Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 24 Mai 2022.
Diolch i Samuel Kurtz am y cwestiwn hwnnw. Fel dywedodd e yn ei gyfraniad, does gan neb fonopoli ar syniadau da. Mae'r ddogfen hon yn ffrwyth gwaith y Llywodraeth, yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid ar draws amryw o sectorau, ond os oes gennych chi awgrymiadau pellach, cadarnhaol i'w cynnig, wrth gwrs y byddwn ni'n hapus iawn i'w hystyried nhw. Fel rŷch chi'n dweud, mae gan bawb gyfraniad tuag at sicrhau ffyniant y Gymraeg a sicrhau y rhifau rŷn ni eisiau gweld yn ei siarad hi. Felly, mae gyda ni yma ystod o gamau sydd yn ymestyn o ffyrdd o ysbrydoli a denu pobl i ddewis addysgu yn y Gymraeg, neu addysgu'r Gymraeg fel opsiwn o ran gyrfa, camau i esmwytho'r broses o gymhwyso i addysgu yn y Gymraeg, a hefyd cyfres o fesurau i geisio annog pobl i aros yn y proffesiwn, ac i gynnal ac i gadw pobl yn y proffesiwn, sydd mor bwysig hefyd.
O ran atebolrwydd ac o ran cynnydd yn erbyn y strategaeth, yn erbyn y cynllun, bydd yr Aelod yn gweld bod cyfres o dablau yng nghefn y ddogfen sydd yn disgrifio, fesul awdurdod lleol, y galw fydd ganddyn nhw i sicrhau cynnydd yn eu staff o ran gweithlu sydd yn gallu dysgu trwy'r Gymraeg. Mae hynny'n cyd-fynd â'r hyn sy'n digwydd eleni am y tro cyntaf, sef y cynlluniau strategol addysg Cymraeg mewn addysg sydd yn para am ddegawd yn hytrach na chyfnod o dair blynedd, felly mae’r cynllun 10 mlynedd yn cyd-fynd â'r cynlluniau strategol 10 mlynedd, ond nid yw'r bwriad, yn sicr, fod y camau yn cael eu cymryd dros y 10 mlynedd mewn ffordd hamddenol; bydd yr Aelod yn gweld bod dyddiadau penodol wedi’u nodi yn erbyn y camau sydd yn cael eu cynnig fan hyn, a’r bwriad sydd gen i yw edrych ar y tablau a’r data sy'n cael eu cyhoeddi yn erbyn y cynllun bob dwy flynedd a chyhoeddi diweddariad, fel bod cynnydd yn erbyn y cynllun yn glir a’n bod ni'n atebol i’r Senedd am hynny.