau drafftio ar gael i gyflawni'r canlyniad polisi a ddymunir wrth ddal i ddefnyddio iaith ryw-benodol. Un dull yw defnyddio iaith ryw-benodol i gyfeirio at y prif achos—er enghraifft, menywod—gan ychwanegu geiriad arall fel bod gan y ddarpariaeth hefyd y canlyniad polisi a ddymunir ar gyfer yr achosion llai cyffredin. Gall defnyddio iaith sy'n niwtral o ran rhywedd arwain at ddileu menywod yn y gyfraith ac, mewn rhai achosion, achosi niwed sylweddol a llechwraidd. Rwy'n gobeithio gweld datganiad gan y Gweinidog, os gwelwch yn dda, Trefnydd, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni i gyd am y dull y mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn ei fabwysiadu o ran drafftio deddfwriaeth i atal menywod rhag cael eu dileu er mwyn atal dadwneud yr holl waith caled a gafodd ei wneud dros ddegawdau i amddiffyn menywod. Diolch.
Yn sicr, rwy'n credu bod y Llywodraeth hon wedi arwain y ffordd yn llwyr. Os ydych chi'n ystyried ein Deddf rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, ar y pryd yr oedd yn gwbl arloesol. Rwy'n gwybod bod y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn gweithio ar hygyrchedd o ran cyfraith Cymru ac eglurhad, ac mae ef yn y Siambr ac wedi'ch clywed chi, ac yr wyf yn siŵr y gall edrych ar hynny fel rhan ohono.
Diolch i'r Trefnydd. Na, mae'n ddrwg gyda fi.
Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i ychydig yn rhy gynnar nawr—mae un person arall rwyf wedi anghofio'i alw ar fy rhestr i yma. Ken Skates. Efallai bydd hyn yn ymwneud â Wrecsam.
Rwy'n gobeithio hynny.
Diolch, Llywydd. Ydy yn wir. Roeddwn i wrth fy modd o glywed ymateb y Prif Weinidog i fy nghwestiwn i ychydig yn gynharach, ond byddwn i'n ddiolchgar hefyd pe byddai datganiad yn dod pe byddai Wrecsam yn ennill y cais i fod yn ddinas diwylliant, yn amlinellu manylion y gefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru, yn ariannol ac fel arall, oherwydd nid oes unrhyw amheuaeth na fydd y cyngor lleol yn dibynnu yn fawr iawn ar yr uned digwyddiadau mawr ragorol Llywodraeth Cymru am gymorth a chyngor.
Trefnydd, byddwn i'n ddiolchgar hefyd am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch y cynnydd ar y cynlluniau ar gyfer gwella ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021. Ac a gaf i ofyn am ddatganiad arall gan y Gweinidog Iechyd yn cadarnhau y bydd pencadlys corff llais y dinesydd yn y gogledd? Mae cadeirydd y corff, wrth gwrs, yn gyfarwydd iawn â'r de-orllewin a'r canolbarth, ac mae pencadlys y rhan fwyaf o'r GIG yn y de-ddwyrain, ac felly wrth reswm, dylai corff llais y dinesydd fod â'i bencadlys yn y gogledd, lle mae'r bwrdd iechyd mwyaf sydd gennym ni a lle mae'r GIG, fe ellid dadlau, yn wynebu ei her fwyaf. Diolch.
Diolch. Roedd nifer o gwestiynau yno, ond rwy'n sicr yn falch o glywed bod y Prif Weinidog yn gwrando arnaf wrth i mi fwydro am Glwb Pêl-droed Wrecsam gyda'r fath sylw a'i fod mor wybodus erbyn hyn. O ran y cais i fod yn ddinas diwylliant, fel dywedodd y Prif Weinidog, fe ddaw'r cyhoeddiad ddydd Mawrth nesaf, ac rydym yn gobeithio yn fawr y bydd Wrecsam yn ennill, ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog celfyddydau a diwylliant yn hapus iawn i wneud datganiad os mai dyna fydd yr achos.
O ran eich dau gwestiwn ynghylch iechyd, o ran sefydlu'r corff llais dinasyddion, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud hyd yma ynghylch lleoliad unrhyw un o'i safleoedd. Rwy'n credu pan fydd y broses o recriwtio i gorff llais y dinesydd wedi ei chwblhau, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno strategaeth leoli ar sail y penderfyniadau a wnaed.
Rydych chi'n gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun i wella Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac, fel gwyddoch chi, yn ystod tymor blaenorol y llywodraeth, yn ôl ym mis Mawrth 2021, fe gyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig gan y Llywodraeth yn amlinellu'r fframwaith ymyraeth wedi'i thargedu ar gyfer y bwrdd iechyd. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn amlwg, yn ei fonitro yn ofalus iawn. Rwy'n ymwybodol bod rhagor o drafodaethau yn mynd rhagddyn nhw, a bydd y Gweinidog yn sicrhau bod y bwrdd iechyd yn diweddaru ei wefan, oherwydd nid wyf i'n credu bod hynny wedi ei wneud ers rhai misoedd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn gwneud hynny. Rwy'n gwybod bod eu hasesiad sylfaenol nhw wedi ei gwblhau, ond mae hi'n bwysig iawn bod y wefan yn cael ei diweddaru er mwyn i'r Aelodau allu ei weld. Ond os bydd unrhyw beth arall yn deillio o gyfarfod y Gweinidog, byddaf yn gofyn iddi gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Diolch nawr i'r Trefnydd.