5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg yn y gweithlu addysg

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 24 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:15, 24 Mai 2022

Diolch i’r Gweinidog am y datganiad a'r buddsoddiad hefyd. Rydym yn croesawu’n fawr fod yna gydnabyddiaeth bod angen cynllun 10 mlynedd ar gyfer datblygu gweithlu addysgu yn y Gymraeg. Ond hoffwn ategu nifer o bryderon a fynegwyd gan Samuel Kurtz hefyd, oherwydd, fel y mynegodd o, dengys y data sy’n cyd-fynd â’r cynllun fod y sefyllfa fel y mae yn bryderus tu hwnt, gyda’r targedau a osodwyd ar gyfer 2021 heb eu cyrraedd o ran ysgolion cynradd ac uwchradd. Felly os ydym ni o ddifrif eisiau cyrraedd targedau 'Cymraeg 2050', mae'n rhaid gwneud mwy, a hynny ar fyrder. Fel arall, sut mae gobaith cyrraedd targedau 2031?

A hoffwn ofyn yn gyntaf, felly: pam y methodd y Llywodraeth gyrraedd targedau 2021, a pha wersi a ddysgwyd o hynny sydd wedi dylanwadu ar y cynllun 10 mlynedd? Dwi'n meddwl ein bod ni angen dysgu'r gwersi hynny os ydyn ni i ddeall sut mae'r cynnydd hwnnw yn mynd i gael ei wireddu.

Y pryder sydd gen i, ac amryw o bobl eraill, megis Cymdeithas yr Iaith, yw nad yw’r cynllun yn ddigon uchelgeisiol neu bellgyrhaeddol i sicrhau’r newid sydd ei angen, gyda’r ieithwedd yn eithaf gwan o ran y disgwyliadau sy’n cael eu gosod ar ddarparwyr. Tra bod y cynllun yn cydnabod bod her yn y sector uwchradd, mae’n fy mhryderu i ei fod yn rhoi’r argraff nad oes problem mewn gwirionedd yn y sector cynradd, ac mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y Llywodraeth yn dangos bod angen hyfforddi 273 o athrawon cynradd newydd bob blwyddyn, ac oddeutu 300 o athrawon uwchradd. Gyda dim ond tua 250 y flwyddyn yn hyfforddi i fod yn athrawon cynradd ac uwchradd ar hyn o bryd, sut ydym ni'n mynd i sicrhau ein bod yn mwy na dyblu’r nifer sydd eu hangen?

Ac mi oeddech chi'n sôn rŵan yn eich ymateb i Samuel Kurtz y byddwch chi'n monitro pa mor effeithiol yw'r cynllun hwn bob dwy flynedd. Ond, os nad yw’r cynnydd yn digwydd fel sydd ei angen, ydych chi’n ymrwymo i addasu’r cynllun i fod yn fwy radical a phellgyrhaeddol os bydd y niferoedd ddim yn cynyddu? Mi fydd hi'n rhy hwyr i wyrdroi hyn os ydym yn parhau i fethu targedau.

A beth ydy'r goblygiadau o ran awdurdodau lleol sydd ddim yn cyrraedd eu targedau? Rydym ni'n aml yn gweld, efo'r cynlluniau dros y blynyddoedd diwethaf yma, targed ar ôl targed yn cael eu methu. Sut byddwch chi'n sicrhau nad yw hynny'n digwydd, fel bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cyrraedd y targed fel y dylen nhw, a'n bod ni'n deall wedyn pam nad ydyn nhw, a'n bod ni'n gallu ymyrryd fel sydd ei angen?

Y pwynt olaf yr hoffwn ei godi ydy’r hyn wnaeth UCAC ei godi heddiw mewn ymateb i gyhoeddi’r cynllun, a hynny o ran a yw'r proffesiwn bellach yn denu. Fel gwnes i godi gyda chi wythnos diwethaf, gwyddom fod problem o ran cynnal a chadw athrawon a’u bod dan bwysau aruthrol o ran pwysau iechyd meddwl, biwrocratiaeth, pwysau cyllid, a’r newidiadau mawr sy’n dod i’r system addysg, er enghraifft efo diwygio, anghenion dysgu ychwanegol a’r cwricwlwm newydd, ac mae hyn yn effeithio ar nifer yr athrawon sy’n cael eu recriwtio a’r nifer sy’n aros yn y gweithlu. Gwyddom hefyd nad yw pob awdurdod lleol yn gydradd o ran sut maen nhw’n buddsoddi mewn addysg Gymraeg, a ddim yn deall—neu ddim eisiau deall—eu rôl o ran creu'r galw, nid dim ond darparu yn ôl y galw. Gwn am athrawon sydd yn gallu’r Gymraeg sydd wedi gadael dysgu mewn ysgolion Cymraeg i fynd i ddysgu mewn ysgolion newydd Saesneg gan fod y cyfleusterau i fyfyrwyr a staff yn well, yn hytrach na cheisio dysgu mewn adeilad anaddas sy'n cwympo i ddarnau.

Felly, pa ymchwil sydd wedi ei gomisiynu gan y Llywodraeth i ddeall pam fod addysgwyr sy’n gallu’r Gymraeg yn gadael y proffesiwn neu’n dewis peidio â dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg? Onid yw deall hyn yn allweddol bwysig os ydym eisiau sicrhau mynediad cydradd i ddysgu’r Gymraeg i bob disgybl yng Nghymru?

Fel y dywedoch yn eich datganiad, does dim amser i'w wastraffu ac mae llawer o waith i'w wneud. Rwyf yn falch iawn eich bod yn hyderus y byddwn yn gallu cyflawni’r camau, ond yr her yw os bydd y camau hyn hefyd yn arwain at gyrraedd y targedau. Dyna fydd mesur llwyddiant.